Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

:- - ~ EBEN JONES.

LLYFRAU NEWYDDION.

News
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. Ychydig yw nifer cyheeddiadau bIynyddol y Cymry. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ni welir dim ar bob astell o lyfrfa'r masnachwr Seisnig ond rhes o flwyddiaduron a llyfrau addas i dymhor y Nadolig ond am dancm ni, Gymry, boddlcnwn ar i ereill ein hudo a llenyddiaeth dymhorol, a deuwn ninau yn ol ein harfer a/n llyfrau can allan pan fo'r ys- bryd yn ein symud ac amgylchiadau ereill yn caniatau. Y dydd o'r blaen, troisom i fewn i siop lyfrau fawr yn un o drefi Cymru, gan ofyn am flwyddiadur Cymraeg; a'r ateb oedd nad oedd y fath beth mewn bod i'r cyhoedd. Anturiem fod y gwr yn Fethcdus, a dywedais wrth y siopwr fed blwyddiadur gan y gwein- idogion Cymreig. 0, oes meddai yntau, "ond pethau arbenig i'r enwad yw y rheiny, ac ni thai i neb o'r tuallaneucymeryd." Ryw- fodd neu gilydd mae'r llyfrau hyn yn cael eu cadw i gylch cul yr enwad i ba un y perthyn- ont, a hysbysir ni hefyd mai Diary Saesneg sydd gan bedwar o bob chwech o'n harwein- wyr crefyddol. Os yw hynyna yn wir, nid rhyfedd na roddir y cyhoeddusrwydd priodol iddynt. Gan y genedi Seisnig a chan ein cym- ydogion ar y Cyfandir, rhoddir pwys arbenig ar ddwyn allan lyfrau blynyddol ac almanac- iau pwysig ond rywfodd neu gilydd mae'r grefft hon wedi syrthio i ddinodedd yn ein mysg ni Gymry. YR ALMANACIAU. Nid oes ond tri chyhoedd- iad Cymreig yn ymddangos o dan y teitlau hyn, ac nid yw'r tri ond llyfrau eRINIOG I Ai nis gall y genedl gynal rhai rhagorach na'r rhai'n ? Mae'n wir fod y tri pamphledyn hyn yn rhai hynod o rad; ond nid er hyfforddiant y genedl eu cyhoeddir fel rheol. Daw un allan gan gyhoeddi hanes am lyfrau mwyaf pob- logaidd y genedl, a gwnant lawer o les yn ddiau wrth gadw teitlau y llyfrau hyn o flaen y werin-bobl, a mawr dda i'r cyhoeddwyr os ca'nt gan y genedl fel hyn i dalu am lyfr- restr y naill flwyddyn ar ol y llall. Ond, yn sicr, fe ddylid ei wella bellach a'i wneyd yn gyhoeddiad cenedlaethol. Almanac arall a ddygir allan, i'r unig amcan o gyhoeddi man- ylion am gyfferi arbenig, ac mae'r wlad yn ddigon parod i dalu eu ceiniogau er mwyn darllen hanes am hen bobl wedi cael gwared- igaethau gwyrthiol oddiwrth ddiffyg treuliad, lumbago, yr anwydwst a'r frech goch a phob clefyd arall o gur yn y pen i gyrn ar draed; a'r oil drwy fanteisio ar ddogn amserol o'r cyfferi hwn. Y mae Hen Gymro," hefyd, o ardal Aberteifi mor hyf a dwyn ei almanac yntau allan, wedi ei gyfaddasu a'i seilio ar brophwydoliaeth un Francis Moore a cheir ynddo gryn lawer o f&n hysbysiadau am bettau a berthynant i gyffiniau siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin. Ond ar wahan i'r trioedd hyn, nid oes genym un almanac cen- edlaethol. Mae yna lawer iawn o ffeithiau y gallesid eu casglu am Gymru ac ynglyn a Chymry, a chredwn pe cymerid at y gorchwyl y gallesid cael blwyddiadur hynod o dderbyn- iol a Ilawn o hyfforddiant, ac ei gwerthid ar hyd a lied y wlad pe cawsai sylw priodol ar y cychwyn. Hyderwn y cymer rhywun at yr anturiaeth un o'r blynyddau nesaf yma. Feallai y dywed rhywun nad oes angen am gyhoeddiad blynyddol ac nad yw nifer y llyfrau Cymreig yn werth y draul o'u cy- hoeddi ond pwy bynag a ddywed hynyna, nid yw yn gwybod am haner y cyhceddiadau Cymreig a ddygir allan fis ar ol mis. Er mwyn cael rhestr gyflawn o'r llyfrau Cymreig a gyhoeddir, nis gwyddom am ddim tebyg i'r PUBLIC LIBRARY JOURNAL, sef chwarterolyn a gyhoeddir ynglyn a Llyfrgell Caerdydd. Saif hwn ar ei ben ei hun 0 ran pris a gwerth ac amcan; a thylawd, yn wir, yw y gwr na wnel ei sicrhau yn rheolaidd. Er mai ynglyn a Llyfrgell Caerdydd ei cyhoeddir, y mae yn addas i'r holl genedi; a lledaenir ef i bob rhan o fyd lie y ceir pobl yn cymeryd dydd- ordeb mewn llenyddiaeth Gymreig, am y rhestr ragorol a geir ynddo o gyhoeddiadau diweddaraf y gened!. Yn wir, i bob efrydydd a lienor yng Nghymru, ac o'r tuallan i Gymru, mae'r rhestr hon yn anhebgor. Mae'r Americaniaid a'r Saeson, er's blynyddau lawer, yn cyhoeddi rhestri o'u llyfrau new- yddion hwy yn wythnosol. misol, chwarterol a. blynyddol; ond dyma'r cynyg cyntaf erioed i wneyd yn hysbys i'r byd gynyrchion meddwl y Cymro, a phobpeth a gyhoeddir ym mhob iaith, o chwarter i chwarter, am ein hiaith, a'n gwlad, a'n cenedl. Cofnoda'r rhestr Gymreig sydd yn rhifyn Rhagfyr gant a thri o lyfrau a phampledau, gyda phcb manylion am eu cy- hoeddwyr, eu hargraffwyr, eu maint, eu pris, a'u diwyg. Nid hawdd dyfalu gwerth cyn- yddol, parhaol, mawr y rhestri hyn ymhen ychydig ftynyddau, Ac nid yw pris y Public Library Journal, wedi ei argraffu yn y modd goreu ar bapyr campus, ond ceiniog, llai na digon i ddwyn ei draul; a gellir ei gael yn rhad drwy'r llythyrdy am flwyddyn am wyth geiniog, neu am dair blynedd am ddeuswllt. -Anfoner am dano at Mr. John Ballinger, Central Library, Cardiff.

Advertising

Oddeutu'r Ddinas.