Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Oddeutu'r Ddinas.

News
Cite
Share

Oddeutu'r Ddinas. Cyhoeddir y rhifyn nesaf o'r CELT ddydd Mawrth cyn y Nadolig. Felly, boed i'n go- hebwyr ddanfon eu nodioti yn brydlon. it 0 0 Mae pawb yn prysur barotoi gogyfer a'r gwyliau y dyddiau hyn, a bydd nifer o'n cyd- ddinaswyr ar eu ffordd i Gymru erbyn y daw y rhifyn hwn allan. Prif atdyniad y byd Cymreig yn Llundain yr wythnos hon oedd priodas Miss Frances Rees, y Tabernacl, a Mr. J. Wilfred Rowlands, Maesteg. Ceir y manylion mewn colofn arall. < Ymddygodd eglwys y Tabernacl yn hynod o barchus tuagat Miss Rees ar ei hymadaw- iad o'r lie, oherwydd cyfranwyd can' gini tuagat roddi iddi berdoneg hardd. Deallwn fod yr offeryn yn un hynod o dda ac wedi ei wneyd gan un o wneuthurwyr goreu'r ddinas. Boed iddi hi a'i phriod gael mwynhad lawer yn swn ei dannau. Addefir yn gyffredin, bellach, fod eglwys y Methodistiaid yn Charing Cross wedi cael talent ddysglaer ym mherson y Parch. P. H. Griffiths. Ni fu yr un pwlpud erioed yn rhy uchel nas gellid ei wella, ac y mae angen dynion newydd ar bwlpud Cymru yn gy- ffredinol. Boed i'r do ieuanc sy'n codi syl- weddoli byny mewn pryd. < Un o'r arwyddion amlycaf o'n dirywiad crefyddol yw, ymfoddloni ar bethau fel y maent. Pe buasai ein tadau wedi boddloni ar reol fel yna, wel, Paganiaid, yn wir, a fuasem oil heddyw. Da genym, er hyny, weled gwell ysbryd yn bodoli, ac ein gwelir bob amser yn barod i gydnabod gwreiddiol- deb neu newydd-deb ynglyn & phob arweinydd. Boed i ni fod yn ffyddlon wrthynt ac i lynu yn deyrngar wrth yr egwyddor o gynydd a gwellhad. Da iawn genym gyfarch Miss Gwladys Rob- erts yn llawen ar ei gwaith yn enill y 1 Sainton- Dolby Prize' yn y C Royal Academy of Music' yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd y gystad- leuaeth yn agored i holl gontraltos yr Athrofa, ac er nad yw Miss Roberts ond ar ei hail flwyddyn yno, mae y Ilwyddiant hwn wedi sicrhau iddi y lie blienaf ymysg ei chyd-ef- rydwyr. m m Mae teilyngu y bronze medal' a'r wobr uchod, yn yr un flwyddyn, yn brawf diamheuol o alluoedd o radd uchel, a chydnabyddir hyn yn gyffredinol pan gofiom y galw mawr sydd yn bod yn ystod y tymhor am wasanaeth Miss Roberts gerbron rhai o brif gynuUiadau Llundain a Chymru. Eiddunwn ddyfodol dis- glaer i'r gantores dalentog o werdd wlad Myrddin." Disgwylid Mr. D. Lloyd-George, A.S., i gadeirio i gynulliad yn y Tabernacl Cymraeg nos Sadwrn diweddaf, ond ar yr awr olaf methodd a bod yn bresenol. Dyma fel oedd un feirdd Cymry yn barod i englynu iddo ar yr amgylchiad: MR. DAVID LLOYD-GEORGE, A.S. (Llwyd o Eifion). Dirfawr ffafr-aelod Arfon-yrr arswyd Drwy wersyll y Saeaon; Ami wr batch deimla i'r boa Allu Dafydd Llwyd Eifion. Llansannan. TREBOR ALED. » Tra yn son am Mr. Lloyd-George, y mae yn amserol nodi fod y gwr hwnw mewn perygl enbyd y dyddiau hyn. Mie Mr. Bilfour-ei elyn penaf ar Fesur Addysg-yn ei ganmol hyd eithaf y cymylau, ac y mae Arglwydd Rosebery wedi myned allan o'i ffordd i ddyweyd mwy am dano nac a