Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
Mae Esgob Pabaidd Mynyw (Dr. Francis Mostyn) newydd gyhoeddi llythyr at ei glerigwyr yn hysbysu ei fod, trwy haelioni boneddiges o'r enw Miss Sankey, Treffynon, yn alluog i sefydlu coleg yn y dref hono. Prif amcan y coleg fydd dysgu'r iaith Gym- raeg i efrydwyr ieuainc sydd a'u bryd ar fod yn yr esgobaeth. Dywedir fod y Parch. John Hughes, M.A., wedi rhoddi rhybudd yn y Cyfarfod Misol diweddaf, ac i Eglwys Fitzclarence Street, Lerpwl, nos dranoeth, o'i fwriad i ymddi- swyddo. Par hyn ofid cyffredinol, a thaer ddymunwyd ar Mr. Hughes ail ystyried y mater. Deallir hefyd mai gwaith eglwys Bethlehem, Netherfield Road, yn codi eu capel newydd ar gwr o faes eglwys Fitz- clarence S.reet, ydyw'r achos.
Bgd g Bgsfesbi Ban. I
Bgd g Bgsfesbi Ban. I EISTEDDFOD BOXING NIGHT. Y mae rhag- len yr Eisteddfod hon newydd eichyhoeddi. Rhoddir ynddi le amlwg iawn i gerddoriaeth -a chynygir iop 10s yn y gystadleuaeth gorawl am y dadganiad goreu o Cain Ber- oriaeth gwyna'n brudd (J. H. Roberts). Y mae hefyd gystadleuaethau i bartion, ped- warawdau, triawdau ac unawdau. Da genym weled y pwyllgor yn cynyg gwobr am gyfan- soddi Rhangan i Blant, ar y geiriau, Fe elai plant at Iesu Grist" (o lyfr hymau y Methodistiaid). Ni roddir ond y nesaf peth i ddim, fel rheol, o gvfleusderau i'n cyfan- soddwyr ieuainc yn yr eisteddfodau hyn— rhoddir yr holl arbenigrwydd ar y lleisiwr ar draul amddifadu'r cyfansoddwr. Mwy o astudiaeth gerddorol a ddylai ddeilliaw o'r eisteddfod. Diwylliant ddylem osod yn nod i gyrhaedd ato ac nid ariangarwch. HERR WEINGARTNER sydd wedi ei apwyntio yn arweinydd i Wyl Gerddorol Sheffield, yn lie Mr. Henry J. Wood, yr hwn sy'n gorfod ymddiswyddo oherwydd cysylltiadau cerdd- orol ereill. Mewn rhai ystyron, y mae ap- pwyntiad yr arweinydd byd-enwog—Herr Weingartner-yn rhoddi boddhad i lawer o garwyr y gan ac enillodd ef ymddiriedaeth cantorion Sheffield pan yr arweiniodd gyng- herddau y Kruse Festival. A rhwng yr Almaenwr hwn, a Dr. Coward fel chorus master," gellir bod yn dra sicr y ceir per- fformiadau da o'r gweithiau corawl. DEURY LANE. Oherwydd poethder yr hin, terfynir tymor yr Opera Seisnig dipyn yn gynarach nag a fwriadwyd ar y dechreu. Ond pan y cyhoeddodd Mr. Manners ddydd Sadwrn fod y tymor ar ben, datganodd ei fod yn berffaith foddlon ar ganlyniadau ei anturiaeth. Dywedodd, hefyd, ei fod wedi gwylio, noson ar ol noson, dueddiadau y cyn- ulliadau a ddaethant yno i wrando'r gwa- hanol weithiau a gyflwynwyd ar y llwyfan. Yr oeddynt yn bobl edmygol, beirniadol, ac yn ystyriol iawn yn eu cymeradwyaeth. Y mae Mr. Manners yn berffaith argyhoedd- edig y bydd y National English Opera yn sefydliad arhosol yn y dyfodol agos. "CARMEN SYLVA." Sylwarom yr wythnos ddiweddaf ar y gantores fach hon. Gwnaeth y mwyfafrif o'r newyddiaduron sylw mawr o honi. Fodd bynag, gwnaeth y fechan ei hymddangosiad cyntaf ar brydnawn Gwener y Isfed, a dyma fel y beirniadwyd hi yn y Daily News, gan E. A. B.:— No doubt she has a voice of considerable merit and certainly her high notes are above the average of children's, but she by no means sang in tune, and her production is not good. Now and then the quality of tone was quite unpleasant. The poor little mite was evidently very nervous lest she should not re- member her lesson aright. There was no kind of reason ,shown why Carmen Sylva should sing in public. COVENT GARDEN. Ddydd Llun terfynir tymor yr Opera yn Covent Garden gyda pherfformiad o La Boheme." Cymerir y prif ranau gan Madame Melba a Signor Caruso.
