Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Priodas Miss Frances Rees,…

News
Cite
Share

Priodas Miss Frances Rees, Llundain. MAB DEWI MON Y PRIODFAB. CYNULLIAD MAWR 0 GYMRY YN Y TABERNACL, KING'S CROSS. Er's amryw flynyddau bellach mae enw Miss Frances M.Rees, organyddes y Tabernacl Cymraeg Llundain, yn lied hysbys yn y byd cerddorol. Mae ei medr fel arweinyddes cor o ferched cerddgar wedi tynu sylw cyffredinol, ac wedi enill iddi hi a'i mherched safle an- rhydeddus fel cynrychiolwyr teilwng o blant Gwalia. Ond yr wythnos hon rhaid dechreu ar benod arall yn hanes Miss Rees, oherwydd bellach y mae wedi myned yn WRAIG I 'Roedd llawer cynulliad wedi bod yn gwaeddi Miss Rees for ever" yn eu pybyr- wch o edmygedd drosti, ond nid dyna ei c'lred hi erbyn hyn, waeth y mae'r Miss Bees wedi ei osod o'r neilldu, ac adnabyddir hi bellach fel Mrs. Rowlands. Rhyfedd mor hen y'n gwneir drwy un cyfnewidiad bychan! Yn y Tabernacl Cymraeg prydnawn dydd Mawrth, Rhagfyr 16eg, y cymerodd yr uniad Ie, a hyny yn ngwydd torf enfawr o ewyllys- wyr da i'r ddeuddyn ieuanc ar ddechreu eu gyrfa newydd. Mae hanes Miss Rees yn wybyddus i bawb o ddarllenwyr y CELT erbyn hyn. Unig ferch ydyw i Mr. a Mrs. Benjamin Rees, Carthusian Street, Llundain; a chan fod ei rhieni yn dal perthynas agos ag eglwys Anibynol y Tabernacl Cymraeg yno y dygwyd y ferch i fynu, ac yno y mae wedi gwasanaethu ar hyd y blynyddoedd ar ran caniadaeth y cysegr. Cafodd addysg dda er yn forau, ac er mai yn Llundain ei ganed, ac y bu byw drwy ei oes, y mae yn Gymraes bur o ran iaith ac ysbryd; ac i'w chysylltiadau Cymreig yn ddiau y gall briodoli yn hollol y sefyllfa anrhydeddus y mae wedi enill. Mor wahanol y gellir siarad am ugeiniau o ferched Cymry'r ddinas yma I Esgeulusir dysgu'r Gymraeg iddynt gan fod y Saesneg yn fwy genteel, a'r canlyniad yw mai math o fywyd hanerog a etifeddir gan y plant, ac eithriad hollol yw gweled yr un o'r cyfryw yn hynodi ei hun mewn unrhyw gylch! Dylai'r wers hon fod wedi ei dysgu gan lawer o'n merched ieuainc erbyn hyn. Da genym ddweyd fod Miss Rees wedi glynu yn fl/ddlon wrth hen addoldy ei rhieni, a chrefydd syml ei thadau. Ymgymerodd a gofal orgdn y Tabernacl rhyw 13 mlynedd yn ol, ac o'r adeg hono hyd yn awr y mae wedi gwasanaethu y He gyda ffyddlondeb, a hyny yn ddidal ac yn ddirwgnach. Am y gwr ieuanc sydd wedi bod mor ffodus ag enill ei serch, y mae yntau yn bur enwog yn Neheudir Cymru erbyn hyn. Adnabyddir ef fel MR. J. WILFRED ROWLANDS, Cyfreithiwr, yn Maesteg, Sir Forganwg, ond yn fwy arbenig fel mab ieuengaf i'r Prifath- raw D. Rowlands, Aberhonddu, Dewi Mon." Ganwyd Mr. Rowlands yn y Trallwng, ond symudodd yn forau gydai rieni i Aberhonddu, ac yno y derbyniodd ei addysg-yn benaf o dan y gwr a wnaed yn ddilynol yn Esgob Lloyd o Fangor. Ar ol iddo dalu ymweliad ag Awstralia am tua dwy flynedd, penderfyn- wyd, ar ei ddychweliad i Gymru, i'w gyfeirio i'r Gyfraith ac ymrwymwyd ef gyda ffirm yn Aberhonddu i fyned drwy ei ragbarotoad. Pasiodd yn anrhydeddus yn ei alwedigaeth, ac ym mhen ychydig wedyn, ymsefydlodd yn Maesteg, lie y mae wedi dechreu sefydlu cysylltiadau pwysig yn y byd cyfreithiol ac enill parch a phoblogrwydd cyffredinol. Noson cyn y briodas caed cyfarfod pwysig yn y Tabernacl i'r amcan o gyflwyno tysteb hardd i Miss Rees fel math o anrheg briodas- ol. Cynwys yr anrheg oedd PERDONEG HARDD gwerth can' gini, ac y mae'r gynulleidfa i'w canmol am eu teimladau caredig a haelionus at un a fu mor ffyddlawn i'w gwasanaethu ar hyd y blynyddoedd. Llywyddwyd