Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

Advertising

Byd y -- A ft 1 t' Gan.

News
Cite
Share

SWPER GOFFI. Yn Beauchamp Road, Clap- ham Junction, y rhoddwyd y cyntaf y buom ynddo erioed, a hyny ar yr l7eg o'r mis presenol. Y mae rhywbeth at-dyniadol yn yr enw "swper goffi." Y mae yn edrych ymlaen yn rhan gyntaf y cyfarfod at y wledd goffi ac yn yr ail ran helpir ni i gadw'n fywiog gan y coffi-os digwydd i'r gweithrediadau fod yn rhai dwl. Am gwrdd Clapham Junction, gellir yn ddiogel ddyweyd ei fod yn un da, ar wahan i'r coffi da (a'r te) a'r danteithion oedd wedi eu darparu. Yr unawdwyr oeddynt Mrs. Susannah Pierce; Mrs. Helen Coleman; Mrs. D. Wil- liams, Upper Street, N., gwraig y cadeirydd a Mr. Fred Edwards. Rhoddodd y bonedd- igesau foddhad mawr i'r dorf: yr oedd y can- euon yn chwaethus o ran dewisiad a dadgan- iad. Da iawn genym gyfarfod uiwaith eto a Mrs. Pierce, a chael nad yw yn canu yn llai dymunol ar ol priodi na chynt. Ei chan oedd Hen Wlad fy ngenedigneth," a chafodd y gantores groesawiad cynes gan y dorf. Yr oedd Mrs D. Williams yn dderbyniol iawn hefyd gyda'i chan "Tears." Felly hefyd y contralto ragorol, Mrs. Coleman, gyda'i dwy gan. Gellir hefyd gyplu Llewelyn, y canwr penillion, gyda'r rhai hyn. Am gan ddigrifol Mr. Frank Edwards, yr t, oedd yn hollol anghyfaddas i'r lie a'r am- gylchiad ac ni ofynwyd iddo ganu yr ail gan. Y prif beth ynglyn a'r adran gerddorol yd- oedd y ddwy gystadleuaeth a gofalodd y pwyllgor am wobrau rhagorol, sefcwpan arian i'r ferch Iwyddianus, a gini a haner i'r mab buddugol. Dyma wobr deilwng o'r Eistedd- fod Genedlaethol! Rhagorol yn wir a dyna oedd barn y cystadleuwyr, canys ymddang- osodd 16 yn y rhagbrawf-er mor arw oedd y tywydd a'r pellder mawr oedd gan amryw i ddod. Daeth wyth o ferched i'r ymgyrch a phan yr ystyrir fod un ferch yn werth dau ddyn, yr oedd y ddwy gystadleuaeth yn bur gyfartal o ran rhif Dewiswyd 3 o ferched i ymddangos gerbron y dorf; ac er eu bod yn bur ieuanc i ganu can fel "Ora pro nobis," eto, yr oeddynt yn cynyg yn rhagorol. Yr oedd yr oreu, sef Miss Gwladys Hicks, Croydon-yn meddu liais mwy addfed na'r lleiil, ac yn dangos 01 cryn astud- iaeth. Dadganiad gwir dda gan un ieuanc, a dylid clywed am y ferch addawol hon eto cyn hir. Galwyd pedwar ymlaen i ymgeisio ar yr unawd The Holy City," a gwobrwywyd rhai gwaelach na'r pedwar hyn lawer tro. Yn wir, gresyn oedd gorfod gadael allan amryw ereill o'r 16eg, gan mor dda oeddynt yn canu! Ond gallant ymgysuro (os yw hyny yn bosibl) yn y ffaith ddarfod i'r goreu enill-sef Mr. Harold Jones. Ni chlysom ddadganiad mwy gorphenedig erioed gan neb amateur. Wel, nid oes debyg i wobrwyon teilwng am ddod a'r cantorion da ynghyd; a diau nad anghofia y brodyr yn Clapham Junction hyn yn y dyfodol. Dylem ddyweyd fod Mrs. Nellie Jones yno yn cyfeilio. Nid oes angen ei chanmol; ond gan mai dyma'r tro cyntaf ini gyfarfod a Mr. Jenkins yn y swydd o ysgrifenydd, sicr yw yr haedda air o ganmoliaeth am yr yni a ddang- osai a'r brwdfrydedd a daflai i'w waith. Dym- unwn o galon lwydd i holl ymdrechion y cyf- eillion yn Beauchamp Road. DrWEDD BLWYDDYN. Y prif ddigwyddiadau yn myd Cymreig Llundain yn ystod y fiwyddyn hon oeddynt Eisteddfod Falnoath RDid (yn Exeter Hall), cyngherdd mawreddog capel Ca.stle Street a chyngherdd Eghvys Dawi Sant (y ddau yn y Queen's Hall), a'r gwyliau cerdd- orol yn St. Paul a'r City Temple y nos o flaen Gwyl Dewi Sant. I Yn yr Eisteddfod, aeth y gwobrau goreu i Gymru; ond yn nghyngherdd Eglwys Dewi Sant, cor Seisnig gipiodd y brif wobr. Fel hyn, gwelir nad oes dim neillduol iawn i'w gofnodi am ein gweithrediadau cerddorol. Edrychwn ymlaen yn ffyddiog i'r flwyddyn newydd-y gellir cofnodi gwaith da gan gor yr Wyl Gerddorol Gymreig—cor a'n helpa i feithrin chwaeth tuagat gerddoriaeth glasurol, ar wahan i wobr; cor Llundeinig a brawf i'r byd fod yma awydd cryf i feithrin y ddawn gerddorol sydd yn meddiant ein cenedl; cor a ddengys fod genym gerddoriaeth deilwng- gwerth ei chyflwyno yn y modd goreu. Seiliwn ein gobaith, nid ar waith eistedd- fodol ein cyd-ddinasyddion yn y flwyddyn 1903, eithr ar waith yr Wyl Gerddorol Gym- reig. Gobeithio na siomir ni. I ¡