Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

CYMRU A'R MESUR ADDYSG.

Bgd y --A It I ,A-Gan.

News
Cite
Share

Bgd y --A It I ,A- Gan. Gan PEDR ALAW. r" PENDENNIS," LOUGHTON.] CYNGHERDD CAPEL Y GOHEBYDD." Cafwyd cynulliad lied dda yn y Tabernacl Newydd yn Old Street, E.C., nos lau y 4ydd cynfisol. Amcan penaf yr anturiaeth ydoedd lleihau y ddyled o dros fil o bunau sydd yn aros ar yr adeilad prydferth yn Barrett's Grove. Teimlir fod y ddyled yn un fawr i gynulleidfa fach, a bwriedir gwneyd ymdrech egniol bellach i glirio y cyfryw. Gwelir pa mor ymdrechgar y bu y brodyr pan y deallir ddarfod i'r adeilad gostio £3700 yn i884, ac fod tros ddeuddeg cant o bunau wedi eu talu mewn lldg ar yr arian fenthygwyd; ac y mae y ddyled bellach wedi ei lle-ihau i'r swm a enwyd uchod. Da iawn yn wir; a buan y caffo Mr. Rowlands a'i gydweithwyr gymhorth "i edrych y byd yn ei wyneb" ynglyn a'r hagrwch beichus sydd fel tynged, wedi bod yn eu haflonyddu cyhyd Am y canu, byddai ceisio beirniadu y cyfryw yn waith anhawdd iawn; ac yr oeddym yn mwynhau gormod arno i'w bwyso yn fanwl! Pwy fedrai, mewn gwaed oer, feirn- iadu y cor merched-oeddynt fel llu o angyl- ion yn diferu melodedd i enaid dyn, nes peri anghof o bethau'r ddaear am enyd I "Angyl- ion ddywedasom ? Ie, ond yn yr ymgais i ddisgyn o'r esgynlawr, gwelem fod yn bosibl iddynt syrthio 1" Encoriwyd y parti bob tro, er ei fod yn canu heb arweiniad Mrs. Novello Davies—yr hon, fel y deallem, oedd yn wael. Cyfeiliwyd yn ei lie gan Miss Rees. Y darnau ganwyd oeddynt y rhan-gan: Fly, singing-bird, fly (Elgar); Ma curly-headed babby Scena- 4 Miserere' (Verdi)—unawdwyr, Miss Griffiths a Miss Davies; rhangan, Ki'j',Iarney I (Balfe); "Andalusian Bolero"' (Dessaner). Caneuon Mr. Emlyn Davies oeddynt: Thou'rt passing hence (Sullivan); At parting (darn bach melus odiaeth) « Re- membrance." Hefyd, canodd Gwlad y Cenin fel encor. Afraid ydyw i ni ganmol y cantor hwn. Anhawdd fyddai iddo beidio swyno ei wrandawyr gyda'r fath gyfoeth o lais. Mr. Herbert Emlyn ganodd Once ag-ain (Sullivan) a Gwlad y Delyn." Hefyd can- odd yn y ddwyawd Mae Cyraru'n barod gyda Mr. Emlyn Davies. Da iawn fuasai genym glywed Mr. Herbert Emlyn mewn darnau llai adnabyddus na'r uchod. Barnwn nad yw'n canu mor gryf ac yr arferai; ond y' j mae'r llais wedi enill mewn mwynder; ac yr oedd ymdrechion y cantor yn bur gymeradwy gan y gwrandawyr. Addurn i"r cyngherdd ydoedd cbwareuad Mr. W. L. Barett ar y flute. Yr oedd ei ddarnau hefyd yn dra chwaethus ac yn cael eu mwynhau gan y dorf. Da iawn oedd genym gael arwyddion diamheuol o hyn: argoela yn dda am ddyfodol cerddoriaeth offerynol yn ein plitb. Yn sicr, y mae Mr. Barret, hefyd, yn gyfansoddwr da. Tlws odiaeth ydoedd y "Romance" o'i eiddo; a gogleisiol ydoedd y "Tarantella" gyda'i rhanau canol melodawl. Gan foneddigesau perthynol i gor Mrs. Davies, cafwyd y caneuon: "April Morn" (Miss Marian Isaac); Land of Roses (Miss Ethel Vibert) a "01 for a burst of song" (Miss Maggie Lewis)—a'r oil yn dda. Y mae gwrando ar un adroddiad 0" Karl the Martyr" yn ddigon i ni; ond be bae Mr. D. Egryn Owen yn ein anrhegu a llawer adroddiad o u Counting Eggs," ni chwynem. Gwnaeth Mrs. Nellie Jones, fel cyfeiles, ei rhan yn dda fel arfer; ond o berthynas i'r unawd ar y berdoneg, nis gweiem lawer o briodoldeb ym mater y cerddoriaeth o gylch pa un y trinid yr Alaw Gymreig. Hwyrach mai ein diffyg mewn ymgydnabyddiaeth a'r darn ydoedd yr achos o hyn. Wel, beth am y cadeirydd ? Tebygem ei fod yn ddi-fai. Yr oedd yn syml ac yn fyr a doniol yn ei sylwadau-ac nid oedd ganddo araeth Haedda Mr. Sackville Evans gael ei alw eto i'r unrhyw swydd. YR WYL GERDDOROL GYMREIG. Y mae'r pwyllgorau wedi gweithio yn dda ynglyn a hon, ac yr ydys bellach yn abl i enwi y gweithiau a genir yn y cyngherdd cyntaf, sef cantawd Mr. D. C. Williams- Praise the Lord" (yr hon a ganwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor) a The Swan and Skylark" gan Goring Thomas. Llogir cerddorfa gyflawn i gyfeilio y gweith- iau hyn, a bydd hefyd ddarn neu ddau offerynol yn y rhaglen. Cyn y bydd y rhifyn hwn o'r CELT allan, bydd y man lie y cynhelir y rehearsals, a'r noson, wedi eu penderfynu; ac wedi hyny anfonir cais i bob capel ac eglwys Gymreig i gymhell y cantorion i ymgynull mewn lie canolog i ymrestru fel aelodau o'r cor—wedi eu profi. Hyderir allu dewis 250 i 300 o gor. Bydd gofyn i bob aelod o'r cor gyfranu swllt yn flynyddol, ond ni raid iddo dalu am y gerddoriaeth, felly bydd ar ei fantais. I gyfarfod a'r amrywiol dreuliau, gwahoddir aelodau y pwyllgorau a phawb ereill cerddgar yn, ac oddiallan i Lundain, i gyfranu. Bydd yn dda gan yr ysgrifenyddion gael enwau rhai addawant danysgrifio ond llonir hwy yn fwy gan gyfranwyr arian parod-gan y bydd raid argraffu tafleni, &c., yn ddioed. Da genym fod gwr mor gymwys a Mr Davies, East Greenwich, yn y swydd o drysorydd. Hefyd fod y Cymro twym-galon a galluog, Mr. R. O. Jones, wedi yrngymeryd a'r swydd o brif ysgrifenydd. Bydd iddo ddewis un o'r is-ysgrifenyddion; y mae'r Hall yn y tresi er's tro, sef Mr. E. A. Jones (mab NIr. David Jones) Commerciai Road. Mr. Madoc Davies ddewiswyd yn. arwemydd lleol-a dylai ei brofiad gyda chorau fod yn gaffaeliad mawr i'r sefydliad. Y mae Mr. Harry Evans. Dowlais, hefyd, wedi cadarnhau ei ddewisiad fel arweinydd y cor yn yr wyL Rhagoroi hefyd, ydyw panodiad Mr. Merlin Morgan yn brif gyfe-ilydd. Yn sicr, y mae hyn oIl yn arwyddo ilwyddiant i'r sefydliad.