Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinaa.

News
Cite
Share

Oddeutu'r Ddinaa. I Hatfield Park yr aiff Cymry Llundain ddydd Llun. Mae rhagolygon y ceir gwib- daith lewyrchus yno eleni fel arfer. Capelau gweigion a geir bellach hyd ddi- wedd mis Awst, gan fod cynifer o'r dinaswyr yn myned ar eu gwylian ar hyn o bryd. Mae'n rhaid esgusodi pregethwr mawr bob amser am dori ei gvhoeddiad, ac ni theimlid digter tuagat Mr. Lloyd-George ddydd Sul am fethu cyrhaedd Little Alie Street. Yn wir, yr oedd wedi bod yn pre- gethu mor galed wrth baganiaid Seisnig yn ystod yr wythnos fel y gellid yn hawdd faddeu iddo am beidio gwynebu torf o G) mry pybyr ar Sul poeth fel y diweddaf. Nos Iau, yr 2iain cyfisol, cynhaliwyd cy- farfod sefydlu y Parch. R. O. Williams (gynt Pemaenmawr) yn weinidog ar eglwys Feth- odistaidd Holloway. Ar ol cwpaned o de a danteithion, ac o dan lywyddiaeth Mr. Lewis, Treborth, rhoddwyd croesawiad cynes i'r Parch, a Mrs. R. O. Williams, gan Mr. John Morgan, diacon, ac ategwyd gan Mr. E. W. Jones mewn modd calonog. Tystiai y Parch. R. O. Williams fod ei ddyfodiad wedi bod yn hynod hapus hyd yn hyn. Nid oedd ef yn credu ei fod wedi cyfarfod a'r un dyn na allai orchfygu ei oerni drwy ysgydwad Haw. Yr oedd ganddo gred fawr mewn ysgwyd llaw gynes-nid blaen bysedd. Daeth yno i weithio, ond nid oedd am gymeryd gwaith neb oddiarno. Fe dorai ef waith iddo ei hun. Yr oedd wedi sylwi fod ysbryd gweithio yn llawn yn nynion ieuainc Holloway, ac ysbryd o barch gyda hyny a rhaid oedd aberthu; nid oedd yn bosibl goleuo heb losgi. Dosbarth pwysig arall yn yr eglwys oedd y cleifion, a byddent hwy yn wrthrych gofal arbenig ganddo bob amser. Cafwyd caneuon gan Mrs. Hornsby, Miss Lizzie Williams a Mr. D. E. Davies, a chy- feiliwyd gan Miss Williams a Mr. Roberts. Diweddwyd trwy weddi gan J Garnon Owen. ANRHEG BRIODASOL. [I Mr. Samuel Jones, 12, Yardley Street, Shaftesbury Avenue, W., d Miss Maggie Jones, .34, Bermondsey-st., S.E., Gor. 20, 1904.] Daeth haf yn llawn o urddas I loni gruddiau'r byd, Daeth Maggie drwy briodas Yn wraig i Sam "run pryd Os per yw can Gymreigiol Mewn gwlad estronol bell, Mae deuawd priodasol I farddol glust yn well. Ceir bywyd hen lancyddol Yn oer fel darn o jâ, Ni fedda'r gwres adlonol Sy'n cyfansoddi ha'; Nid glo yw tan carwriaeth Sy'n bod rhwng mab a mun, Ond bylif o drydaniaeth Yn ysu'r ddau yn un. Myn f' awen eu hedmygu Wrth allor Hymen der, A cheisia eu hanrhegu A swynol ganig her Mae perlau mewn barddoniaeth A swyn mewn tad a mam, Ond gem rinweddol brydferth Am oes yw Mag' i' Sam.' Er chwilio'r greadigaeth Yn helaeth ar ei hyd, 'Does dim ar faes dynoliaeth Fel gwraig a chartref clyd Y stafell i obeithion Yw myn wes dirion Sam,' Ond cariad heb waelodion Yw calon dyner mam. Eu bywyd fyddo'n hapus A gloyw ar ei hyd, Tangnefedd Duw a erys 0 fewn eu bwthyn clyd; Rhosynau per fo'n gwenu Ar uniawn lwybrau'u taith, A gras y