Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

PRAWF DIC SION DAFYDD.

News
Cite
Share

PRAWF DIC SION DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YE ANRHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDER. CLEBC Y LLYS. I COFEESTEYDD Y Mr. Cryno. | Mr. Digyffro. GWAS Y BARNWR. Mr. Clir-ei-lais. DADLEUWYR. Dnos YR ERLYNIAD. I DROB Y CARCHAROR. Mr. Gwladgarwr. Mr. Uchelgaie. TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Masnach. Mr. Lien Cymru. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Crefydd Cymru carcharor. (gwraig Mr. Lien). Miss Balchder, merch y Miss AddysgCymru,merch carcharor. Mr. Lien. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog. UAECHABOE. DIE SION DAFYDD. HHEITHWYE. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr. Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr. Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar. (Parhad). Mr. Uchelgais. Dr. Rhagfarn Mr. Clir-ei-Iais. Dr. Rhagfarn I Dr. Rhag- farn TYST V. Mr. Uchelgais. Dr. Rhagfarn, yr ych yn hen gyfarwydd a'r carcharor a'r erlyn- ydd? Dr. R. Ydwyf. Mr. U. Yr ych wedi clywed y dystiolaeth heddyw ynghylch yr hen anghydfod rhwng y ddau. A ydych yn cydfyn'd a'r hyn ddy- wedwyd ? Dr. R. Gwir bob gair. Mr. U. Yr ydym wedi clywed fod y car- charor weithiau bron gwallgofi ? Beth yw'ch barn chwi, fel ei feddyg ? Dr. R. Gallaf ddyweyd na fu erioed hyn- awsach na thirioned dyn na'r carcharor. Mae yn hail fellow well met mewn ty a thafarn, mewn eglwys neu football field. Mae yn un o'r bobl fwyaf synwyrol wn i am dano, ac yn bollol anhebyg i wneyd niwed i neb. Mr. U. A wnaethoch chwi edrych ar glwyf yr erlynydd ? Dr. R. Do. Mr. U. Beth ddywedech chwi am y modd y daeth o hyd iddo ? Dr. R. Gwn fod yr erlynydd yn dioddef oddiwrth y bendro ambell waith, a'i fod wedi llewygu fwy nag unwaith. Mae yn eiddilyn o ran corff, meddwl, ac yst&d, ac mor nwydus fel y gellir ei alw yn wallgofddyn ambell i dro. Nis gall oddef gair o gerydd, er mor dyner, na chydymod a'r gwrthwynebiad lleiaf. Fy marn yw iddo gael fit o'r bendro pan gyferfu a'r carcharor, ac iddo syrthio i lawr mewn haner llewyg, a tharo ei gern yn erbyn careg lem, ac mai dyna oedd achos ei glwyf. Mr. U. A ddywedech y gellid achosi'r clwyf gan gyllell ? Dr. R. Mae hyny'n bosibl: ond nid yn debygol. [Mr. Uchelgais yn eistedd.] Mr. Gwladgarwr. 'Rych chwithau a'r er- lynydd yn elynion er's blynyddau? Dr. R. 'Does dim posibl i foneddwr fodyn ffryns a'r fath borcyn gwael! Mr. G. Fe ddywed'soch eiriau celyd yn ei erbyn ym Mrad y Llyfrau Gleision ? Dr. R. Dim haner digon caled i siwtio'r fath ynfydyn carpiog 1 Mr. G. Ac yr ych wedi dyweyd yn gy- hoeddus y dylid rhoddi pen ar ei einioes ? Dr. R. Drwy rym cyfraith, syr Mr. G, O'r goreu. Ond ai ni ddywed'soch fod bai ar y fam-faeth a'i derbyniodd i'r byd na fuasai wedi ei lindagu cyn iddo siarad gair ? Dr. R. Credaf, fel meddyg, ei fod yn ddyledswydd i amddifadu pob erthyl brwnt o anadl einioes, a gwae fi na fuasai'r erlynydd wedi derbyn y fath driniaeth. Mr. G. Gyda Haw, Dr. Rhagfarn, gan eich bod yn siarad fel meddyg," a ydych wedi pasio arholiad meddygol yn y wlad hen ? Dr. R. Naddo. Mr. G. Ymh'le ynte y graddioch ? Dr. R. Yn yr un Brifysgol, syr, ag y graddiodd Mr. Rhith-Gwareiddiad, sef, ym Mhrifysgol Anniwylliant yn Ymherodraeth Nwyd a Dallbleidiaeth. Mr. G. Mae'n dda genyf glywed eich qualifications, Dr. Rhagfarn. [Mr. Gwladgarwr yn