Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Oddeutu'r BdSmas.

News
Cite
Share

Oddeutu'r BdSmas. Ddydd Sul (yfory) cynhelir cyfarfod ar- benig yn Nghapel y Bedyddwyr, Little Alie Street. Anerchir y cyfarfod gan Mr. Lloyd- George, A.S., a rhoddir unawdau gan gan- torion poblogaidd. Aed llawer yno. Yn lie myn'd am eu gwyliau haf y mae nifer o'r dinasyddion wedi bod yn lied brysur yn y llysoedd cyfreithiol yma yn ystod yr wythnos a aeth heibio. 03 yw'r masnachwyr yn cwyno yn gyff- redinol fod yr amseroedd yn ddrwg gallwn feddwl fod yr adran gyfreithiol yn lied lewyrchus a barnu oddiwrth yr achosion Cymreig yn y dyddiau hyn. Caed engraifft nodedig o'r modd i wario arian mewn achos o Gaerdydd ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. Etifeddodd rhyw ddyn ieuainc gwyllt, rhyw haner can' mil o bunau ar ol ei ewythr, a gwariodd y cyfan cyn pen rhyw ddeunaw mis. Mae'r llaethwr Cymraeg hwnw a farnai'n ddoethach i dalu cant a haner o bunau yn hytrach na chael gwraig dawedog yn haeddu cael canmoliaeth am ei ddewrder. Faint o honom ni'r gwyr priod fuasii'n barod i dalu dwbl y swm am ychydig dawelwch weithiau! Oad pob un yn ol ei farn a'i ffansi yw hi gyda'r merched yma wedi'r cwbl. Son am laethwyr, y mae'r dosbarth hwn yn cael amser garw y dyddiau hyn. Mae'r hin yn effeitho yn ddrwg ar y llaeth. Mae'r papurau yn siarad am yr holl amhuredd ynglyn a'i werthiad, ac mae'r swyddog iech- ydol ar ei eithaf yn ceisio dal y trueiniaid sydd yn ei werthu yn amhur. Rhwng- pob- peth a'i gilydd, nid yw dyddiau'r haf yn haf i gyd i'r llaethwr. Yr wytnnos ddiweddaf rhoddwyd y man- ylion yn ein colofnau ynglyn a phwlpud Cymraeg y ddinas, ac er fod ychydig o wallau wedi llithro i fewn, yr oedd yn llawen genym dderbyn y fath gymeradwyaeth i'n gwaith yn gosod y rhestr i fewn. Amcenir i'r golofn fod mor gywir ag sydd basibl, a diolchwn i'n gweinidogion am gynorthwy i sicrhau cywirdeb. Dyma'r adeg pan y mae y dieithriaid mor lliosog yn ein mysg, ac y mae gweled pwy sydd i bregethu ar y Sal yn hwylusdod i lawer. Yn ol yr hanes diweddaf oddiwrth Miss Ellenor Williams, Castle Street, yr hon sydd arymweliad a'i pherthynasau yn yr America ar hyn o bryd, y mae ei mham yn wael iawn yn Johnstown. Mae Undeb Ysgolion y Methodistiaid ar y blaen gvda'u trefniadau am Eisteddfod y Nadolig eleni. Daeth y rhaglen allan yr wythnos hon, ac mae'n llawn o gystadleu- aethau fel arfer. Yr adran gerddorol sydd yn cael y lie blaenaf a beirniadir y gan gm Mr. Harry Evans, Merthyr. Ychydig o newydd-deb geir yn yr adran lenyddol o'r Eisteddfod hon. "Y Bsibl Cymreig yw'r prif draethawd, Charles o'r Bala ac Ann Griffiths ydyw y testynau i'r traethodau ereill, tra mai'r Ysgol Sul a'r ar- olygwr yw testynau y farddoniaeth. Gwelwn fod cais at fod yn brophwydol yn yr amodau a geir ar y rhaglen. Dywedir y bydd dvfarniad y beirniaid yn dder- bynol." Wel, hwyrach y bydd yn dder- byniol gan y buddugwyr, ond beth am y cystadleuwyr aflwyddianus ? Nid ydyw y rheiny, fel rheol, yn barod i dderbyn dim ond y wobr. Ond hwyrach mai gwall yr argraffwyr Seisnig ydyw, ac mai yn der- fynol" a fwiiadwyd i'r gair fod. Wedi ei sefydlu yn fug-ail ar eglwys y Tabernacl, y mle'r Parch. H. Elfet Lewis wedi newid ei breswylfod. Ei jrvfeiriad o hyn allan fydd 37, Highbury New Park, Highbury, N. Nid yw eglurebau Mr. Abel Thomas, bob amser, yn goeth iawn, a chaed engraifft o hyn y noson o'r blaen yn y Senedd pan yn siarad ar Fesur G^rfodol Cymru. Cyffelybai Mr. Thomas y Llywodraeth bresenol i'r aderyn ostrich, yr hwn, pan yr a yn galed arno, a guddia ei ben yn ei d Iwylo,—( Yn y tywod feddyliwn,' ebai Abel ar ol deall nad oedd dwylo gan y creadur. Yn y gwasanaeth hwyrol, y Sul diweddaf, yn Eglwys Dewi Sant, canwyd unawd gan Miss Maggie Pierce, Haverstock Road, yn dra swynol. Un o blant Ysgol Sul Dewi Sant ydyw Miss Pierce. Da yw gweled y Cymry sydd wedi eu geni a'u magu yn Llundain, yn cymeryd y fath ddyddordeb mewn pethau Cymreig. Y mae Miss Pierce wedi enwogi ei hun er yn ieuanc gyda'i llwyddiant yn arholiad y Civil Service yn ogystal ag enill llawer o dystysgrifau mewn cerddoriaeth, &c. Y mae ei chwaer, Miss Annie Pierce, yr un mor llwyddianus yn Ngholeg Cerddorol y Guild Hall. Yr oedd yn dda genym weled enw Mr. Daniel Jones yn mhlith y myfyrwyr llwydi- ianus yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Cafodd yrfa golegawl Iw/ddianus. Llon- gyfarchwn ef ar ei waith yn graddio yn B.A. Y mae Mr. Jones yn frawd i Mrs. Hugh Jones, St. John's Wood, ac i Mr. Tom Jones, Tyneham Road, S.W.

[No title]

Advertising