Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Bwrdd y g Geitm9

News
Cite
Share

Bwrdd y g Geitm9 Gyda gwedd wylaidd a cherddediad araf a distaw y gwnaeth y Gol. ei ymddangosiad o flaen y cwrdd 4iweddaf. Yr oedd prysurdeb y gwaith yn yr wyth- nosau cynt wedi ei yru allan o'i hwyl dipyn, a bu raid iddo gadw draw amryw o gyfeillion a'u gyru adref gyda'u pregethau yn eu llogellau, fel pob rhyw bregethwr mawr. Gwyddai yn dda beth yw teimlad siomedig, ac ofnai y tro hwn i godi gwg neb, ac wrth weled ei osgo edifeiriol, maddeuodd pawb iddo am a fu. Er mor llawen yw y cyrddau fel rheol, yr oedd ion a brudd-der ar y cynulliad y tro hwn. Yr oedd Cymry'r ddinas newydd golli dau wr mawr, un yn enwog am ei lwyddiant ynglyn a'r byd hwn a'r llall ynglyn a phethau y bywyd a ddaw. Yr oedd colli Mr. Tom Lloyd ar fyr rybudd yn ergyd trwm i lawer, a bydd ei le yn wag mewn ami i gynulliad Oymraeg. Am Hugh Price Hughes, dyn Lloegr oedd efe yn benaf. 'Roedd wedi enill y fath safle ymysg arwein- wyr crefyddol yr oes na syrth i ran ond ychydig iawn o blant dynion. Er hyny, ni adawodd y naill na'r llall unrhyw golofn ar eu hoi y gall yr oesau a ddel edrych ati a dyweyd, dyna waith bywyd Mr. Lloyd neu'r Parch. Hugh Price Hughes. Mae masnach y naill a neuadd y llall yn mynd ymlaen fel cynt, a chyn pen hir anghofiir rhagoriaethau y ddau. Ar ddechreu y cwrdd, canodd y Llinos emyn cyf- ,-a.ddas i'r amgylchiad fel a ganlyn CROESI'R GLYN. Tremio wnaf drwy niwl y bedd Dros yr afon, Gwelaf draw lanerchau hedd Mynydd Sion Af yn ddiogel gyda'm Ner Uwch y tonau, I fwynhau caniadau per Nef ororau. Gwena Haul Cyfiawnder pur Yno'n wastad, Ni chaiff poen daearol dir Leddfu'r cariad; Ffarwel mwy i ffordd y glyn Wele'r Wynfa, Can fy enaid yn ei wyn Gyda'r dyrfa. 'Willesden. LLINOS WYRE. Diolch i'r frawdoliaeth am eu cefnogaeth gynes i'r lien fardd Gwawll, a da oedd gweled y fftth dorf wedi dad ynghyd i Neuadd Drefol Holborn y noson o'r blaen. Diolch hefyd i'r boneddwr hygar a dyngarol, Timothy Davies, Ysw., am ei bresenoldeb a'i gefnog- aeth parod.

Advertising