glywid mewn ami i I fot of thanes Gymreig. Pan welir ei wrthwynebwyr yn ei ganmol fel hyn, rhaid fod perygl gerllaw Cred rhai mai eisieu ei brynu mae'r bobl hyn. Mae Mr. Chamberlain wedi profi yn fath iachawdwriaeth i'r Toriaid fel na synem glywed eu bod am gael Mr. George yn Djri ac yn aelod o'r I Cabinet.' Ond nid gwr i werthu ei egwyddorion am saig o botes arianog y Sais yw Mr. George. Diolch fod ganddo ddigon o asgwrn cefn i gadw yn anibynol ar bob gweniaeth o'r fath. Os am anrhegion y Nadolig, dylid ar bob cyfrif dalu ymweliad a chartref y Diwydianau Cymreig yn 5, Lower Grosvenor Place, yn ystod y dyddiau presenol. Y mae yno lu mawr o nwyddau o ddyddordeb i G/mry, a'r oil wedi eu prisio yn hynod o rad hefyd. » Pwy oedd y gwr a sicrhaodd Goleg i Aber- ystwyth ? Dyna'r pwnc a geisir benderfynu heddyw. Dywed mab y diweddar Barch. David Thomas, Sfockwell, Llundain, mai ei dad fu'n foddion i gael Coleg y Brifysgol yno, ac y mae hyny wedi ei osod yn ei gofiant. A ydyw hyn yn gywir ? Fel yr hysbyswyd eisoes, y mae'r Daily News yn cyfrif addolwyr Llundain. Ymwelir a gwahanol ranau o'r ddinas y naill Saboth ar ol y llaIl, ac yn ol y cyfrifiadau diweddaraf a wnaed, ceir y manylion canlynol am yr addol- dai Cymreig. » Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Beau- champ Road, Junction. Nifer yr addolwyr, Rhagfyr 7, 1902: Y BOREU. Gwyr 15, gwragedd 11, plant 11. Cyfanrif 37. YR HWYR. Gwyr 68, gwragedd 64, plant 16. Cyfanrif 143. Y cyfanrif am y dydd 180. 000 Da genym weled enw ein gohebydd cerdd- orol, Pedr Alaw, fel y beirniad cerddorol yn Eisteddfod fawr Hope Hall, Lerpwl, ar Box- ing Day. Y mae yno saith o gorau yn cys- tadlu ar y prif ddarn, ac yn eu plith rai corau Seisnig, heb son am dorf o f&n gystadleuwyr, fel y caiff Pedr Alaw ddigon o waith am un diwrnod, yn sicr. Mewn cyngherdd mawr a gynhaliwyd yn Abertawe yr wythnos ddiweddaf, cymerwyd rhan gan nifer o gantorion enwog y ddinas yma, sef Miss Gertrude Hughes, Miss Teify Davies, Mr. Ivor Foster a Mr. Dyfed Lewys. Cawsant oil dderbyniad cynes iawn. Nid rhyf- edd hyny, os yw gwyr Abertawe yn deall canu o gwbl. w Llawen oedd gan lawer o hen gyfeillion ac edmygwyr yr Hybarch Ddr. Owen Evans ei weled yn edrych mor iach ac hoyw, pan ar ymweliad a'r ddinas yma yn ystod yr wyth- ncs. Yr oedd yn cymeryd rhan arbenig ym mhriodas Miss Frances Rees, ac nid oedd neb yn y cynulliad mawr yn fwy ieuanc ei ysbryd nag efe. Boed iddo hir flwyddi i wasanaethu ei gyd-ddynion. w Ymddengys fod mudiad ar droed eto i ail sefydlu achos Undodaidd Cymreig yn y ddinas yma. Ar un adeg, caed cynulliadau rheolaidd yn Essex Hall, Strand; ond nid oeddent yn ddigon cryf i gael gweinidog rheolaidd; ond gobeithiant, gydag amser, i sicrhau hyny. Hysbysir am gyfarfod dyddorol yn y neuadd hon, nos W ener, Rhagfyr 19?g, ynglyn a'r Pink Parti a fu am dro ar draws Ceredig- ion yn ystoi yr haf diweddaf. <t < w Y mae pobl Shirland Road wedi cael digon ar Senedd Prydain Fawr, ac yn anghymer- adwyo i'r eithaf y dull y goddefasant i'r Mesur Addysg