Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YMWELIAD YE ARCHDDERWYDD.…

News
Cite
Share

YMWELIAD YE ARCHDDERWYDD. ') I.. 'l Y BEIBL. Llyfr difai a Llyfr deufyd-yw y Beibl Y mae'n bur ei ysbryd; Llyfr heb ail a Llyfr bywyd Yw hwn i bawb yn y byd HWPA MUX. Traethu cenadwri y Llyfr yma oedd prif neges yr Archdderwydd-neu'r Parch. Row- land Williams, a rhoddi iddo ei enw pre- gethwrol-ar ei ymweliad a Llundain y Sul diweddaf, a llanwodd y pwlpud \n Nghapel y Boro yn y boreu, ac yn y Tabernad yn yr hwyr. Yr oedd blynyddau lawer er pan fu yr hybarch fardd-bregethwr yn gweinidogaethu yma o'r blaen; ac, yn wir, oddiar ei ym- adawiad yn 1880 i'r wlad, ar ol bod yn fugail llwyddianus ar hen eglwys Fetter Lane am fiynyddau, ni welwyd ef ond yn anaml yn y Brifddinas. Hyny, yn ddiau, oedd y rheswm iddo gael y fath groesaw caredig y tro hwn a'r fath gynulliadau mawrion i wrando arno ac er fod poeth- der yr bin yn fawr a'r oedfeuon yn anghy- surus i'r eithaf, bu'r canoedd yn amynedd- gar iawn, o barch i'w henaint a'i enw da, i wrando am oriau o dan ei bregethau arbenig, a nodweddiadol o'i gyfansoddiad ef. Er yn dal i edrych yn wr golygus, a gwynebpryd hardd, yr oedd yn amlwg fod dyddiau amser wedi effothio llawer arno oddiar y bu yma o'r blaen Mae'r cam wedi byrhau a'r ysgogiad wedi aratu, ac er fod y Uygaid yn dal yn eu tanbeidrwydd mae y llais soniarus a nerthol wedi cilio bron yn llwyr. Teifl machlui haul ei belydrau o'r diwedd ac ar ol oes faith a gweithgar, nis gellir achwyn eitbr yn hytrach lawenhau fod yr hen wron v;edi ei arbed cyhyd ac wedi gwasanaethu ei genedl mor ffyddlon ac urddasol-yn ei lien yn ogystal ag yn ei phwlpud-ar byd y blynyddau meithion hyn. Wedi cyrhaedd dros ei bedwar ugein mlwydd, nis gellir disgwyl am yr hoywder a'r nerth a'i nodweddai yn y blynyddoedd gynt. Yn oedfa'r boreu, mewn capel cryno fel adeilad y Boro, caed traethiad gweddol hyglyw ganddo. Ond erbyn yr hwyr, yn eangder Capel y Tabernacl, yr oedd y llais wedi cilio a'r hyawdledd wedi fioi a phrin haner y gynulleidfa a allasent ddal ar eiriau swynol y pregethwr. Pwnc ei draethiad yn y boreu oedd y dywediad hwnw o lyfr Daniel, "Ti a bwys- "Wyd yn y clorianau ac a gaed yn brin"; a'r mater arbenig oedd ganddo i'w gyflwyno oedd, fod Duw yn pwyso neu yn profi pob dyn, heb un gwahaniaeth ar y ffordd i'r farn. "Mae-'n ddiameu meddai, "y clywch chi o'r pwlpud mai yn y Farn ca' pob peth eu pwyso. Mae hyn, mewn rhan, yn wir- ionedd; fe brofir miliynau yn y dydd hwnw; ond yn ol g eiriau y testyn, y mae Duw yn profi pob dyn ar y ffordd i dragw\ddoldeb. Gwobrwyir pawb yn ol ei waith, a'r foment y mae dyn yn marw y mae ei sefyllfa dra- gwyddol yn cael ei phenderfynu-y foment y bydd dyn anuwiol iarw y mae yn cael ei |e—a'r un fath y dyn da hefyd. Pe baent i aros hyd y farn cyn eu profi, buasai'r dyn da wedi colli llawer o'r mwynhad addaw- edig," &c. Yn yr hwyr yr oedd Capel y Tabernaci yn orlawn, a chaed traethiad maith ganddo ar eiriad o 2 Pedr: Eithr ni a welsom ei Jawredd ef" &c., a chaed pregeth faith ganddo eto; ond yn anffodus nid oedd yn glywadwy iawn; ac mai meddwl am yr Archdderwydd, gyda'i lais trydanol gynt, yn Dietbu gwneyd ei hun yn fclywadwy yn y Tabernaci yn beth hynod. Caed gwasanaeth rhagorol, er hyny, a sicr i'r gynulleidfa twynhau yr hen wron pe ond am adgofion y dyddiau gynt. Boed iddo gael nawnddydd tawel ar lan lllôr y Rhyl i fwynhau o'r seibiant a'r hedd- Weh a haedda ar ol ei lafur hirfaith dros ei 'Wlad a'i bobl.

EISTEDDFOD YN AFFRICA,

YR AMGUEDDFA A'R LLYFRGELL…

Advertising