Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
BRIODAS.-Dydd Mercher, Gorphenaf 20, yn Nghapel y Borough, rhoddodd y Parch. D. C. Jones gwlwm piiodasol am Mr. San uel Jones, Yardley Street, Clerkenwell a Miss Maggie Jones, Bermondsey New-rd. Rhowd y briodasferch ymaith gan Mr John Morgan, Bermondsey Street, a'i morwyn briodasol oedd Miss Ellen Jones, Rock Villa, Llan- ddewi-Aberarth, chwaer y briodasferch, y rhai oeddent wedi ymwisgo yn wir ddestlus a phrydferth. Teiliwr y priodfab oedd ei frawd, Mr. Ben Jones, 92, Rossiter Road, Balham, S.W. Gan fod y priodfab a'r briod- asferch yn aelodau ffyddlon yn y Boro' daeth torf lioscg o'u cyfeillion i'r addoldy i ddangos eu parch a'u dymuniad da iddynt. Wedi gosod y cwlwm yn y capel eis- teddodd torf liosog wrth y bwrdd i gyf- ranogi o'r wledd briodasol yn nhy Mr. a Mrs. Ben Jones, 92, Rossiter Road, Balham, lie y treuliwyd prydnawn difyr mewn ym- gomio a chanu. Aeth y par dedwydd o'r dref i dreulio eu mis mel ar lanau beisfor Aberteifi. Boed iddynt oes faith lawn o ddedwyddach a llwyddiant.
Yn 01 o'r Gorllewin.
Yn 01 o'r Gorllewin. TEITHIO GARTREF DRWY KANSAS. [GAN MISS ELLIN OR WILLIAMS, CASTLE-ST.] Ar ol treulio dau Sul yn Emporia-un sych, braf, a'r llall yn un gwlawog enbydus -yr oeddwn i fyned i Lebo ar ymweliad a fy nheulu-Robert Edwards o Pant Gwyn, ac Ann Howell o Llechwedd y Fwyalchen, Llanuwchllyn, gynt. At hyny, yr oeddwn i siarad am Sul yn Arvonia a Lebo. Daeth diwedd yr wythnos ac yn amser i mi fyned at fy nghyhoeddiad ond, ddydd Iau, dyna y cwmwl yn tOIi, meddai pobl Emporia. Wel, wn i ddim pa fodd y golly ngwyd y fath gawod erwinol ar y tdaear, ond gwn hyn, fod pob heol yn afon mewn byr amser, ac onibae fod preswylfa L. W. Lewis, lle'r arhoswn, ar godiad tir, mae yn debyg y buasai genyf rywbeth i'w wneuthur heblaw ysgrifenu y llythyr hwn heddy*. Dyna yr ystorm a mwyaf o farddoniaeth ynddi a welais erioed! Disgynai y gwlaw yn byst unionsyth, y mellt fel ymryson ehedeg, a'r ddaear yn crynu gan roch y taranau. Gwnaed dinystr mawr ar gnydau ac anifeiliaid; ond ni chollwyd byw- ydau dynol yn y rhyterthwy. Ddydd Gwener yr oedd yn amser eto i mi hel fy mhac am Lebo. Clywais lawer o son am lifogydd Kansas, a dyna fi yn gorfod sylweddoli beth oedd eu heffeithiau. Yr oedd Mr. Roberts, New York, a minau yn hwylio cyd-deithio i Lebo, pryd y caw- som ar ddeall nad oedd y tren yn gallu tramwy, felly gadawsom hyd ddydd Sadwrn, a dyna hi yn waeth fyth. Yr oedd y dyfr- oedd wedi codi a myned a darn o'r ffordd i'w canlyn. Dyna ddyryswch yn awr; yr oedd Mr. Roberts wedi croesi mor y Wer- ydd dros naw deg o weithiau yn ddiogel, a dim eisieu boddi mewn rhyw ddwfr bach fel oedd yn Kansas, a minau wedi cael fy nghadw rhag peryglon yn y ddinas am amser hir, a dim yn mentro fy mywyd ond yr oedd Lewis yn dyweyd fod pregethwr i gadw ei gyhoeddiad, ar unrhyw gost; ac nid ychydig o drafferth a chost a gymerodd y boneddwr Cristionogol i fy nghael i Arvonia erbyn oedfa boreu Sul. Yr unig ffordd oedd myned gyda'r tren i Reading, hyny o fewn chwe' milltir i'r capel; a cban fod y ffordd yn ddrwg ar ol y llif, a'r nos yn dod, nid oedd gobaith myned i ben y daith y diwrnod hwnw, a minau yn hollol ddieithr yn y parth hwnw o'r wlad. Yr oedd Mr. Lewis wedi anfon pellebyr at fy nheulu i ddod i'm cwrdd, ond yr oedd