Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Bud g ^^4 Gas. <7

News
Cite
Share

Bud g ^^4 Gas. <7 COR MR. MERLIN MORGAN. Cawsom y fraint o glywed y cor hwn mewn rehearsal y noson o'r blaen, yn parotoi gogyfer a chystadleuaeth Gwyl Banc nesaf (Awst) yn Nghaerfyrddin ac Abertawe. Y mae nifer yr aelodau yn parhau i gynyddu, ac y mae y cor, erbyn hyn, wedi dod yn un mawr a nerthol. Y mae yn fantais fawr fod nifer yr aelodau yn cynyddu f el hyn, oblegid y mae yn haws cael cor cryno i fyned i'r wlad pan fo,digon o ddefnyddiau i wneyd detholiad o bonynt. Y maent yn canu'n bur dda ar hyn o bryd, a diau genyrn y gwnant waith da yn Neheudir Cymru y mis nesaf. Y mae'n dda genym ddeall, hefyd, y bydd rai o aelodau y cor y n cystadlu ar yr un- awdau, ac y mae rhai o honynt yn unawdwyr rhagorol. Dvlasai y cor hwn fod yn parotoi gogyfer ag Eisteddfod Rhyl. Yr ydym yn deall y bydd yno gorau ardderchog yn Rhyl eleni; ac yn sicr, ni ddylai cor Llundain- yr hwn sydd gor mor rhagorol-gynyg at ddim llai na'r Wyl Genedlaeihol bellach. Llongyfarchwn yr arweinydd, Mr. Morgan, ar y llwyddiant sydd wedi coroni ei ddiwyd- rwydd. Miss TEIPY DAVIES. Aethom i Drury Lane y noson o'r blaen i glywed yr Opera nodedig "Faust" (Gounod). Mewn llawer ystyr, yr oedd y syniad a gaed o'r Opera yn y perfformiad y noson hon yn rhagori ar gyflwyniadau cyffredin Covent Garden ag eithrio, wrth gwrs, y cantorion arweiniol. Yr oedd y cydganwyr yn dra rhagorol. Y Doson hon cawsom y fraint o weled y gan- tores Gymreig-Miss Teify Davies-yn es- gyn yn uwch, feallai, ar lwyfan yr Opera nag a wnaeth ar un achlysur blaenorol. Cymerodd y cymeriad Siebel, a gwnaeth ei rhan i foddlonrwydd cyffredinol y critics (ac y mae hynyna'n ddyweyd mawr). Yr oedd y Gymraes yn ei hwyliau goreu ar yr achlysur hwn. YDILYN. Y mae Penceidd Gwalia yn dyweyd fod y dclyn yn y blynyddoedd diweddaf yma wedi cynyddu yn fawr yn ei phoblogiwydd fel offeryn teuluol, ac yn cael croesaw cynes i gartrefi pendefigion. Hefyd, fe ddywed Mr. Thomas fod y delyn yn fwy cydymdeimladol na'r berdoneg-yn gallu rhoddi effaith mawr i deimladau y chwar- <uwr. Rhyfedd na welir mwy o delynau ar aelwydydd Cymreig. ABDDANGOSFA GERDDOROL. Y mae ar- ddangosfa gerddorcl yn cael ei chyna! yn Y Fishmonger's Hall ar hyn o bryd. Y mae ynddi bob math o engreifftiau o offerynau cerdd a ddefnyddid drwy yr oesau. Y mae yr engreifftiau o lawysgrifau a llyfrau cerdd- orol, wrth gwrs, yn gwneyd i fyny ran fawr o'r arddangosfa. Yn mysg y gerddoriaeth argraffedig cynwysir "Collectorium Super Magnificat (Gerson) fel yr engraifft foreuaf Wybyddus o gerddoriaeth argraffedig. Cyn- yrchwyd y cyfryw yn yr Almaen yn y flwyddyn 1473. Gofod a balla i ni ddyweyd rhagor am yr arddangosfa, aed yr efrydwyr cerddorol yno eu hunain. FLOBIEZAL VON REUTER ydyw y rhyfeddod cerddorol diweddaraf i gyrhaedd y wlad hon. Bachgenyn o German ydyw efe, dim ond deg oed, ond eisoes wedi dechreu cyfan- soddi. Bydd yn ysgrifenu cerddoriaeth i Opera seiliedig ar hanes Joan of Arc (gan Carmen Sylva," Brenhines Roumania) yn ystod yr haf y flwyddyn nesaf.

Llyf ran Newyddion.

Advertising