Nef yn gwynu Cymeriad byth medd iaith. H. LIt. W. Dydd Iau, Mehefin 2 lain, yn addoldy Cymreig y Trefnyddion Calfinaidd, Walham Green, unwyd mewn glan briodas Mr. Henry Williams o'r Broadway a Miss Ethel Parke, Elmstone Road, Fulham. Cwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Tudno Williams, M.A Y mae Mr. Henry Williams yn nai i Mr. Timothy Davies, L C.C., gyda pha un y mae yn dal y swydd bwysig o brif glerc yn y counting house. Y gwas priodas ydoedd Mr. William Davies, masnachydd, Brixton. Deallwn fod y par ieuanc wedi myned i Folkestone i dreulio eu mis mel. Y mae fod gwr ieuanc o Gymro, fel Mr. Williams wedi dringo i'r fath safle o bwysig- rwydd a chyfrifoldeb, a hyny yn gyfangwbl ar gyfrif ei alluoedd a'i gymeriad, yn ad- lewyrchu peth urddas ar genedl y Cymry sydd yn trigo yn y brifddinas. Gan mai hon ydoedd y briodas gyntaf a weinyddwyd yn yr aidoldy hwn, gwaieth y frawdoliaeth anrheg hardi i'r par ieuanc o Feibl Teuluaidd a Llyfr Hymnau ar yr achlysur. Oes hir, oes dda fydio i'w rhan. Dyma ddvwed gohebydd lleol y Drych o Racine, Wisconsin :—" Cyrhaeddodd y Parch John Davies, Shirland-road, Llundain, ein dinas yn brydlon erbyn y Sab )th, Gor- phenaf 3ydd, ac erys yma dros y m's. Mae yn bregethwr cryf a sylweddol, ac yn dra- ddodwr hyawdl a g jpresog, a'i lais a'i berson- oliaeth yn ei ffafrio yn fawr. Mae ei safle fel gweinidog cymeradwy a llafurus yn mysg y T.C., yn yr Hen Wlad, yn teilyngu iddo y derbyniad mwyaf serchog yn mhob lie ag y digw) ddo fyned iddo." Sonia rhai o'r bobl ieuainc ieuainc yma am sefydlu clwb Cymraeg yn Llundain; ac er mwyn cael barn eu gilyrld, cyferfu nifer o honynt y noson o'r blaen, ac yn ol pob hanes caed digon o awgrymiadau. Y mae awgrymiadau a chymeradwyaethau ddigon wedi eu cael er's blynyddau, ond y diffyg yw nad oes neb yn barod i roddi'r pres er mwyn gosod y mater i weithrediad. Y mae eisieu lie canolog ar Gymry Llun- dain: lie y gellid cydgwrdd ar unrhyw noson o'r wythnos, ac ni ddylai fod yn beth rhy anhawdd i ni ei sicrhau pe ceid cydweith- rediad ac undeb y gwahanol adranau o'r bywyd Cymreig yn y ddinas. Ond dylid bod yn ofalus ar y cychwyn ar ba linellau ei seilir gan fod yna berygl iddo fyn'd ar lin- ellau hollol anaddas i ni fel cenedl. Rhaid cofio fod yna wahaniaeth dirfawr rhwng daliadau y Cymro o'i gydmaru a'r Sais. Os bu cwyno am wlaw yn mysg rhai mas- nachwyr dinesig yn ddiweddar, fe gafodd y gwaethaf o'r grwgnachwyr ei lwyr foddloni debygem yn nylif dydd Llun. Bydd gan Mr. Alfred Davies, A.S., dasg anhawdd iawn o'i flaen yn etholaeth Llanelli a Chaerfyrddin adeg yr etholiad cyff redinol nesaf, os yw'r hyn a ddywedir gan y Times yn wir. Yn y papyr hwnw y mae llythyrau wedi ymddangos, yn taeru fod Mr. Davies wedi, ac yn parhau i lwgrwobrwyo yr ethol- aeth. Ond, yn sicr, y mae eglurhad llawn gan Mr. Davies am yr oil a werir ganddo yn mysg ei etholaeth.

MARW " GOLDEN RULE JONES."

Advertising