Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
Miss LIZZIE TEIFY DAVIES, R.A.M.
CYNGHERDD TEIFY DAVIES.
CYNGHERDD TEIFY DAVIES. NOSON 0 GAN YN BECHSTEIN HALL. CYDNABOD TALENT DDYSGLAER. Yn y rheng flaenaf o'n cantorion cenedl- aethol heddyw, saif enw Miss Lizzie Teify Davies. Nid heb ei deilyngu, ychwaith, y mae wedi enill y fath safle, oherwydd ychydig iawn yw nifer y rhai sydd wedi gweithio mor galed ac wedi ymladd y fath lu o anhawsderau a hi ym myd y gfan, ac wedi eu gforchfyg-u oil yn anrhydeddus. 0 fod yn gantores fechan ar lanau y Teifi i enill parch ac edmygedd y byd Seisnig-a hyny heb gynorthwy dylanwadau cymdeith- asol, sydd fwy nas cyfrifir yn gyffredin; oherwydd nid yw talent, bob amser, yn cael ei mawrygu oni bydd yno yni a gweithzarwch o'r tu ol iddi hefyd. Llawenydd, gan hyny, oedd genym weled y fath gynulliad parchus wedi dod ynghyd i'r Bechstein Hall nos Wener diweddaf, i dalu teyrnged o barch i'r gantores hygar hon; a sicr yw fod pawb, hefyd, ar derfyn y wledd, wedi cael cyflawn dal am y noson, oherwydd rhaid addef fod Teify wedi mwy na chadw ei safle gerddorol ar y noson hon. Nid oedd ganddi ond un cynorthwywr lleisioI, sef Mr. Frederick Ranalow (a chanwr digon da ydoedd hefyd), a Miss Amy Llewelyn Toms fel offerynydd a phob yn ail a'r rhai hyn, caed gan Teify i roddi rhyw bymtheg o ddarnau t Gwarchod ni, meddem, pan wel- som y rhaglen ar y dechreu, a yw'r ddynes wedi colli? Ond, caed cyn y diwedd fod Miss Davies mor ffres a byw fel y gallasai ail-ddechreu ar y rhestr eilwaith! Afraid fyddai rhoddi beirniadaeth, ond yn sicr gellid canmol pob darn a roed ganddi, ac ar ol hyn ni fydd wiw rhoddi esgus nas gall ganu encdr ar ol rhyw un don fel y myn rhai o'n cantorion tawel Cymreig. Er's cryn amser, bellach, mae Miss Davies wedi dyddori ein cyngherddau Cymreig a'i thalentau disglaer, a sicr yw nas anghofir hi bcHach yn ein huchel wyliau. Trueni o beth ein bod yn ami yn gadael i Saeson i ddar- ganfod talentau ein gwlad, yn hytrach y ni a ddyiasem eu noddi a'u rn,e\thrin, a phan bo un yn barod i lynu wrthym, dylem ninau fod ar ein goreu i'w cefnogi hwy. b Da genym weled hefyd fod Teify heb ang- hofio ei chymwynaswyr cyntaf, eithr cyme r gryn ddyddordeb yng nghaniadaeth y Cymry. Eleni gwnaed hi yn bencerddes yng Ngorsedd y Beirdd ym Mangor, a sicr na haeddodd neb erioed o hil y gan y teitl yn well. Nid yn unig y mae yn gefnogydd parod i'n caneuon, eithr hefyd ni chaed yn ein plith neb mwy parod i roddi help Haw, a llais hefyd, pan fo rhyw fudiad dyngarol neu genedlaethol ac angen cynorthwy arno. Gyda'i gwen hapus a'i chalon agored a'i natur lawen Gymreig, y mae wedi gwneyd canoedd o gyfeillion ar hyd a lied Cymru, a 'does bardd dibriod o Fynwy i Fon, nad yw eisoas wedi englynu iddi englynion serch yn ddiri heb son am y tri mesur ar hugain ereill. Er hyn oil, pirhau i ganu mae'r Bencerddes Mai golud pob merch ifanc Yw ei dewis ar ei Haw." Boed iddi hir oes i ddyddori ei chyd-ddynion &'i thalentau disglaer.