[No title]
Gwneir priodasau yn y nefoedd; ond din- ystrir hwy ar y ddaear-ac yn y llysoedd cyfreithiol. Gelyn masnach yw y meddwyn; gelyn y meddwyn yw y bragwr gelyn y bragwr yw yr Eglwysi Rhyddion. Synwyr cyffredin yw yr hyn y tybia pob un ei fod yn ei feddiant ac nad ydyw yn meddiant y llall. Mae Mr. Arthur Chamberlain, brawd Apostol Diffyndollaeth, wedi addaw mynd i Sassiwn y M.C., gynhelir yn Nhredegar y mis nesaf. Traddodir araeth ganddo ar ddirwest. j
ARIAN YR OFFEIRIAD EVAN JONES.
ARIAN YR OFFEIRIAD EVAN JONES. Hen offeiriad parchus oedd Evan Jones— cyn ficer St. Benet. Bu fel rhyw esgob bach yn y cylchoedd Cymreig o'r ddinas yma am flynyddau lawer, gan mai St. Benet oedd yr unig Eglwys Gymraeg gan yr Hen Fam yn Llundain, hyd nes y sefydlwyd Dewi Sant a'r canghenau ereill. Bu'r hen wr farw yn llawn dyddiau, ar ol rhoddi heibio'i ficeriaeth i'r Parch J Crowle Ellis, a chladd- wyd ef mewn galar cyffredinol. Er iddo dreulio ei oes faith gyda chenad- aeth a chyfoeth "byd arall," gadawodd ein hen ficer gyfran lied dda o bethau'r byd hwn ar ei ol. Yn ol ei ewyllys, yr oedd ganddo tua thrigain mil o bunau, rhanodd y rheiny rhwng ei ddau blentyn.-mab a merch. Yr oedd y ferch i gael 116g rhyw bymtheg mil o bunau a'r gweddill i fyned i'r mab: ac er fod y ddau wedi cael eu dwyn i fyny ar aelwyd grefyddol, nid oedd y rhaniad yma yn ddigon i gadw'r cariad teuluol yn ddi- rwyg. Yr wythnos hon buwyd yn ceisio profi'r ewyllys ac am dridiau bu'r achos o flaen yr Uchel Lys. Mae'n ymddangos fod gan Evan Jones frawd-yn-nghyfraith o'r enw Evan Lloyd Jones, yr hwn oedd de-fasnachydd yn y ddinas yma a'r hwn a lwyddodd i gasglu rhyw ddeng mil ar hugain yn ystod ei oes. Gadawodd y rheiny i'r offeiriad. Dywedai'r ferch yn awr fod haner yr arian hyny i ddod i'w rhan hi ac nad oedd yr hen wr yn ei lawn synwyrau pan wnaeth ei ewyllys arnynt gan eu rhoddi i'r tad: a cheisiai yn awr atal profi yr ewyllys hyd nes y rhenid y cyfoeth yn deg rhyngddi hi a'i brawd. Dywed ii fod yr hen wr, ei hewythr, yn wallgo. Addefid ei fod yn dipyn o feddwyn gan wahanol dystion ac mai ei unig siarad oedd," How's trade?" Yr oedd wedi gwall- gofi ar wneyd cyfoeth, fel y gwna ami i un eto a phe llwyddid i brofi ei fod o'i bwyll, yna deuai haner yr arian i'r ferch a haner i'r mab. Ceisio penderfynu felly rhwng y brawd a'r chwaer hyn oedd gwaith y llys. Cyfreithiwr yw'r mab sydd wedi etifeddu y cyfoeth yma, ac mae ei chwaer yn briod am yr ail dro. Priododd yn nghyntaf a Daniel Jones, y cyfreithiwr enwog o Chan- cery Lane; ond pan ffodd hwnw o Lundain rai blynyddau yn ol, rhoddodd y wraig lythyr ysgar iddo. Yn ddilynol, hi a briododd un Mr. Bradford. Caed llawer o hanes tra anymunol yn ystod y gwrandawiad, a rhaid addef mai gwell fyddai cadw achos o'r fath allan o wybodaeth y cyhoedd. Yr oedd y ddwy- blaid yn barod i ymladd hyd yr eithaf, a chynrychiolid y ferch gan Syr Edward Clarke a'r brawd gan Mr. Lawson Walton -dau o wyr blaenaf y bar. Dydd Mercher, pan ar ganol croesholi'r ferch, ceisiodd y ddau ddadleuydd derfynu'r anghydwelediad, yr hyn a wnaed yn llwyddianus. Cytunodd y brawd i roddi'r pymtheg mil yn gvfan- gwbl i ofal y chwaer ynghyd a phymtheg cant o bunau tuagat y costau, yr hyn a dder- byniwyd. Felly, dyna heddwch o'r diwedd ynglyn ag arian Evan Jones, offeiriad St. Benet.
Y LLAETHWR A'R HATFERCH.