eistedd.] Y Barnwr. Dr. Rhagfarn, a welsoch chwi'r carcharor erioed wedi colli ei dymher? Dr. R. Wel, f'arglwydd, do, unwaith neu ddwy ? Y Barnwr. Oedd yr erlynydd gerllaw ar y pryd ? Dr. R. Oedd: fe oedd achos y dymher ddrwg. Y Barnwr. A oedd y carcharor fel pe wedi eolli ar ei hunan ? Dr. R. Wei, 'roedd yr erlynydd yn ddigon i yru'r callaf yn walJgof [Dr. Rhagfarn yn ymadael.] Mr. Uchelgais. Rhynged bodd eich Ar- glwyddiaeth a Boneddigion y Rheithwyr. Yr ydych erbyn hyn wedi clywed y ffeithiau i gyd, ac fe feiddiaf ddyweyd eich bod er's amser wedi penderfynu na chlywscch erioed a'ch clustiau'r fath sotbach mewn Ilys cyfraith o'r blaen. Yn awr, pwy yw'r erlynydd ? Clywsoch ei gymeriad. Dyn nwydwyllt, sarug, cas, yn wastad yn chwythu bygythion a chel- anedd yn erbyn pawb na phlygant lin o'i flaen ef, os gwelwch fod yn dda. 'Does ddadl nad ydyw er's blynyddau wedi dilyn y carcharor droiau a'i fygythion a'i enllibau. A oes un o honoch, foneddigion, heb fod yn sicr yn eich meddwl y buasai'r erlynydd wedi rhoddi taw oesol ar y carcharor pes gallai ? Ond mae wedi methu. Er ei ddirmygu a'i enllibio mewn ffair a marchnad, mewn tref ac eglwys, mewn steddfod a chwrdd pregethu, mae Die Sion Dafydd yn fyw o hyd. Ac felly, o'i gasineb angerddol, ar ol methu ei yru ar ffo, mae Mr. Cymraeg yn meddwl cael gwared arno drwy eich help chwi! Beth yw'r hanes glywsom heddyw ? Ar bryanawngwaith ym mis Medi cyferfu'r ddau elyn drwy ddamwain yn agos i dy'r carcharor. 'Does neb wedi beiddio awgrymu fod y carcharor wedi cyn- llunio'r cyfarfyddiad. Anhap a damwain oedd y cyfan. A pha beth oedd stad meddwl y ddau, un at y llall ? Clywsoch fod Die Sion Dafydd wedi llwyddo i gadw'r erlynydd allan o Eisteddfod Bangor. A oedd hyny'n du- eddol i wneyd Die yn waeth ei dymher ? Die oedd wedi enill y dydd: yr erlynydd mewn nwydau, fel y gorfu iddo gyfaddef wrthyf. Dyna'r ddau yn decbreu siarad, un yn bygwth y llall, fel y gallwch gasglu. Yn y cythrwfl, syrthiodd Mr. Cymraeg i'r llawr. Clywsoch ei hanes gan y meddygon. Mae ei feddyg ei hun yn gorfod cydnabod fod yr erlynydd wedi llewygu unwaith neu ddwy o'r blaen. Ydych chwi ddim yn meddwl mai'r stori fwyaf rhesymol yw iddo syrtnio'r tro hwn, a tharo ei ben yn erbyn careg lem ? Cofiwch, 'doedd neb arall yno ar y pryd, dim ond y ddau hyn. Nid oes eisieu i mi ofyn i chwi, p'un o'r ddau wnewch gredu? Digon i mi yw gofyn, a ych yn sicr, tuhwnt i bob amheuaeth, mai'r car- charor wnaeth glwyfo Mr. Cymraeg? Os oes yr amheuaeth lleiaf yn eich mynwesau, yna gollyngwch y carcharor yn rhydd,—yn rhydd i fyn'd yn 61 at ei deulu i fyw bywyd tawel, heddychlon a daionus fel y gwnaeth cyn i'r helynt hwn ei ysgaru oddiwrth ei an- wyliaid a'i geraint a'i gyfeillion Mr. Gwladgarwr. Nid oes eisieu i mi, Foneddigion y Rheitbryr, eich cadw ond am foment neu ddwy ymhellach. Gallwch ben- derfynu gystal a gwell na minau ar eich ded- fryd. Dywedodd fy nghyfaill dysgedig wrth- ych os ceddech mewn amheuaeth y dylecfc ollwng y carcharor yn rhydd. Ie, ond ccfiwch y dylai'ch amheuaeth fod wedi ei sylfaenu ar reswm. Gofynaf i chwi, a oes amheuaeth rhesymol yn eich meddwl ynghylch enwog- rwydd y carcharor? Un peth sydd sicr, i Mr. Cymraeg gael ei glwyfo. Pa fodd ? Dy-wed ef yn bendant mai'r carcharor a'i clwyfodd a chyllell. Pan ddangoswyd y gyllell- yna iddo, dywedodd, Un fel yna oedd yn llaw'r carcharor pan darawodd fi." Cafwyd gafael yn y gyllell gan yr Heddgeidwad