CoMail y Diweddar T. E. Ellis,…
CoMail y Diweddar T. E. Ellis, A.S. Ddydd claddu Thomas E. Ellis penderfynwyd codi rhyw Gofadail Genedlaethol deilwng iddo. Apwynt- iwyd Pwyllgor Cyffredinol, a chasglwyd 1,960p. O'r arian hyn rhoddwyd l,200p at amcanion ynglyn a'r Brifysgol gadwai Mr. Ellis mewn cof. Trosglwyddwyd y gweddill, ynghyda'r addewidion, i bwyllgor lleol i godi cofgolofn yn y Bala.—Y mae'r oerflunydd, W. Goscombe John, yn brysur gyda'r golofn. Rhoddir hi mewn lie ago red ar Stryd Fawr y Bala. Ei defnydd yw pres. Cydnabyddir fod y golofn ei hun yn ddarlun cywir a tharawiadol iawn. 0 amgylch gwaelod y gol- j ofn bydd darlun o fywyd Mr. Ellis—yr Ysgol, y Goleg, y Sonedd. Yr ydys wedi oymeryd yn ganiataol y cair i o leiaf fil o bunau at y golofn. Taer erfyniwn ar i'r rhai sydd wedi addaw, y rhai sydd eto heb gael cyfie i roi dim, a'r rhai sydd yn bwriadu ychwanegu at yr hyn a xoisant, anfon eu rhoddion i un o honom ar fyrder. > Dodorchuddir y golofn ddechreu yr haf nesaf, pryd y gwelir ei bod yn deilwng o Thomas E. Ellis ae o honom fel cenedl. A gawn ni ei dadorchuddio yn I ddiddyied ?—Roger Hughes, Bala, cadeirydd Wm. Evans, Birmingham, trysorydd Thomas Jones, Lian- dderfel; E Vincent Evans, Llundain 0 M Edwards, Rhydychaia; Gwynoro Davies, Abormaw, ysgrifenyddl t
Advertising
Cor Meibion Gwalia. Y mae'r Cor uchod yn adnabyddus i'r mwyafrif o'n cydwladwyr yn Llundain bellach, ac wedi lloni ami i gynulleidfa o bryd i bryd. Fel y gwyddis, Mr. Madoc Davies sydd wedi bod yn ei arwain ar hyd yr amser, ac y mae wedi llafurio yn galed iawn ynglyn ag ef; a chan ei fod yn awr yn rhoddi yr arwein- yddiaeth i fyny, y mae'r aelodau wedi penderfynu gwneyd cydnabydd- iaeth iddo, am ei wasanaeth gwerth- fawr, drwy drefnu i gynhal CYNGHERDD MAWREDDOG AB NOS FERCHER, Ionawr 2lain, 1903 YN YR Holborn Town Hall Cadeirydd- JOHN HINDS, YSi. Gwasanaethir gan y rhai canlynoI- Soprano- MISS GERTRUDE HUGHES B.A.M. Contralto- MISS L. TEIPY DAVIES R.A.M. Tenor- MR. GWILYM RICHARDS R.A. M. Bass- MR. MADOC DAVIES A.R.C.M. Cello- MR. R. PURCELL JONES (Welsh Celloist) A.R.C.M. Adroddes- MRS. TUDOR RHYS A CIIAN GORM EI BION GWALIA, Arwefnydd—Mr. RICHARD GRIFFITHS Cyfeilydd— MR.. MERLIN MORGAN Drysau yn agored 7.30, Cyngherdd yn dechreu 8", Tooyaau, 5/ 3/ 2/ a 1/- ¿JI i:i! '(.,Ii ¡ ¡ -<