Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Yn un fros Ryddid.

News
Cite
Share

Yn un fros Ryddid. YR ETHOLIAD CYFFREDINOL NESAF MANIFFESTO GAN MR. LLOYD-GEORGE. Yn y gynhadledd yn Mhenybont ynglyn a Chyngor Rhyddfrydol Cymru, a gynhaliwyd chydig wythnosau yn ol, penderfvnwyd agor cronfa er cynorthwyo'r arwyr Rhyddfrydol yn yr etholiad nesaf. Ymgymerodd Mr. Lloyd-George o rhoddi cychwyn i'r mudiad, a chyn gwneyd apel, y mae yr aelod poblogaidd wedi llwyddo i gasglu tanysgrifiadau o dros 5oop. Wele ychydig enwau o'r rhestr:—Mr. Wynford Phillips, J05P; Syr George Newnes, l05p; Mr. Chas. Morley, 25P; Syr Alfred Thomas, 25 Mr. Sam Smith, iop; Syr James Joicey, 50p; Mr. H. E. Kearley, 5op; Mr. M'Kenna, 5p; Mr Howell Idris, 20p; Mr Alfred Davies, 5p; Mr. Frank Edwards, iop 10s; Mr. Her- bert Lewis, iop; Syr Charles McLarren, 25P; Mr. Samuel Moss, iop; Mr. Brynmor Jones, 5P; Mr. Ivor Guest, 2ip Mr. E. J. Griffith, ip is; Mr A Thomas, 5p Mr Abel Thomas, 5p; a Mr. Lloyd-Geore, 2p. Mewn llythyr at Mr. W. H. Hughes, ys- grifenydd y Cyngor, ysgrifenodd Mr. Lloyd George fel y canlyn ar destyn y gronfa:— APEL MR. LLOYD-GEORGE. "Da genyf yw deall fod trefniadau wedi eu gwneyd er cario allan y penderfyniad a basiwyd yn y Cyngor yn Mhenybont i agor cronfa er cynorthwyo'r Rhyddfrydwyr yn eu hymdrech adeg yr etholiad nesaf. Bydd yr etholiad hon yn un o'r rhai pwysicaf, debygaf, yn hanes Cymru. Bydd holl gwrs hanes Cymru am genedlaethau yn dibynu ar y modd y try allan. Os tybia neb fod y sylw hwn yn ormod, ystyried am foment pa gwestiynau sydd i'w penderfynu gan yr ethol- wyr. pan ddelo yr awr i farnu. Enwaf ddau gwestiwn. Cydnabyddir yn gyffredinol y bydd i'r etholiad nesaf bender- fynu a ydyw'r Ysgolion, lie mae canoedd o filoedd o blant yn cael eu haddysgu, i fod dan ofal y clerigwyr neu ynte yn rhydd oddi- wrth reolaeth offeiriadol. Beth mwy pwysig i genedl i'w ystyried na hyn ? Bydded i'r rhai hyny sydd wedi astudio cyflwr yr ysgol- ion yn y gwledydd lie mae'r ysgolion yn hollol dan ddwylaw'r offeiriaid, ateb hyn. Pwnc arall ydyw pwnc Dirwest. Y mae y Llywodraeth, trwy fesur y maent yn ceisio basio trwy y Senedd yn awr, yn rhoddi bod i'r hyn a'i gwna yn anhawdd iawn i unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol ymdrin a'r gwaith o geisio gorchfygu gelyn penaf y genedl. Os na fydd i'r genedl ymwrthod a'r holl fusnes, y cyfle cvntaf, bydd y canlyniadau yn ddifrifol iawn. Y mae y ddau gwestiwn hyn o ddyddordeb neillduol i Gymru. Yn wir, gellir dywedyd fod Cymru wedi cymeryd rhan flaenllaw ac anrhydeddus yn yr ym- drech dros gydraddoldeb crefyddol yn y wladwriaeth, ac yn yr ysgolion. Bydded iddi gadw'r flaenoriaeth am hir amser. "Yn etholiad Cynghorau Sirol diweddaf, cafwyd buddugoliaeth mor ardderchog dros egwyddorion cydraddoldeb crefyddol, fel y bu son am dani drwy'r Ymherodraeth. Der- byniais newyddiaduron o Cenada ac o Aws- tralia yn sylwi gyda phleser ac edmygedd ar yr arddangosiad digyffelyb a wnaed gan y Cymry yn erbyn llywyddiaeth offeiriadol yn yr ysgolion. Y maent yn brwydro brwydr galed a hanesyddol. Yr hyn yr wyf yn ei ddymuno yn yr etholiad nesaf nesaf yw gweled Cymru yn anfon i'r Senedd gyfangorph o aelodau Rhyddfrydig i ddadwneyd y Mesur Addysg, ac i fynu mesur a ryddha ein hysgolion o un pen i'r deyrnas i'r llall. Sicrhau Cymru Rhyddfryddig di-wahan—Cymru yn un dros Ryddid—dd) lai fod ein hamcan penaf. At gyflawni'r amcan ardderchog hwn, dylai pob Cymro fod yn barod i aberthu. Yr hyn a ddioddefasom fwyaf o'i herwydd yn mrwydr y Cynghorau Sirol ydoedd prin- der llenyddlaeth gymwys at alw sylw'r bobl at yr holl ffeithiau ynglyn ag anhegwch y mesur, yn enwedig tuagat Ymneillduwyr. Daeth ceisiadau o bob cvfeiriad am bam- phledi ond yr oedd y cvflenwad yn hollol anigonol, ac yn ami heb fod yn gyfaddas at angenrheidiau Cymru. Yr ydym yn awr am geisio gwneyd y diffyg hwn i fyny erbyn yr etholiad nesaf; ac yr ydym yn apelio yn hyderus at holl gyfeillion cydraddoldeb cref- yddol a dirwest i'n cynorthwyo. Amgauaf restr o danysgrifiadau addawyd i mi gan aelodau Seneddol ac ereill hyd yma. Y maent oil yn cydnabod gwerth dir- fawr cronfa o'r fath erbyn dydd y frwydr a rhoddasant yn barod iawn, er y bydd i'r etholiad bwyso yn drwm arnynt. Bydded i bob Rhyddfrydwr yn y Dywysogaeth wneyd ei ran a theimlaf yn sicr y cawn fuidugol- iaeth y cofir am dani tra byddo darllen am frwydrau dros iawnderau cydwybod."

RFN A'R LLALL.

Pwipud y Ddinas.

PROVINCIAL PAPERS IN LONDON.