Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Oddeutu'r Ddlinas.

T. R. THOMAS & Co., DAIRY…

Advertising

Y ørD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Bu Mr. Howell Idris ar ymweliad a Fflint yr wythnos ddiweddaf, a chafodd dderbyn- iad cynes iawn gan yr etholwyr yno. Y mae pob rhagolygon y ceidw Mr. Idris y sedd i'r blaid Ryddfrydol. Dywedir fod amryw ystafelloedd yn nghynteddau Ty'r Cyffredin wedi eu llanw a deisebau yn erbyn Mesur y Tafarnwyr. Waeth hyny na dim, mae'r Llywodraeth yn benderfynol o wthio y Mesur drwodd. Rhoddwyd yr hysbysiad a ganlyn ar ddrws eglwys neillduol gwrs o flynyddau yn ol: Hyn sydd i hysbysu nad oes neb i gael eu claddu yn y fynwent hon ond y rhai sydd yn byw yn y plwyf; a rhaid i bawb a ddym- unant gael eu claddu yma ddyfod ataf fi i ofyn caniatad.—E.G., y clochydd." Dengys adroddiad blynyddol y Methodist- iaid Cymreig fod yr enwad parchus hwn ar gynvdd yn Nghymru. Ychwanegwyd 4,600 at nifer y cvmunwyr yn ystod 1903 a 961 at aelodau yr Ysgol Sul. Nid yw Mr. Ivor Guest, yr ymgeisydd Rhyddfrydol dros Gaerdydd, yn cael croes- awiad rhy felus gan rai o arweinwyr llafur. Dywed Mr. Richard Bell y gallasai Caerdydd sicrhau gwell gwr na hwn i ymladd ei brwydr Radicalaidd y tro nesaf. 'Roedd pobl Llandrindod wedi dechreu meddwl y talai'r Brenin Iorwerth ymweliad a'r lie yn ystod ei ymweliad a gwaith dwfr Dyffryn Elan, ond mae'n debyg fod amser Iorwerth y Seithfed yn rhy brin i roddi tro am Iorwerth y Cyntaf o Gwalia ar hyn o bryd. Mae y Times am ostwng ei bris. Ychydig yw'r nifer, mae'n debyg, sy'n barod i dalu tair ceiniog y dydd am newyddion; am hyny, ceisia'r Times ddenu rhagor o dder- bynwyr drwy addaw'r papyr yn rhad drwy'r post am dair punt y flwyddyn. Ond hawyr, pa angen gyru am y Times y sydd pan geir hanes y B/d a'r Bettws am chwe' swllt y flwyddyn o Swyddfa'r CELT. Y DORTH DDRUD. Y Dorth Ddrud, i warth yr â,-a chastiog Orchestwaith Joe, gwympa; Gwel y call, mai'r dall dolla Nerth Rhaid ddwed, I Gwell torth rad dda.' Yr wythnos ddiweddaf cyhoeddwyd hanes 1 Sarah Jacob,' y ferch fechan hono o ardal Pencader, a greodd y fath siarad rhyw ddengmlynedd ar hugain yn ol yaglyn a'i gallu i ymprydio. BLl achos y Welsh Fast- ing Girl" yn mhob papyr drwy'r deyrnas ac ar ol ei marwolaeth, anfonwyd y tad a'r fam i garchar am achosi ei diwedd. Trodd trychineb y pleserfad Americanaidd allan yn fwy dychrynllyd nag a gyhoedd- wyd ar y cyntaf. Y mae dros chwe' chant wedi eu colli yn yr anffawd, ac ugeiniau lawer wedi eu niweidio yn dost. Yr oedd rhyw ddiofalwch mawr ynglyn a'r cyfan onide ni fuasai'r colledion mor enfawr, a'r llestr mor agos i dir. Brodor o Diyffryn Conwy ydyw y Parch. Richard Lloyd Jones—gweinidog yr eglwys Wesleyaidd yn City R)ad, Llundain, yr hwn, yr wythnos ddiweddaf, a benodwyd yn Llyw- ydd Cymanfa y Wesleyaid Cymreig. Llwyddianus iawn fu tymor-sydd newydd derfynu-Cymdeithas Edward Llwyd yn Rhydychen. Sefydlwyd y gymdeithas hon flwyddyn yn ol i hyrwyddo efrydiaeth o fater- ion Cymreig, ond yn Saesneg y cerir yn mlaen ei holl weithrediadau. Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yw'r unig gynulliad hollol Gymraeg yn Rhychen. Mr. Robert Ivey, Penygroes, a enillodd y wobr o ddeg punt am y traethawd goreu ar Hanes y Bedyddwyr yn Eisteddfod Ffes- tiniog y dydd o'r blaen. Rhoddai y beirn- iÜd-y Prifathraw Roberts a'r Parch. E. Parry, gryn ganmoliaeth i'w draethawd.