Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

"ErTHR NID YW Y DIWEDD ETO."

DADGYSSYLLTIAD. j

News
Cite
Share

DADGYSSYLLTIAD. j O'r diwedd y mae'r Awdurdodau Eglwysig yn dechreu sylweddoli beth f/dd canlyniadau eu gwaith diweddar ynglyn a'r Ddeddf Add- ysg. Yn ei araeth yr wythnos hon, addefai Archesgob Caergaint fod y Ddeddf wedi rhoddi bywyd adnewyddol yn y cri yn erbyn yr Eglwys Sefydledig, ac y bydd raid iddynt fod ar eu gwviiadwriaeth. Mae hyn yn hollol gywir. Ni chafodd yr Eglwys erioed elyn mwy na'r Ddeddf a wthiwyd ganddynt mor greulon ar yr Ymneillduwyr yn 1903 ac er iddynt hau mewn Uawenydd ar y pryd, y mae'n sicr y bydd iddynt fedi mewn gofid a thrallod rhagllaw. Ni ddangosodd yr Eglwys ei hun erioed mewn dull hagrach nag yn ystod y dadleuon ar y Ddeddf Addysg, ac er iddynt lwyddo i orfodi y wlad i dderbyn y Mesur, y mae wedi troi allan yn un o'r bendithion goreu a gafodd carwyr rhyddid crefyddol oddiar ddyddiau helbulus Henry Richard ei hun. Yn wir, y mae'r hanesyn am y gwr hwnw a gododd grog-bren i arall ond a fu farw ei hun arno, wedi cael ei gwireddu eisoes yn mywyd helbulus y Ddeddf hon ac nid heb achos y mae'r Archesgob mewn pryder. Yn wir, y mae'r pwnc o Ddadgysylltiad yn fwy byw nag erioed, ac yn fwy gobeithiol nag mewn unrhyw gyfnod o'r blaen, a hyny yn benaf oherwydd y Ddeddf Addysg a ormeswyd arnom.

!CAPEL (M.C.) CLAPHAM JUNCTION.

Advertising