Y LLAETHWR A'R HATFERCH. Gall Mr. David Charles Davies, Rathbone Place, fod yn llaethwr gwych ac yn weithiwr dyfal, ond rhaid dyweyd ei fod yn garwr gwael. Profwyd hyny yn eglur yn y llys yr wythnos ddiweddaf pan ei dygwyd o flaen ei well am dori amod priodas ac yr oedd gwneyd twyll a merch ieuanc barchus o Gymraes yn fwy o drosedd o lawer yn ngolwg gwyr y gyfraith na phe bae wedi cymysgu dwfr a'i laeth neu werthu ymenyn amhur. Na, rhyw haner can' punt, man pellaf, yw'r ddirwy a roddir ar y cymeriadau gwaethaf yn y fasnach am dwylb canoedd o hen gwsmeriaid Ssianig, a pheryglu eu hiechyd; ond y mae chwareu castiau a chalon un merch fach ddiniwed o Gymraes yn beth a haeddai gosp fwy, ac felly y ba. Mae Miss Roderick yn ferch fwynaidd, yn hanu o rieni parchus yn Maury RDad, Stoke Newington, ac yn aelod ffyddlon yn nghapel Wilton Square. Gwasanaetha fel hatferch yn siop enwog D. H. Evans, lie y deil safle wir gyfrifol, a thrwy rhyw ddigwyddiad- anhapus fel y trodd allan-daeth yn gariad- ferch i Mr. D. C. Davies, a chredai pawb y byddent yn wr a gwraig cyn hyn. Yn wir, addawodd Dafydd Charles y buasai wedi priodi cyn Awst 1903, oherwydd yr oedd ei fusnes yn cynyddu ac eisieu rhywun arno i edrych ar ol ei gysuron teuluol. Ond tua'r Nadolig 1902, aeth yn ffrae rhyngddynt Ffrae waeth na'r cyffredin rhwng cariadon hefyd. Fe fethodd Dafydd gadw at ei gy- hoddiad ryw noson, a ba raid i Miss Roderick aros yn yr oerfel am dano nes y bu bron iddi a rhewi. Yn wir, addefai fod yr aros wedi oeri ei theimladau a'i chalon bron, a'r canlyniad oedd iddi fethu siarad llawer ag ef y noson hono. Mynai Dafydd mai wedi pwdi yr oedd ei gariad, a gwnaethhyny yn esgus—os gwelwch yn dda-i dori'r ym- rwymiai cysegredig oedi rhyngddynt, ac nis gwelai hi mwy. Gan fod apeliadau y galon wedi methu, mynai'r ferch gynorthwy'r gyfraith i havriio iawn am y twyll. Dauwyd a'r achos yn brydlon ger bron y llys, ac fel y gweddai i hen lane, atnddiffynwyd Mr. D ivies gan Mr. J. T. Lewis; ond ofer fu ea hesgasodiona'u hapeliadau, waeth 'roed I yn amlwg fod y dyn ifanc wedi twyllo'r ferch a'i chadw am flynyddau rhag chwilio am gariadlanc arall, heblaw son am fyned i gostau er parotoi gogyfer a'r uniad priodasol. Y canlyniad fu i'r llys gymeryd achos y ferch yn dyner a rhoddi ^150 o iawn ynghyd a'r costau, a gall Miss Roderick bellach deimlo'n hapus ei bod, beth bynag, wedi amddiffyn ei rhyw rhag addewidion gan laethwyr ac ereill o natur y Dafydd Charles Davies hwn.
[No title]
Mae son am gyfansoddiad newydd i Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymriu Gwrthwynebir ef yn egniol, modd bynag, yn enwedig yn Nghymru, am ei fod yn rhy bresbyteraidd. Ni fyn yr hen It ironsides" ddim ond undeb g-wirfoddol eglwysi un- igol. Mewn cyfarfod o Bwyllgor Gweithiol Prif- ysgol Cymru, a gynhaliwyd yn Llundain ddydd Sadwrn, rhoddwyd Ysgoloriaeth Gil- christ i Miss Gwendoline James, PontypwI. Mae Miss James wedi enill gradd B.Sc., a. gwasanaetha ar hyn o bryd fel athrawes yn Ysgol Ganolraddol Pontypwl. Yn Medi, bwriada Mr. Will Crooks, A.S., anerch cyfarfod yn Nghaernarfon gyda Mr. Lloyd-George. Mae gan Mr. Crooks feddwl mawr o gynulleidfaoedd Cymreig. Maent mor gyflym," ebe fe, fel y byddant, pan fo'ch yn cynyg tipyn o ysmaldod neu yn gwneyd pwynt da, yn ei weled yn mlaenllaw, ac yn tori i chwerthin cyn i chwi ei gyr- haedd." Yr oedd yna dros fil o bersonau yn gwneyd cais am yr un gorchwyl yn Bloomsbury yn ddiweddar. Er nad oedd y gorchwyl ond gwaith 1 labrwr,' yr oedd amryw o weithwyr celfol yn ymgeisio. Cymaint yw angen gwaith y dyddiiu hyn fel y sDnir fod ar- glwyddi yn aw/ddus am waith.