Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

---'-CHWARELWYR BETHESDA.

News
Cite
Share

CHWARELWYR BETHESDA. CYFARFOD YN RADNOR STREET. Y mae Rhyddfrydwyr plwyf enwog Chelsea drwy gyfrwng pwyllgor poliiicaidd yr Eleusis Club, wedi cychwyn mudiad teilwng o'i efel- ychu gan bob rhanbarth o Lundain, er cyn- orthwyo chwarelwyr Bethesda yn eu hym- drech dros gyfiawnder a rhyddid cymdeith- asol. Ffurfiwyd pwyllgor cryf, cadeirydd pa un ydyw Mr. James Jeffrey, C.S.Ll., ac ymhlith yr aelodau ceir Mr. Horniman, C.S.LI., Felix Moscheles (yr arlunydd enwog, a phleidiwr .:mawr y Bauwyr), nifer o'r cynghorwyr lleol, yn eu plith y Cynghorwyr Mr I. Lloyd, a Mr. Evan Griffiths (trysorydd y mudiad). Penderfynwyd cyal nifer o gyfarfodydd cyhoeddus yn y gymdogaeth ar ran y chwar- elwyr, a thrwy garedigrwydd y cyfeillion yn Radnor Street cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yneu capel, nos Iau diweddaf. Ond pa un ai oerni'r hin ai oerni calon tuag at eu cydwlad- wyr ydoedd y rheswm, yr oedd y cynulliad yn druenus o wael ac yn dorcalon i'r nifer fechan o Gymry oedd yn bresenol-yn enwedig pan ystyriem mai y Sieson oedd y mwyaf blaen- llaw yn ceisio cynorthwyo ein cydgenedl. Dywedir fod nifer o wragedd caredig yn ein capeli Cymreig y dyddiau yma yn brysur ddigon yn g-weithio a gwnïo dillad clyd-i bwy feddyliech ?—i bobl yr India bell; tra y mae uijeiniau o blant bach Cymru bob boreu ym Methesda yn gorfod myned i'r ysgol heb damaid o fwyd, ac heb ddillad i'w cynhesu rhag gwyntoedd oer y gauaf ond ni chawd dwsin o honynt yn Radnor Street nos Iau cyn y diweddaf i estyn cymhorth i famau Cymru, ac i ddangos cydymdeimlad a thlysion flodau gwlad eu genedigaeth sydd yn gwywo o dan drais difaol Penrhyn. Ffei arnoch wragedd Cymru, a naw ffei ar y grefydd gyfeiria eich golygon i bellderoedd daear pan y mae eich cydgenedl yng Nghymru yn newynu wrth eich drws. Cadeiriwyd yn ddeheuig, a chafwyd araeth hyawdl gau y Cymro twymgalon W. Davies, Ysw., C.S.LI. Yna darllenwyd penderfyniad cryf o gyd- ymdeimlad a'r chwarelwyr, yn galw ar y Llywodraeth i roddi terfyn ar yr an2"hydwel- ediad, gan Mr. P. H. Thomas, I.S.O., o'r Bwrdd Masnach. Siaradodd Mr. Thomas yn gryf dros ei gydwladwyr, a chafodd dderbyn- iad gwresog. Eiliwyd mewn araeth fer, deim- ladol, gan Miss Hannah Jones. Siaradwyd ymhellach ar y pwnc gan Mr. James Jeffrey a Mr. Horniman. Yna, ar gynygiad Miss Hannah Jones, ac eiliad Mr. Edward Owen, pasiwyd fod y penderfyniad i gael ei anfod i'r aelodau Cymreig—yn enwedig yr aelodau dros y rhanbarth gogleddol o Gymru. Ofnid mai mwy d:galon na'r cyfarfod fuasai y casgliad ond drwy haelioni Mr. Peter Jones a'r cyfeillion caredig oedd yn bresenol, a'r casgliad wythnosol ymhlith aelodau'r clwb. Cafwyd naw punt ac ychydig sylltau i'w hanfon i gronfa'r gwragedd a'r plant ym Methesda. Ond yn ddios y mae'r Cymry ar ol yn y mater yma. Lie ceir cwpanaid o de a chlec o gan mewn unrhyw gapel maent yno fel gwybed gylch canwyll; ond pan y mae cym- orth yn eisieu ar eu cydwladwyr ant o'r tu arall heibio. J. W. E.

Advertising

PRAWF DIC SION DAFYDD.