rhywun esgeulus wedi cadw y pell- ebyr yn ei logell am dair awr. Ond yr oedd fy nghyngorwr doeth a gofalus wedi rhag- weled yr helbulon a allai ddod i'm cwrdd ac wedi rhoddi llythyr yn fy Haw i'm cyfl- lwyno i drugaredd Cymry Reading; ac mae llythyr ag enw L. W. Lewis, Emporia, arno yn gystal a dim fedr d} n gael yn ei feddiant i fyned trwy ganolbarth America. YN ARVONIA. Wedi myned mor bell ag yr elai y ger- bydres, dyna Mr. Roberts a minau'n hwylio am) stôr J. Griffiths i ddyweyd ein helyntion, a fi i gyflwyno fy llythyr, a dyna ddigon. Cawsom gartref diogel am y noson. Boreu Sul dyma Mr. Griffiths yn ein harwain yn ddiogel ac yn brydlon i ddechreu y Saboth yn Arvonia. Os oedd fy llawenydd yn fawr am gael cysgod yn yr ystorm, yr oedd llaw- enydd y teulu yn fawr wrth fy ngweled; Mrs Griffith yn hanu o hen deulu parchus Wat- kins o Lanuwchllyn, llawer o ba rai sydd yno yn bresenol. Pan yn cerdded yr heol adnabyddwyd fi gan deulu arall oeddwn wedi cwrdd yn New York, tra yn aros yn Nghartref y Cymry, sef Mr. a Mrs. Humphreys, hwy yn myned i'r Hen Wlad a ninau yn dod oddiyno. Wel, dyma fi yn ddigon poblogaidd yn Reading i gael unrhyw beth a fynwn, ac aros yno cy- hyd ag eisieu. Daeth boreu Sul yn llawer rhy fuan a dyna ni yn cychwyn trwy wlad doreitbiog Kansas. Yr oedd pob cvimwl wedi cilio oddiar fron y ffurfafen, Duw wedi gwisgo'r ddaear a'i ogoniant pob glas- welltyn ar y Uawr, pob blodeuyn ar ochr f ffordd yn cicdfori enw y Crewr; yr adifeil- iaid yn prancio eu diolchiadau, yr adar coch- ion, melynion a gleision yn scipio ar hyd Y brigau, gan ganu can o fawl i Awdwr bywyd. Dyna ni mewn pryd at yr Ysgol Sul, yr honi gynhelid cyn yr oedfa. Daeth yno gapelaid Ilawn o bobl, a hyny trwy anhawsderau,- oblegid yr oedd y dyfroedd yn cau eu ffyrdd. Yr oedd gweinidogion parchus y lie yn fy' nghroesav u ac yn foddlon helpu eu goreu, am fod genyf ddiwrnod caled o'm blaen. Yr oeddynt wedi trefnu i mi siarad dair gwaithf yn Arvonia y boreu yn Gymraeg, yn Lebo y" prydnawn, a'r nos yn ol i Arvonia i anerch y bobl ieuainc yn Saesneg. Dechreuodd Mr. Roberts gwrdd y boreu; y Parch. Mr. Evans y prydnawn, a Dr. Todd Jones yn yr hwyr, y ddau enwad yn unedig am y Sul. Cawsom Saboth ben igedig. Ni welais er pan wyf wedi gadael Llundain y fath gynull- eidfa o bobl ieuainc ynghyd ag a welais yn Arvonia nos Sul. Galwyd cwrdd y bobl ieuainc ar ol i mi ddiweddu, ac er mawr syndod i mi arosodd yr oil o'r bron i mewn. Mae hyn yn glod mawr i'r gweinidogion sydd ) n Ilafurio yn y cylch hwnw nad ydynt yn esgeuluso yr wyn sydd dan eu gofal. Teimlwn yn flin iawn ar ol bod yn y cer- bydau gymaint ar hyd y ffyrdd garw, anwas- tad a thyllog. Da oedd fod gan fy nghefn- der ddigon o geffylau yn barod i'w newidf onide nis gallasem wneyd y teithio o fan i fan. Nid byth yr anghofiaf yr olwg o amgylch y capel y buarth yn ddu gan gerbydau a cheffylau. Wrth i ni fyned ar hyd y ffordd adref yr oeddym fel Pharaoh a'i lu, rhai ar feirch, ereill mewn cerbydaur a'r bobl yn gorfod rowndio milldiroedd am fod yr afonydd wedi codi mor uchel. Treul- iais ychydig ddyddiau gyda'm teulu a chy- feillion caredig, gan anerch y Cymry yn Lebo nos Fercher, ac addaw myned yn ol i anerch y bobl ieuainc yn Saesneg. Yr oedd yn rhaid i mi fyned i Emporia at y Sul, gan- nad oedd J. M. Hughes wedi dychwelyd.