presenol fyned drwodd; ac er mwyn rhoddi esiampl iddi, ffurfioid aeloiau'r Gym- deithas yn Senedd eu hunain nos Wener yr wythnos ddiweddaf: ac ymgynullasant nid yn St. Stephan, ond yn neuadd y capel. Cym- orodd y Llefarydd ei le am wyth o'r gloch a chyflwynodd y Prif Weinidog-sef Mr. T. W. Rees-ei "Fesur Addysg," a gwnaeth hyny mewn dull medrus iawn. Wedi hyn, cododd Mr. Sam Hopkins- arweinydd yr wrthblaid-i gynyg fod y Mesur yn cael ei wrthod; ac mewn araeth alluog, dangosodd wendidau ac anhegwch y Mesur mewn modd effeithiol. 0 hyn ymlaen caed dadleu brwd ar y ddwy ochr-pawb wedi ymboethi i'r frwydr; ond trwy fedrusrwydd y Llefarydd, cadwyd o fewn terfynau rheolau y ty ac ni fu raid enwi neb felly, nid oes neb wedi ei ddiarddel. w Wedi i'r ty eistedd am yn agos i ddwy awr, daeth yr ymraniad, a chafwyd yn erbyn y Mesur 26 dros, 18 mwyafrif yr wrthblaid, 8. Derbyniwyd y newydd gyda banllef; ac mae'r Prif Weinidog wedi amlygu ei fwriad i ymddiswyddo. • • Ar nos Iau, Rbagfyr 4ydd, cynhaliwyd cy- farfod cystadleuol y plant yn Wilton Square. Hwn, yn ddiau, ydyw y cyfarfod mwyaf dyddorol a llwyddianus a gynhelir yno yn ystod y flwyddyn. Trwy garedigrwydd a haelioni Mr. Lewis H. Roberts, y mae y cyfarfod yma wedi dod yn sefydliad blynyddol er's tua pymtheng mlynedd, ac y mae yn cael ei edrych ymlaen ato am fisoedd gan y plant, ac mae eu dyddordeb yn y gwaith o barotoi ar gyfer y gwahanol gystadladleuaethau yn fwy na'r un Eisteddfod Genedlaethol, Ar ol y te cysurus a'r bara brith, cipiwyd sylw y plant ar unwaith gan olygfa hyfryd y rhesi o lyfrau oeddynt i fod yn wobrwyau, a gellid gweled fod pob un wedi penderfynu cael un o lelaf o'r llyfrau hardd a gwerthfawr hyn cyn ymadael. Cymerwyd y gadair am saith o'r gloch gan y Parch. G. H. Havard, B.A., B.D., bugail yr eglwys, a dechreuwyd ar y gwaith. Yr unig elfen o siomedigaeth oedd absenoldeb Mr. Roberbs ei hun trwy afiechyd, a Mrs. Roberts, ond nid oeddynt wedi eu hanghofio, oblegid danfonwyd pellebyr at Mr Roberts ar y dechreu i ddyweyd fod "ei gyfarfod yn myned ymlaen yn Ilwyddianus iawn, er y buasai yn dda ganddynt gael ei gwmpeini yn ein plith, gan eu bod yn gwybod fod ei galon gyda'r plant bob amser. t Cafwyd cystadleuaethau rhagorol mewn canu, adrodd, &c.; a chadwyd Mrs. Havard a Miss Gwen Roberts yn brysur iawn yn dos- barthu y gwobrwyon, a Miss Minnie Jones yn eu parotoi. Synwyd Mr. David Evans, or- ganydd Jewin (beirniad y canu), mwy nag unwaith gan ragoriaeth yr ymgeiswyr, a dywedodd Mr. Havard fod rhai o'r traethodau &c., a feirniadodd efe, yn deilwng o eistedd- fodau mwyaf y wlad. Wedi pasio amryw bleidleisiau o ddiolchgarwch i'r gwahanol gyfeillion a gymerasant ran yn y cyfarfod, ac yn arbenig i Mr. Roberts, dygwyd noson hapusaf y flwyddyn i ben. Bydd yn dda gan lawer wybod fod Mr. Roberts, mewn atebiad i'r pellebyr, yn dyweyd ei fod yn gyflym wella, a disgwylia fod yn ein plith yn fuan. 000 Bu ail gyngherdd Castle Street, a gynhal- iwyd nos Sadwrn diweddaf, yn llwyddiani boddhaus. Yr oedd neuadd y capel yn orlaira