Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
OddeMfis'i* Ddinas.
OddeMfis'i* Ddinas. Heno, nos Sadwrn, rhoddir ail gyngherdd y tymhor yn neuadd Capel Castle Street, pryd y cymerir rhan gan nifer o dalentau adnab- yddus. Mae rhaglen Castle Street bob amser yn ddeniadol, a sicr na chaiff neb eu siomi y noson hon ychwaith. Yn gwrando ar hanes rhyw "Hen Gruger Cymreig" bydd aelodau Oymdeithas y Taber- nacl ar yr un noson, oherwydd dyna yw testyn darlith Mr. W. Llewelyn Williams yno. Dis- gwylir amryw o feirniaid hanesyddol i wrando ar Mr. W illiams a'i ddarganfyddiadau am hen arwyr Cymru. Mae parotoi mawr gogyfer a'r swper goffi a gynhelir yn Clapham Junction nos Fercher nesaf o dan lywyddiaeth Mr. D. Williams, Islington. Gan mai hwn fydd y swper olaf am y tymhor, bydd yn werth i bawb fyned yno i fwynhau y wledd am dro. » Nos Wener diweddaf, treuliodd Cymdeithas Ddiwyliiadol Shirland noson ddifyr gydag "Emynwyr Cymru. Darllenwyd papyrau ar dri o honynt, sef Ann Griffiths gan Miss Richards, Malvern Road "Williams Panty- celyn," gan Mr. Evans, Hatherley Grove; ac it Edward Jones, Maesyplwm," gan Mr Jones, Kenslake Road, Kensal Rise. « < Yr oedd y tri yn dangos 61 llafur a gallu, ac wedi eu hysgrifenu mewn modd dyddorol ac addysgiadol. Cawsom grynhodeb byr o'u bywyd ynghyd a'r hyn a fu yn achlysur i ambell un o'r emynau goreu yn ein hiaith gael eu cyfansoddi. Cawsom hefyd rai emynau o'u g-waith, nad ydynt yn argraffedig yn y llyfr emynau a'r rheswm a roddai Mr. Jones dros hyny ydoedd, am nad oeddent wedi eu hysgrifenu ar fesurau ag oedd tonau arnynt. Gresyn hyny; y mae llawer o rai is-raddol iddynt wedi cael eu gosod i mewn. < < Hysbysodd y llywydd ar y diwedd fod hen Feibl Maesyplwm wedi cael ei roddi yn anrheg i Eglwys Shirland Road, gan ei ferch, a'i fod i'w wel'd yn yr ystefell nesaf. Ter- fynwyd v cyfarfod trwy ganu un o'r emynau, sef Cyflawnwyd y Gyfraith i gyd." Nos Lun nesaf traddodir papyr o flaen Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn 20, Hanover Square, W., gan Mr. Edward Arthur Lewis. Ei destyn fydd The decay of Tribalism in North Wales," a llywyddir y cyfarfod gan Frederick Serbohan, Ysw., gwr sydd yn hyddysg iawn ynhanesiaeth y llwyth- au Celtaidd » Nos Fercher, Rhagfyr y 4ydd, yng nghym- deithas Walham Green, cafwyd darlith ddyddorol a phur addysgiadol gan Mr. Timoty Davies, C.S.LI., ar y testyn, Tro yng ngwlad y Llyn a'r mynydd." Switzerland oedd y -1 wlad," ac yno y bu Mr. Davies yn treulio yr haf diweddaf. Cafwyd cipdrem ar hanes, addysg, a masnach y wlad, a dydd- orol oedd gwrando ar Mr. Davies yn adrodd ei brofiad yn dringo hen fynyddau uchel cribog y wlad. Caed nifer o ddarluniau tarawiadol drwy gyfrwng y llusern, gan y Mr. Thomas Jones y cenhadwr, i egluro y ddarlith. Ar y diwedd, pasiwyd diolchgarwch gwresog i Mr. Davies ar gais Mr Robert Jones, a chefnog- wyd ef gan Mr John Hughes, Chelsea. « 0 dan lywyddiaeth Mr. Horace W. Davies, y