ger llaw'r fan y syrthicdd yr erlynydd. Pan gy- huddwyd y carcharor o'r trosedd, beth wnaeth? A wnaeth ef wadu ? Dim o'r fath beth. Tystiodd yn haerllug ei fod yn falch i'r er- lynydd gael ei glwyfo. Foneddigicn, ni wnaf ymhelaethu. Os ydych yn credu'r Heddgeid- wad, eto mae'r carcharor yn euog. Os hyn yw eich barn, gwn na wnewch betruso rhcddir i'ch barn ei llafar. Y Barnwr. Foneddigion y Rheithwyr; ar ol y gwrandawiad astud a roddasoch i bob- darn o'r dystiolaeth, ac ar ol yr areithiau medrus yr ych wedi glywed, ni wnaf eich cadw yn hir gyda geiriau o'm heiddo i. Mae yn wir ddrwg genyf weled gwr fel y carcharor yn sefyll wrth y bàr, a gwn y bydd yn galed i chwi wneyd eich meddyliau i fyny. Ond yr ydym yma i wneyd cyfiawnder ac i wneyd y gylraith oil yn oll, a pha mor galed bynag y bo, rhaid i chwi a minau wneyd ein dyled- swydd yn ddi-dderbyn-wyneb. Mae'n amlwg fod anghydfod yn ffynu rhwng yr erlynydd a'r carcharor er's blynyddau lawer. Nid ein gwaith ni heddyw yw chwilio p'un oedd ar fai yn hyn. Feallai fod bai ar y ddwy ochr-nis gwn. Ond nid yw yn erbyn cyfaith y tir i ddau wr fod yn elynion. Yn wir, dysa sydd yn rhoddi gwaith i'r cyfreithwyr I Ond mae gorfodiaeth ar i bawb fyw'n heddychlon a'u gilydd. A'r cwestiwn sydd genych chwi i'w ateb yw. A wnaeth y carcharor glwyfo'r er- lynydd a chyllell ar yr wythfed o Fedi ? Os do, a oedd rhywbeth yn ymddygiad yr erlyn- ydd yn cyfiawnhau'r weithre ? Gyda golwg: ar y cwestiwn cyntaf, mae'n anhawdd gweled pa fodd y gellwch osgoi dyfod i'r farn i'r car- charor glwyfo'r erlynydd. Chwychwi, fon- eddigion, sydd i farnu, nid myfi. Nis gallaf ii, ond rhoi fy 'mhiniwn i chwi.. Os nad yw yn werth eich sylw, gadewch ef naill ochr. Chwi sydd yn gyfrifol am eich dedfryd, nid myfL Ond fel y dywedais, anhawdd genyf fi ddirnad pa fodd y gellwch osgoi'r canlyniad. Stori feddal, gallwn gredu, yw'r stori am lewyg yr erlynydd. 'Does dim prawf o'r fath beth: tystiolaeth Dr. Hanes yw nad yw'r erlynydd. wedi llewygu er's blynyddau lawer. Dywed Mr. Cymraeg iddo wel'd y gyllell yn llaw'r carcharor. A yw Mr. Cymraeg y dyweyd celwydd noethlymyn ? A yw wedi dod i'r llys i dyngu anudon ? Anhawdd genyf gredu hyny. Mae'n ffaith i'r Heddgeidwad gael cyllell y carcharor gerllaw: pa fodd y daeth y gylleIl yno, yn agored ? Gofynodd Mr. Gwladgarwr i chwi osod pwys ar yr hanes roddodd yr Heddgeidwad o'r siarad fu rhyngddo ef a'r carcharor pan gymerwyd ef i'r ddalfa. Ond ar ol y dull afreolus y rhoddodd yr Hedd- geidwad ei dystiolaeth yn y llys, mae'n rhaid i mi ofyn i chwi i beidio rhoi dim sylw i'r rhan yna o'r dystiolaeth. Os felly y dowch i'r pen- derfyniad mai'r carcharor glwyfodd yr er- lynydd, cyfyd cwestiwn arall,-A oedd rhyw- beth yn ymddygiad yr erlynydd yn cyfiawnhau'r weithred ? Eto, chwi sydd i benderfynu. Ni wnaf ond esbonio'r gyfraith. Hyn yw cyfraith, tir ar y pwnc. Mae hawl gan wr i amddiffyn ei einioes drwy gymeryd ymaith einioes arall, os nad oes modd arall. Os gwel gwr elyn yn anelu dryll ato, mae ganddo hawl i'w saethu. Os ymosodir ar wr gan arall a chleddyf, mae ganddo hawl i drywanu'r arall hwn a chleddyf. Ond os ymosodir ar wr gan arall a'i ddyrnau'n unig, nid oes hawl gan y gwr i amddiffyn ei hun a chyllell neu gleddyf, neu bistol. Yn awr, a oedd y carcharor mewn perygl am ei fywyd pan gyferfu a'r erlynydd yn heol Rhag- farn ar yr wythfed o Fedi ? Nid oedd gant yr erlynydd, yn ol yr hyn a glywsom, na ffoTh