Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

:- - ~ EBEN JONES.

News
Cite
Share

EBEN JONES. Ofer y chwilir am enw Eben Jones ymysg y llyfrau bywgraffyddol Cymreig er hyny, Cymro ydoedd o waedoliaeth ac ymdrin a hanes ei fywyd a'i waith y bu aelcdau Cym- deithas y Brythonwyr nos Iau cyn y di- weddaf. Hanai o rieni crefyddol Cymreig, a ganwyd ef yn ardal Cancnbury, yn gynar yn nechreu y ganrif o'r blaen. Yr oedd iddo, hefyd, un chwaer ac un brawd; ac yn ol pob tebyg cafcdd y tri eu dwyn i fyny ar aelwyd glyd, mewn dull parchus, ond mewn awyrgylch hollol Biwritanaidd. Ni cbaniateid ond y Beibl a chyfrolau a pregethau i fod yn gym- deithion y plant, ac alltudid pawb o'r beirdd poblogaidd o'r bwrdd tra yr edrychid ar Byron fel math o gorfforiad daearol o'r un dnwg ei hunan. Anfonwyd Eben Jones yn foreu i'r ysgol yn ardal Highgate Hill, gan ei dad Robert; ac yno, prif bynciau y plant oeddent duwinydd- iaeth a rhifyddiaeth. 0 dipyn i beth, daeth Eben er hyny yn fwy eang ei wybodaeth, a chafcdd hyd i gyfrol Carlyle, o dan y penawd, Sartor Resartus," a darllenwyd hi yn awchus gan y tri phlentyn. Drwy y gyfrol hon, caw- sant welediad newydd ar ddyn, mai nid peth i'w ddiystyru ydoedd; ac o'r adeg hono, dechreuasant ymhyfrydu yng ngweithiau llen- cricn goreu eu dydd. Pan cedd y plant yn dechreu eu gyrfa mewn bywyd,tuag ugain oed, aeth y tad i fyw i Gymru, a chafodd Eben safle fel clerc yn un o fasnachdai y Mincing Lane. Yno dechreu- odd farddoni, a chyhoeddwyd rhai o'i ddarnau ar y pryd. Collodd ei unig cWwaer yn gynar ar ddechreu yr yrfa, a bu yn ergyd trwm iddo. Yn 1843, cyhoeddwyd ei unig gyfrol, sef casgliad o dan y penawd "Studies in Sen- sations and Events," ond derbyniad oeraidd iawn a gafodd y gwaith. Yr oedd y beirniaid Seisnig yn rhy gul eu syniadau i ganfod ei newydd-deb, a'r canlyniad oedd iddo yntau ddigaloni ac atal rhag cyhoeddi dim o'i weithiau ond hyny. Er iddo gael ei gondemnio ar y pryd, daeth beirdd galluocaf y wlad ar 01 hyn i'w edmygu,f;megis Dante Rosetti, Browning ac ereill; a chyfrifir rhai o'i ddarnau fel darnau teilwng o'u cydmaru a'r pethau mwyaf clasurol a thyner yn iaith y Sais- Amser terfysglyd oedd hi tua chanol y ganrif. Dyma'r adeg yr oedd y 'Chartists yn enill tir, a tier yw fod Eben Jones hefyd yn cydymdeimlo a hwy, os nad yn gefnogydd agored i'r oil. Y Siartiaid oedd ei gyfeillion agosaf, a dengys ei ganeuon fod ei galon a'i feddwl dros wella'r cyflwr dynol. Yn 1860 y bu farw, pan nad oedd ond 40 mlwydd oed; ac er yn freuddwydiwr breudd- wydion, ni welodd ac ni ddeallcdd ei oes mo'r dyn. Heddyw, mae'r critic Seisnig wedi gwneyd cy ifawnder ag ef, a rhcddir hyd yn ced le iddo yn y Geiriadur Bywgraffyddol Cenedlacthol-er fed rhai gwallau yn hwnw. Eto, cydnabyddir yn lied gyffredin mai bywyd aflwyddianus a fu. Llais yn gwaeddi mewn anialwch ydoedd, heb obaith am adsain; ac ni chaed mo'r adsain chwaith hyd res i'w ddilynwyr barddonol godi ccffa ar ei fedd drwy ddysgu i barchu ei waith a'i allucedd fel meddyliwr, gweledydd a bardd. Mr. Hooson fu yn traddodi yr amlinelliad o hanes y gwr a bu cryn siarad ar derfyn y papyr, a'r farn unol oedd y dylid sicrhau gwaith y Cymro Llundeinig hwn er mwyn yr "hen, hen amser gynt."

LLYFRAU NEWYDDION.

Advertising

Oddeutu'r Ddinas.