Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

UNDEB Y DDRAIG GOCH.

MARWOLAETH " Y GYMRAES 0 GANAAN."

- GohebSaethaua

News
Cite
Share

GohebSaethaua Y "BRITISH MUSEUM." At Olygydd CELT LLUNDAIN. STR,—Yn sicr, syniad hapus o eiddo Mr. Ernest Rhys, yr wythnos o'r blaen, oedd gwahodd Cymry ieuainc Llundain gydag ef drwy yr Amgueddfa Bryd- I einig, a gobeithiaf fcd yr ymweliadwedi codi ynddynt' awydd am jmborthi ar grynhoad meddyliauyr oesau geir yno. A yw Cymry ieuainc Llundain yn sylweddol fod yn. y fan hon ddefnyddiau i gyfoethogi yr hen wlad ? Y mae yr amser i aros yn y ddinas yn brin i lawer un ac wrth fod dymchweliad yr Ymherodraeth Brydeinig yn cymeryd lie nid oes amser i'w golli. Yn sicr, heddyw yw dydd Cymru, dyma ddydd ei hymweliad Y mae diwylliant uwch na diwylliant y Rhufeiniaid ger ei Haw. Ond beth y mae bechgyn ieuainc ieuaino Cymru yn Llundain yn ei wneyd ? Ai nid myned gyda'r lli ? Gwaith, capel, a gwely, dyna eu hanes. A. rhai ereill ar y Sul ac ambell noson waith yn myn'd i Hyde Park i ganu Cymraeg er mwyn i'w vanity gael ei gosi. Pwy debyg i ni am ganu Maent yn meddwl fod y Saeson yn dwfn ryfeddu at eu canu- Yr hyn sydd wagedd a gorthrymder ysbryd. Gwagedd o I wagedd Onid oes rhywun all organiso Cymry ieuaino y Brifddinas yn fintai o wyr cryf, gwrol a wna ymosod ar feddianau (meddyliol) y Saeson, a chyda rhuthr yspeilio yr Aiphtiaid Seisnig hyn sydd yn awr ar So -cyn y delo y barbariaid a'r ysgythiaid i'w han- rheithio-ac a ddwg gyfoeth y gwareiddiad Seisnig yn rhodd ac yn etifeddiaeth i'r Hen Fam Wiad ? Os bu diwrnod erioed pan y mae cyfle i'r Cymro, a'r Cymro yn Llundain yn arbenig, i fyw,. a rhoi ei hun o holl lwyrfryd ei galon er adeiladu. dyfodol yr Hen Wlad, careg ar gareg, pob un yn ok amrywiaeth ddoniau, nid er mwyn hunanoldeb end. er adeiladu Teml a fo ynddi sylwedd a pharhad ac a fo yn hyfrydwch ac iachawdwriaeth i'r byd-dyma y y 1)YDD \r eiddoch, &c., CYMRO. CHWARELWYR BETHESDA A'R CYF- ARFOD YN RADNOR STREET. At Olygydd CELT LLUNDAIN. SYR,—Caniatewch ychydig o'ch gofod i mi wneyd- rhai sylwadau ar y llith a ymddangosodd yn eich, rhifyn diweddaf o dan y penawd uchod wedi ei ar- wyddo gan un J. W. E. Yr wyf yn edmygu yr amcan sydd mewn golwg gan y pwyllgor sydd wedi ei ffurfio yn Chelsea er gosod achos y chwarelwyr o flaen y cyhoedd, ac i goisio cael cydymdeimlad sylweddol er eu cynorthwyo yn mhob modd posibl, ac yr oedd yn ddrwg iawn genyi fi a Iluaws o Gymry twymgalon ereill ein bod yn an- alluog i fod yn bresenol yn y cyfarfod yn Radnor Street, a'i fod wedi troi allan yn fethiant mor siom- edig. Ond ffolineb i'r eithaf ydyw i J.W.J.' ei briodoli i ddiffyg cydymdeimlad a'r mudiad, nac ychwaith i'r grefydd a broffesir gan Gymry Chel- sea. Mae Cymry Llundain, mewn nifer fawr o engreifftiau, wedi gwneyd llawer iawn er mwyn y chwarelwyr a ffeit:d I J. W. E.' faint a fyno, mae y gwragedd yi glyn a'n capelau Cymreig mor barod. i aberthu, ac yn wir y maent yn barhaus yn aberthu mwy er mwyn amcanion Cym-- reig na rhai o'r Sais-Gymry sydd yn cael eu henwi ganddo ef yn ei lith, amcan penaf pa rai ydyw cael cheap advertisement" lleol iddynt eu hunain. Ond pa betb, ysywaeth, sydd yn cyfrif am fethiant y cyfarfod yn Radnor Street fel cynulliad ? Os oedd. 'J.W.E.' yn bresenol, ac nid wyf yn amheu ei fod,. I fe ddylasai nodi'r ffaith, i'r cadeirydd roddi rhes- ymau digonol dros hyny, sef ymrwymiadau blaen- orol gan y lluaws mawr Cymry ceddynt yn ab senol. Yr oedd tri chynulliad y noson hono ag oeddynt: yn milwrio yn erbyn cyfarfod Radnor Street. 1. Yr oedd cyngherdd blynyddol Barrett' Grove, wedi ei hysbysu fisoedd ymlaen- llaw. 2. Yr oedd cyngherdd blynyddol y Drapers; a'r Warehousemen. 3. Yr oedd ciniaw flynyddol Llaethwyr Llundain. Ac os oedd y pwyllgor yn hysbys o'r tri chynull- iad uchod pan ddarfu iddynt nodi noson eu cyfar- fod, ffolineb o'r mwyaf ydyw iddynt hwy feio neb- ond hwy eu hunain am yr amryfusedd. Nid wyf yn deall sut y gallai'r pwyllgor ddis- gwyl dim yn wahanol i'r hyn gawsant, sef siom-- edigaeth, wrth ystyried y brys mawr gyda pha un., y penderfynwyd ar ac y galwyd y cyfarfod ynghyd -dim ond un wythnos o rybudd i ac y mae ein, sefyllfa fel Cymry yn y Brifddinas y cyfryw a'i gwna yn amhosibl cael cyfarfod llwyddianus heb- lawer iawn mwy o rybudd nag wythnos, fel y gwyr pawb sydd wedi cael rhyw gymaint o brofiacb gyda phethau o'r fath. Felly, os yw J.W.E.' am wybod pwy i'w feio am- fethiant y cynulliad, peidied a beio Cymry, gwyr na gwragedd Clielsea, ond aed at y pwyllgor pen- odedig. Yr eiddoch, &c., CYMRO CYSON.

[No title]

Barddoniaeth.