cyfreithiwr o Radnor Street, caed noson hwyliog iawn yn swper goffi City Road y nos lau o'r blaen. Hwn oedd trydydd cwrdd y tymhor, a rhoddwyd gwledd ragorol ar y dechreu can Mr. a Mrs R Morgan, Marsham Street, Westminster; ac nid ydynt hwy un amser ar ol mewn haelfrydedd ar amgylchiad o'r fath. Gwasanaethwyd yn y cyngherdd gan Misses Wheeler, Jewin; Mr. E. Morgan, City Road; Mr. E. Thomas, Jewin; Mr. Stanley Morgan, City Road a Misses Jenkins, Jewin. Cyfeiliwyd yn ddeheuig gan Ap Caeralaw. < ? Cafwyd dadl frwd rhwng Cymdeithasau Hammersmith a Walham Green ar y testyn Pa un ai meddylwyr ynte gweithwyr sydd yn meddu ar fwyaf o ddylanwad ar gynydd y byd" y noson o'r blaen. Agorwyd y mater dros Hammersmith gan Mr Morgan, yr hwn a geisiai brofi mai "gweithwyr oedd a mwyaf o ddylanwad ar gynydd y byd"; a chaed sylwadau da iawn ganddo. Agorwyd ar ran it y meddylwyr" gan Miss Mary Jones, King's Road, a rhoddwyd papyr rhag- orol gan y foneddiges hon, hynod o ddysgedig a meistrolgar. Wedi hyn bu ymladdfa boeth ac wedi rhanu y ty, caed fod y meddylwyr wedi profi eu hunain yn fwy na choncwerwyr, yr hyn sydd i'w briodoli yn benaf i'r papyr agoriadol. Rhai peryglus yw y merched ym mhob cylch 1 • • # Noson oer, anifyr, oedd nos Wener yr wythnos ddiweddaf,nid rhyfedd felly na chaed cynulliadau mawrion yn y cyfarfodydd Cym- I reig. Yr oedd darlith Mr. Shankland yng Nghapel Moorfields yn haeddu llawer mwy o wrandawyr, a diau pan geir cyfle eto i'w glywed ar fater mor addysgiadol i bob han- esydd Cymreig, y daw torf i wrando arno. Yr un fath oedd hi gydag Ymgomwest y Cymru Fyddion, er eu bod hwy wedi trefnu i roddi cwpanaid o de er cynhesu ychydig o'r corff cvn myn'd at bynciau gwleidyddol y gymdeithas. < Yr oedd Mr William Jones, A.S., i fod yn llywydd yno ond oherwydd parhad ei an- hwyldeb methodd a dod, a darllenodd Mr Arthur Griffith lythyr oddiwrtho yn gofidio ei absenoldeb. Gwir flin oedd gan yr aelodau glywed nad oedd ei goes wedi gwella, a'u dymuniad unol oedd ar iddo gael adferiad buan. 0 Yn ei absenoldeb, cymerodd Mr. Howell J. Williams y gadair, a chaed araeth benigamp ganddo hefyd, ar genhadaeth y gymdeithas a hyny ddylid wneyd dros faterion Cymreig. Dilynwyd yntau gan y Parch Richard Rob- erts gyda phregeth arall, a chynheswyd gwladgarwch y bobl gan amryw o ganeuon swynol yn ystod yr hwyr. < Dydd Sul diweddaf, caed cwrdd arbenig yng Nghapel Dr Clifford ar ran cronfa'r chwarelwyr, a daeth llond y neuadd o edmyg- wyr gwyr y streic i'r He. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr Evan Griffiths, Chelsea, a thraddododd araeth benigamp ar yr achos oedd mewn dadl. Cefnogwyd ei eiriau gan Mr. Pickersgill a'r Dr. gwladgarol ei hunan, a mwy na'r oil dangoswyd cydymdeimlad syl- weddol a'r mediad drwy gasglu dros ddeu- ddeg punt i'w cynorthwyo. Hawyr, beth ddywedai'n harweinwyr Cymreig am roddi eu capel ar nawn Sul at achos dyngarol fel hwn Dydd lau, Tachwedd 27ain, unwyd mewn glan briodas, Mr. Evan Jones Jenkins, North Street, King's Cross, a Miss Mary Eleanor Jones, Caledonian Road, yng Nghapel Little Portland Street, W., gan y Parch. Enoch E. Jenkins, Bell Street. Derbyniodd y par ifanc nifer fawr o anrhegion gwerthfawr a defnydd- iol; a daeth Ilu ynghyd o gyfeillion y ddau i ddymuno yn dda iddynt ar yr amgylchiad hapus. 