Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

.---------------------------------------=...........…

News
Cite
Share

-=. EIN RHAGLEN AM 1903. Bydd y rhifyn nesaf o'r CELT yn dechreu ei aawfed flwyddyn o'i genhadaeth; ac wrth ddiolch ar derfyn blwyddyn am gefnogaeth a theyrngarwch ein ddarllenwyr a'n gohebwyr, gadawer i ni hefyd ofyn iddynt un ac oil am barhad o'u ffyddlondeb tuag atom yn y dyfodol. Nid gwaith hawdd fel y gwyr y rhan fwyaf 0 honoch yw cadw papyr cenedlaethol Cym- reig mewn cylchrediad mewn dinas Seisnig fel hon. Mae'r anhawsderau y tuhwnt i bob dirnadaeth, ac oni bae am lafur cariad ac aberth arianol ar ran llawer o honom ar y cychwyn, ni fuasem wedi llwyddo mor rhagor- 01 i gadw yr wythnosolyn hwn yn fyw, ac at wasanaeth ein cydgenedl yn y ddinas yma. Gydag undeb ac ychydig gynorthwy ychwanegol, gellid ei wneyd yn llawer mwy ei faintioli, ac os gwna ein cefnogwyr eu dyled- wydi yn hya o gyfeiriii, ni fyll ein cyfran siinau ar ol. Mae amryw o ohebwyr newyddion wedi addaw eu cynyrchion yn y flwyddyn newydd, a chan—fel y gwyddis-fod genym eisoes rai 0 lenorion goreu'r genedl wrth law, dylai y CELT gael derbyniad cynes gan bawb a garant lwydd ein gwlad a chadwraeth ein hiaith. Hwyrach y bydd yn newydd i rai glywed fod ystor helaeth o hen lawysgrifau Cymraeg yn aros yn yr Amgueddfa Brydeinig heb erioed gael eu cyhoeddi. Dylasent gael goleu dydd, ac yr ydym eisoes wedi trefnu i gael rhai o honynt ar dudalenau y CELT o wythnos i wythnos yn ystod y flwyddyn newydd. Bydd hyn yn gaffaeliad arbenig i'n hanes a'n llen- yddiaeth, a gobeithio y gwna ein derbynwyr wneyd hyn yn hysbys i'w cyfeillion ar hyd a lied y wlad fel ag i wneyd y CELT yn bapyr o werth arbenig nid i Gymry Llundain, eithr hefyd i bawb a garant gael rhyw hysbysrwydd am waith plant Gwalia ym mha le bynag y fo'ont, a'u hanes yn y dyddiau a fu. Ein hamcan yw gwneyd y papyr yn ym- welydd derbyniol ym mhob teulu, a mor am- rywiol ei gynwys fel y gall pob gradd deimlo dyddordeb ynddo, ac ond cael yr undeb a geisiwn, fe wneir hyn yn ystod y blwyddi sydd i ddod. Ar drothwy 1903, nis gallwn lai na dymuno i chwi ddarllenwyr oil, a phawb o'n cyfeillion llengar FLWYDDYN NEWYDD DDA

BLWYDDYN NEWYDD DDA!

HYN A'R LLALL.

Advertising