Bwrddy 'Celt.'
Bwrddy 'Celt.' Hawdd gweled oddiwrth y cynulliad ddaeth ynghyd i'r cwrdd diweddaf fod y tywydd poeth yma wedi effeithio yn ddirfawr ar y cwmni. Yr oedd pawb bron yn rhy ddiog i siarad gair, ac oni bae am y. cystadleuwyr buasai'r cwrdd yn fflat. Ond 'does dim at rhyw fath o gystadleuaeth er mwy codi hwyl. Nid rhyfedd fod ein cyngherddau wedi mabwysiadu'r her-unawd fel yr atdyniad mawr; a'r hyn yw hcr-unawd yn ein cyngherddau cyffredin yw'r gystadleuaeth haner-coronog yn y CELT, a chan fod disgwyliad am dipyn o hwyl pan oedd y beirniad yn rhoddi ei ddedfryd caed cynulliad boddhaol iawn o gylch yr oraedd. Pan esgynodd y barnwr i'w sedd, dywedai fod yn amlwg nad oedd y cystadleuwyr mewn hwyl bolitic- aidd yn y tywydd poeth yma ac nad oedd yr un o honynt mewn difrif yn meddwl cael mynd yn A.S. dros Gymru. Oherwydd, ynglyn a'r gystadleuaeth ar yr anerchiad etholiadol, ni ddaeth ond tair i law. A druain o'r ymgeiswyr, ni chelai yr un o honynt byth ei ethol ar Gyngor Plwy' chwaethach i'r Senedd Ymherodrol ar y fath addewidion difudd. "Rhaid i chwi 'mhlant bach i," ebai yn dadol, astudio politics Oymru ar wahan i bolitics Lloegr er mwyn cael allan beth yw ein hangenion arbenig ni, ac ar ol gwneyd hyny feallai y deuwch yn deilwng o anerch torf fel cynulliad y CELT ar faterion PWYSlg y dydd." Nid oedd yr un o'r tri yn haeddu'r wobr, ac addaw-- odd y Macwy y gwnai gadw'r arian hyd nes y bydd- ant mewn cywair gwell i ymgeisio am danynt. Ynglyn a'r gystadleuaeth i'r Beirdd am y desgrifiad goreu o'r Cymro Llundeing ar ei wyliau haf, daeth chwech i law, sef eiddo John Jones, Ap Llinos, Cardi Pengoch, Clwydian, Lazarus a Glan-y-don. Mae'r gystadleuaeth hon yn lied dda ar y cyfan, ef mai molawd i wyliau sydd yn benaf ganddynt ac nid desgrifiad o'r Cymro ar ei wyliau. Mae Ap Llibos a Glan-y-don yn treulio eu hawen bron i gyd i ddes- grifio'r llanerchau lie yr erys am ei wyliau, a byddent yn fwy agos i'w dawn pe wedi ymgystadlu yn nghystadleuaeth Y lie goreu i dreulio gwyliaU haf." Ar ol eu pwyso a'u mesur yn ofalus a'u darllen drosodd lawer iawn o weithiau ya dywed y beirniaid cyffredin pan ond wedi eu darllen unwaith, yr ydym o'r farn mai eiddo Lazarus sy'n haeddu'r anrhyd- edd o fod yn Fardd Haner-Coronog y tro hwn ac iddo ef y dyfernir y wobr gyda phob urddas teilwng ° gylch haner-coronog y CELT. Wele ei ganig :—
Barn y Bobl.