0 » » Rhyfedd mor syml a phur oedd pob peth ¡ ynglyn ag angladd y diweddar Ddr. Parker. Yn y gwasanaeth, ddydd lau, ni welid ond ochydig o arwyddion galar cyffredin ymysg y dyrfa. Yr oedd ei berthynasau wedi eu gwisgo megis pe wedi dod i'r addoliad ar- ferol heb ddim o'r crape a'r addurniadau ereill yna sydd raid eu cael pan fo gioir alar yn absenol. m • Mae Daily News Llundain" wedi dechreu ar waith mawr ynglyn a bywyd crefyddol y ddinas. Y Sul o'r blaen dechreuasant gyfri'r bobl sy'n mynychu y gwahanol addoldai yn y He, a rhoddir y ffigyrau am ardal Kensington yr wythnos hon. Dsngys y rhai'n mai rhyw un o bob deg o'r bobl sy'n myned i'r cwrdd ar y Sul, a hyny yn un o ardaloedd mwyaf bynheddig Y" y ddinas.
Y Dyfodol.
Y Dyfodol. ECW- Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn rhoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1902. ———— Rhagfyr „ 11. Sibley Grove, East Ham, Cyngherdd. „ 11. Cyfarfod Te Blynyddol Eglwys Hammer- smith. Darlith gan y Parch. T. Bynort Davies ar H Oliver Cromwell-" „ ll. Cymdeithas y Brytbonwyr, am 8. 18. City Road. Swper Goffii am 7. „ 25 (Nos Nadolig). "OartrefoddtCartrefys Jewin. „ 25. (Nos Nadolig), Cartref oddi Cartref ym Shirland Road. 1903 Ionawr. „ 2. Darlith gan y Proff. Ellis Eddwards, M.A., yn Charing Cross, ar Music in. Nature." „ 8. Cymdeithas y Brythonwyr am 8. Papyr gan Sarnicol. „ 9. Capel Moorfields, Commercial Street, Darlith gan Gwili." 15. (Nos Iau). Cyfarfod Te Blynyddol Capel Jewin. „ 21. Holborn Town Hall. Cyngherdd Cor Meibion Gwalia." „ 22. Cymdeithas y Brythonwyr, Cymreig- aeth mewn Gwleidyddiaeth," D. Lloyct- George, Ysw., A.S. „ 29. Capel Sussex Road, Holloway, CyfarfocI Cystadleuol y Plant. „ 17, 18, a 19. Jewin Newydd, Cyfarfodydd Pregethn Blynyddol. „ 29. City Road, Swper Goffi am 7. Chwef. 5. Cymdeithas y Brythonwyr am 8. „ 12. Eisteddfod Harecourt. 18. Eisteddfod Queen's Hall. „ 19. Cymdeithas y Brythonwyr am 8. 26. Shirland Road. Darlith gan y Parelt. P. H. Griffiths ar John Evans, Llwyn- fortun." Mawrth „ 5. Eisteddfod Morley Hall. „ 5. Cymdeithas y Brythonwyr am 8. „ 11. Falmouth Road. Eisteddfod y Plant. „ 19. Cymdeithas y Brythonwyr am 8. „ 26. Eisteddfod Flynyddol Shirland Road. „ 26. Cymdeithas Jewin, Cyfarfod Terfynol y Gymdeithas EbriU j, 2. Eisteddfod Gapel Sussex Road, Holloway „ 23. Cymanfa y Methodistiad yn Jewin. Newydd. Mai. ,„ 21. (Nos Iau y Dyrchafael). Eisteddfod Flynyddol Hammersmith yn y Town Hall, Hammersmith Broadway, W.
Advertising
GRELLIER & SON Welsh Printers, 211, GRAY'S INN ROAD, W-C 4 A. L'ftrge Staff always ready for all Classes of Work.