Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y BYD A'R BETTWS. Hawyr, a yw Mr. Lloyd George wedi gwall- gofi ? Yr wythnos hon aeth mor hyf a chyfnewid gwaith Ty'r Arglwyddi ar y Bil Addysg Rhaid edrych ati neu fe'i cyfnew- idia eto ar ol i'r Brenin ei hun roddi ei sel arno Yr achos mawr yn y llysoedd cyfreithiol y dyddiau hyn yw'r cyrghaws a ddygir gan Gwmni Rheilffordd y Taff Vale yn erbyn Undeb Gweision y Rheilffyrdd. Ceisiant hawlio oddiwrth yr Undeb swm o arian i'w digolledu am y streic ddiweddar; a hon- ant mai gweision yr Undeb fu'n achos yr holl helynt. Cafodd y Saeson gryn achos i siarad am dano yn ystod y pythefnos diweddaf, oher- wydd yr oedd cais am ysgariad wedi ei wneyd yn yr Uchel Lys gan un o fawrion y wlad. Ar ol gwario rhyw bymtheng mil o bunau rhwng y cyfreithwyr, anfonwyd y partion adref i fyw fel cynt. Ac edrych arno o safle cyfreithiwr, da y gwnaed ond o safle foesol-och, y bud- reddi sydd ymhlith y mawrion Ar ei daith i Ddeheudir Affrica, galwodd Chamberlain yn Uganda, a bu'r ymweliad yn agoriad llygaid iddo. Yr oedd yn credu y cawsai ei ddal ganddynt a'i fwyta i giniaw, os heb rywrai i'w amddiffyn; ond, gwarchod pawb, nid anwariaid oeddynt! Hwyrach y caiff syndod mwy pan el i ben ei daith a deall nad oes cannibaliaid yn y Transvaal! Mae'r Archesgob yn bur wael ei iechyd. Wedi bod yn ymladd mor galed dros y Mesur Addysg, nid rhyfedd fod nerth yr hen wr yn pallu. Er nad ydym yn cytuno a'i syniadau am foesoldeb masnachol; eto, blin fyddai genym ei weled yn gorfod cilio o'r neilldu. Buasai yn hawddach cael ei waeth na'i well yng nghadair Caergaint. Cynhelir cyfarfod pregethu Gwyl Dewi 1903, nos Wener, Chwefror 27ain, yn y City Temple, fel arfer. Pregethir yno gan y Parchn. O. R. Owen (Anibynwr) Glandwr, ac Edward Humphreys (Wesleyad) Rhyl. Bydd Mr. Merlin Morgan yn chwareu ar yr organ; a Mr. Madoc Davies yn arwain y canu. Bydd rhagleni y cyfarfod allan yn fuan. Un o'r cyngherddau cyntaf a mwyaf dydd- orol ar ddechreu y flwyddyn newydd fydd cyngherdd Cor Meibion Gwalia i'w hen ar- weinydd, Mr. Madoc Davies. Yr arweinydd newydd-Mr. Richard Griffiths-fydd yn arwain y cor yn y cyngherdd, yr hwn a gy- helir ar nos Fercher, Ionawr 2lain, 1903.