gan yr Hybarch Dir. Owen Evans, yr hwn a amlygai ei foddhad wrth fod yn bresenol ar y fath amgylchiad. Nid oedd yr eglwys ond yn gwneyd yr hyn a ddylent, a sier oedd fod yr anrheg yn arddangoseg teg o'u teimladau cynes at y ferch ieuanc. Yna galwodd ar Mr. Thomas Davies, ysgrifenydd yr eglwys, i gyflwyno anerchiad oreuredig i Miss Rees ar ran yr eglwys yn cydnabjd ei gwasanaeth, ac yn dymuno pDb llwydd iddi yn ei byd a'i chylch newydd a chyflwynodd Mr. David Thomas iddi y bsrdoneg ar rai y gynulleidfa. Darllenai anerchiad yr eglwys fel a ganlyn: Anerchiad oddiwrth Eglwys y Tabernacl, King's Cross, Llundain, iMiss Frances Miry Rees ac yr aohlysur o'i phriodas gyda Mr J Wilfred Rawlanis Rhagfyr 16eg, 1902. Auwyl Miss Rees,— Nis gallwn adael i'r achlysur dyddorol a phwysig hwn yn eioh hanes fyned heibio heb gymeryd man- tais arno i ddatgan ein teimladau da tuagatooh"a'n. gwerthfawrogiad o'ch gwasanaeth yn ein mysg dros lawer o flynyddoedd. O'oh mebyd yr ydych wedi oyflwyno eich talentau cerddorol i hyrwyddo caniad- aeth y cysegr. Am dair blynedd ar ddeg gwasan- aethoch fel organyddes yn ein plith, a theimlwa fod eich medr, eich ymroddiad, a'ch ffyddlondeb yn y cymeriad hwnw yn deilwng o'r ganmoliaeth uwchaf. Ni arbedasoch nag amser na llafur i berffeithio mol- iant yr Arglwydd yn Sion; ac i chwi, i raddau hel" aeth, y mae y clod am ein bod yn medru cyflawni y rhan bwysig hon o'r addoliad mor eSeithiol, a theim- lwn yn wir ddiolchgar am i ni gael eich gwasanaeth gwerthfawr cyhyd. Gwnaethoch y cyfan heb geisio na derbyn unrhyw dal ond yr ymwybyddiaeth eich bod yn cyflawni ewyllys eich Arglwydd a'ch Gwar- edwr. Y mae yn weddus i ni gyfeirio at y gwaith a wnaethoch fel arweinyddes Cor y Cymric, a'ch par- odrwydd ewyllysgar i gynorthwyo pob achos teilwng ymhlith Cymry y Ddinas, a sicrhawn chwi nad aiff gwaith eich ffydd a llafur eioh cariad yn anghof ara flynyddau lawer. Tra yn gofidio oblegid fod y cysylltiad agos a fit rhyngooh & ni yn cael ei ddatod, yr ydym yn dymuno i chwi oes hir o dan wenau hyfrytaf y Nef yn eich sefyllfa newydd. Tywyned yr Arglwydd ei wyneb arnoch chwi a'ch prioi, a bendithied chwi. Byth. nag ymadawed can o'ch annedd na llawenydd o'ch calonau. Derbyniwch yr Anerchiad hon ynghyda'r anrheg a gyflwynir gyda hi, fel arwydd o bacch diffuant calonaa yn teimlo yn gynes tuagatooh. Ydym, ar ran yr eglwys, David Thomas, Evan Evans, Thomas Pierce, David Davies, Thomas Matthias, T. W. Glyn Evans, David Riohards, John Rice, Rees Protheroe, Thomas Davies (Ysgrifenydd). Pan gododd-Miss Rees i ddiolch, cafodd dierbyniad cynes, a dywedai y byddai'r anrheg hardd hon yn aigof melus iddi am flwyddi hapas a dreuliodd ymysg pobl y Tabernacl. Caed ychydig eiriau o ddiolchgarwch hefyd gan y gwr ifanc Mr. Rowlands, yr hwn oedd ar y llwyfan yn y cwrdd. Ynacyflwynodd Miss Kite Owen ar ran Cor Merched y Cymric ddarlun hardd o'r eôr gan ddiolch i Miss Rees am ei gwasanaeth a'i ffyddlondeb ar hyd y blynyddoedd, a der- byniwyd yr anrheg hon eto gyda diotch. Yna eaed can svynol gan Miss Miry Davies, un o aelodau y cor. Wrth gydnabod gwasanaeth Miss Bees, dywedii M'. Mitthias, un o dliiconiaid yr eglwys, ei bJd yn birod bib amser i gymeryd rhan ym mhob gwaith ynglyn a llwyddiant y lie. Gweithiodd am flynyddoedd fel athrawes yn yr Ysgol Sal, a sicr y bydd ei lie ynwag iawn am hir amser. Dywedai Mr. Glyn Evans fod ganddo yntau brofiad helaeth ynglyn a M ss <ees, a gwyddai yn dda y llafur miwr oedd wedi wneyd ynglyn a'r eglwys. Yr oedd yn gallu tystiolaethu wrth