Barn y Bobl. lechyd i galon pob Cymro ac i bawb a gar wir les addysg," medd Y Genedl, d oedd gweled cynllun tra eofn a doeth Pwyllgor Addysg Meirion ynglyn a'r iaith Gymraeg. Mae'r wawr wedi tori; weithian mae gobaith am gyfiawnder i blant Cymru. Na orphwysed addysgwyr y siroedd ereill hyd nes y cyd- nabyddir dwy egwyddor sylfaenol cynllun Meirion,-hawl plant Cymru i gael eu dysgu i ddarllen ac ysgrifenu eu hiaith eu hunain, a hawl addysg i gael y cyfrwng goreu i'w thraddodi ynddi,-y'mhob Pwyllgor Addysg yn Nghymru. Dan yr hen drefn dyrchefir y Saesneg ar draul y Gymraeg nes meithrin cywilydd yn y plant o'u hiaith a'u pobl, tra nas llwyddir i gael fawr lewyrch ar ddysgu Saesneg er hyny. Mae'r drefn newydd yn gosod yr ieithoedd yn eu trefn naturiol, heb sarnu ar hawliau yr un ohonynt, tra ar yr un pryd yn gosod i lawr y llinellau goreu er sicrhau yr hyn a ddylai fod yn nod pob plentyn o Gymro,—gwybodaeth lawn o'r Saesneg. Cymeradwywn gynllun Meirion i'r siroedd ereill yn galonog iawn." "Pe edrychasid ar grefydd drwy lygad natur, credwn," medd y Drych," y buasai genym heddyw lawer rhagorach golygiadau am beth fydd crefydd wir, yn yr oesau sydd ar ddyfod. Yr oedd y Gwaredwr yn hoff o edrych ar grefydd fel bywyd, oblegid y mae ei gymhariaethau yn ymdroi o amgylch y syniad o fywyd. Bywyd yw crefydd, os yw o ryw werth. Nid peirianwaith yw, ond ysbryd y peth byw yn gweithio yn ysbryd- oedd y teulu dynol i'w gwneyd yn iawnach ac yn ddedwyddach. On o bethau rhyfedd hanes crefydd yw y ffaith y rhoddir cymaint o bwys ar y cibau, y plisg, y codau, yr eisin a'r us gan wahanol enwadau crefydd. Ar hyd yr oesau, arwein- iodd hyn i lawer o ymrafaelion, drwg deim- lad a thywallt gwaed-y gwahanol bleidiau gorselog yn ymddadleu a'u gilydd ynghylch pa un ai y4 cibyn I ai y cobyn' sy'n iawn." u Mae'n helbul garw er's cryn amser," medd Y Llan, rhwng yr ysgolfeistr a nifer o rieni'r plant yn Nghapel Dewi, Llandyssil. Ysgol Eglwysig oedd yno, ond trosglwydd- wyd hi i'r Bwrdd gan y diweddar ficer. Eg- lwyswr ydyw'r ysgolfeistr presenol, ac nid oes dadl nad ydyw yn cyflawni ei waith er boddlonrwydd y Bwrdd Addysg a'r Bwrdd Ysgol; ond, rywfodd neu gilydd, y mae nifer neillduol o'r rhieni yn tynu'n groes iddo, ac wedi ymuno i godi ysgol ar eu traul eu hun- ain mewn gweithdy saer ar bwys yr Ysgol Fwrdd. Mae'n ofidus meddwl y ceir yn eu plith rai Eglwyswyr a ddylent ymddwyn yn wahanol. Gwnaed offerynau o honynt gan rai cyfrwysach na hwynt-hwy. Dylasent ddangos mwy o asgwrn cefn, a chefnogi yn hytrach na gwrthwynebu yr ysgolfeistr."