Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

News
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. DAU ARWR CENEDL. Oes gan y gorphenol garw ei wersi i ni? Ac, a yw hanes yr arwyr a fu yn rhoddi ysbrydiaeth ynom i ymladd brwydrau'r dy- iodol ? Dyddiau blinion yw y rhai'n, ac ni fu adeg ericed yn ein hanes gyda mwy o angen am arweiniad na phan y gwelid peb eg- wyddor o iawnder a phob dyhead cenedl- aethol yn cael eu llethu gan drais galluoedd a chenedloedd cryfach na ni, a chredwu nad oes dim a'n parotoa yn well i'r gad nac as- tudio hanes yr arwyr a'r amseroedd a fu, a diolchwn yn gynes am ddwy gyfrol amserol a ddylai gael darlleniad helaeth gan bob un sydd wedi ei drwytho a chenedlaetholdeb yr hil Geltaidd. I bob Cymro sy'n ymhytrydu yn awyrgylch rhyddid, ac yn mwynhau bendithion golud- oedd ac addysg ei wlad, nid oes enw a ddylai gael mwv o barch ganddo nag enw HENRY RICHARD-blaenffrwyth ein bywyd gwerinol, ac i'r Gwyddel twym-galon pa enw sy'n enyn mwy o swyn na choffa am HENRY GRATTAN, ac y mae jmddargosiad dwy gyfrol ar y ddau Henry, o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd, yn ffaith amlwg fod y cenedloedd bychain hyn heb anghofio eu dyledion arbenig i arwyr yr oesau o'r blaen, ac yn sicr y mae'r ddau Henry yn hawlio lie blaenaf ein hed- tnygedd. HENRY GRATTAN. Dyma'r gwr a osododd seiliau rhyddid i genedl orthrymus y Gwyddel, ac y mE, e darllen hanes ei wrhydri dros les- iant ei wlad yn darllen fel penod o ramant, ac mae awdwr y gyfrol fechan hon wedi llwyddo i osod o flaen y darllenydd Seisnig ei hanes mewn diwyg hynod o ffafriol. Traethawd beirniadol yw a enillodd y "Gladstone Prize ym Mhrifysgol Rhydychen y flwyddyn hon, a da y gwnelai rhai o lywiawdwyr ein Prifysgol ni pe gallasent weithiau ddod o hyd i rywbeth tebyg i hyn ymysg gweithiau ein hefrydwyr cenedlgarol a dysgedig. Yn y penodau hyn rhoddir gwelediad clir o gyflwr y genedl o'r ochr draw i f6r Gwerddon ar derfyn y ddeunawfed ganrif, ac y mae cael cipdrem ar hanes Senedd Grattan yn anheb- gorol angenrheidiol i'r sawl bynag a hoffa wybod dim am y pwnc Gwyddelig, ac am eu hawliau i Ymreolaeth yn arbenig. Adeg gythryblus oedd hi ar yr Iwerddon pan aeth Grattan i fewn i'r Senedd yn ddyn ieuanc addawol, naw ar ugain oed, yn y flwyddyn 1775 ond er mor flin ydoedd pethau yno, yr oedd yn waeth yn yr America. Yr oedd anghydweliad rhyngom a'r talaethau, a chyn pen ychydig amser torodd y rhyfel allan a fu'n achos i ni golli meddiant o'r tiroedd tu- hwnt i'r Werydd. Pan oedd y cyfyngder yma ar Loegr, manteisiodd yr Iwerddon arno, a thrwy allu a chraffder Grattan caed llawer iawn o welliantau pwysig. Er hyn i gyd, ni lwyddwyd i liniaru gorthrymderau yr ynys, ac ar wahan i feichiau llethol mewn ffurf o dreth- oedd yr oedd y lie wedi ei drwytho a phob budreddi politicaidd a'r rhaglawiaid Seisnig o dro i dro wedi llwyddo i ddyrchafu pob math o gymeriadau ariancg ac anfoesol i fod yn fath o lywiawdwyr ar ylle. Y mae'r brwydrau gafodd Grattan yn eibyn y llwgrwobrwywyr hyn, yn benodau gwerth eu hastudio, ac ant ymhell i gyfrif paham y collodd yr Iwerddon ei Senedd yn 1800. Yn ystod y chwarter canrif y bu Grattan yn y Senedd llwyddodd i enill llu o fesurau bendithfawr i'w wlad. Efe oedd y gallu cryfaf a welodd o blaid iawnder cenedlaethol, ac fel areithydd, diau y saif yn ddigymhar yn rhestr enwogion ei wlad. Caed prawf eglur ar hyn pan ddaeth i Westmins- ter yn 1805. Bu yn anerch y Ty Cyffredin droion, a hyny pan o< dd cewri areithyddol yn y lie, ond cyfrifir Grattan fel yn ben arnynt oil. Bu farw yn 1819 ar ol oes galed a gweithgar, a choffheir ei enw tra bo son am hanes yr Ynys Werdd. Pryner y llyfr hwn ar bob cyfrif. HENRY RICHARD. Dyma arwr mawr y Cymry yn y ganrif o'r blaen. Er wedi ei gladdu oddiar 1888, eto, dyma'r cofiant Cym- raeg cyntaf a wnaed am dano Rhyfedd fel yr esgeulusa Cymru ei phlant. Mae dau gofiant Seisnig wedi ymddangos er's tro, ond Henry Richard, fel y gwelai y Saeson ef, geir yn y ddau hyny, ond yn awr, gan mai Cymro sydd wedi bod wrth y gwaith y mae gobaith am welediad arall arno, neu o'r hyn leiaf fe ddylai fod. Un o blant y genedl oedd Henry Richard-mab i bregethwr gwledig yng Ngheredigion-eto, esgynodd i'r anrhyd- edd uchaf yn y Senedd fel ei cyfrifid ef yn gy- ffredinol fel" Yr aelod tros Gymru." Efe oedd y llais a dorodd allan yn hyglyw ar ran y genedl pan oedd tirfeddianwyr y wlad yn erlid eu tenantiaid am bleidleisio dros eu heg- wyddorion, ac am y brwydrau lluosog a ym- laddodd ar ein rhan dylai cenedl y Cymry gadw ei goffa byth yn wyrdd. Nis oes dis- gwyl cael cofiant manwl i wr mawr fel hwn o fewn rhyw dri chant a haner odudalenau,eto, diolch i'r avdvtr am gipdrem ddarllenadwy iawn am y gwr a anghofiwyd cyhyd. Gob- eithio, er hyny, y cyfyd rhyw hanesydd yn man a wna gyfiawnder ag ef ac y caiff Cymru gyfrol deilwng o'r hwn a wnaeth gymaint drosti ar ddechreu ei deffroad gwleidyddol- [HENRY GRATTAN by P M. Roxby: T Fisher Unwin, Paternoster Square, Llundain. Pris, 3s 6c net.] [HENRY RICHARD, ei fywyd a'i waith gan Eleazar Roberts. Hughes a'i Fab, Gwrec- sam. Pris, 3s 6c.]

Advertising