Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y Dyfodoim

1 Y MESUR ADDYSG 0 SAFBWNT…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y MESUR ADDYSG 0 SAFBWNT EGLWYSIG. [GAN EGLWYSWR.] Nos Wener y 14eg, gwelwyd golygfa nas gwelir yn fynych yn y byd gwleidyddol. Cynhaliwyd dau gyfarfod un i wrthwynebu a'r Hall i gymeradwyo y Mesur Addysg sydd yn awr o flaen y Senedd. Yn y blaenaf, gwyddai pawb ym mlaenllaw beth gymerai Ie; con- demnid y Mesur yn ddi-drugaredd. Ond yn yr olaf, yr oedd pethau yn fwy cymysglyd. Gelwid y prophwydi ynghyd i fendithio, ond caed allan boreu dydd Sadwrn fod y ddau gyfarfod i ryw raddeu wedi condemnio y Mesur di-bwynt a di-egwyddor, hwn: di-bwynt am nad yw ei awdwr yn ymddangos ei fod yn gwybod ei gynwysiad; a di-egwyddor am nad yw yn ymaflyd yn wrol yn yr hyn a elwir yr "anhawsder crefyddol ynglyn ag addysg. Gan nad oes gofod i ni fanylu ar y mater hwn ac holi pa mor syl veddol y gall yr anhaws- der crefyddol fod, rhaid i mi gymeryd yn ganiataol ei fod yn bodoli. Yn y gwrthwyn- ebiad hwn i'r Mesur, cofier mai o gyfeiriad Eglwysig hollol yr ydys yn ysgrifenu. I. Yn 1870 dewisodd Eglwyswyr, y mwy- afrif o honynt, wneyd Mesur y Byrddau Ysgol yn fesur gelyniaethus i'r Eglwys. Yr ydym yn dal fod hyn yn gamsyniad ac yn gyfeil- iornad. Pan oedd tri dyn fel Mr. Gladstone, Mr. Foster a Mr. Mundella, mewn gofal o hono, nid oedd llawer o berygl i'r Eglwys yn debyg o ddeilliaw. Yr ydym yn dal nad oedd Mesur 1870 0 angenrheidrwydd yn erbyn buddianau goreu yr Eglwys, ac y gallasai fod wedi gwneyd defnydd mawr o'i lie a'i dylan- wad er hyrwyddo y Mesur er ei lies ei hun. Nid yw wedi gwneyd hyny. II. Cydnabyddirgan Eglwyswyr yn gyffredinol fod yr ymdrech i gadw yr ysgolion gwirfoddol er 1870 wedi bod yn galed iawn. Y mae yr ymdrech yma yn angenrheidiol er lies yr Eglwyswyr neu ynte y mae yn seiliedig ar gamsyniad. Yr ydym yn dyweyd yngwyneb y fantais aruthrol sydd gan ysgolion y Byrddau y dylid ystyried yn ddifrifol a yw yr ymdrech- ion yma yn hanfodol i lwyddiant a chynydd yr Eglwys, ac yn tueddu i ddyrchafu syniad y wlad am dani. Ar lawer ystyriaeth bwysig gellir ateb y gofyniad yn y nacaol. Y mae gweled ysgol waelach nag Ysgol y Bwrdd- cyflog liai yn cael ei roddi i'r athrawon a'r athrawesau, arwyddion prinder ac angen ar bob llaw-yn bethau nad ydynt yn tueddu i ddyrchafu y gyfundrefn y perthynant iddi yng ngolwg y plant. Eto, dyma rai o ffeithiau celyd tynged Ysgolion yr Eglwys" er 1870. Yn awr, er ein bod yn cyfaddef fod gwaith da yn cael ei wneyd gan y rhai hyn, a bod angen mawr am "benderfynu" pwnc mawr addysg elfenol yn ein gwlad, yr ydym o'r farn bendant nad yw y Mesur hwn yn cyfranu tuagat hyn o gwbl, hyd yn oed yn ei wisg fwyaf ffafriol i ni fel Eglwyswyr. Nid oes le i fanylu, ond ceisiwn nodi y prif ffaeleddau. a. Y mae yn parhau yn ei ffurf hyllaf y ddau ddosbarth o ysgolion—ysgolion y god sylweddus a'r rhai gwirfoddol. Pa fodd bynag" y mae gwneyd hyny, y mae yn hen bryd cael "unohaeth mewn addysg elfenol, ac i bob cyfundeb crefyddol ofalu am eu buddianatt sectol neu grefyddol eu hunain gyda golwg ar y plant. b. Y mae yn fwy anheg ac anghyfiawn tuagat offeiriaid yr Eglwys nag y beiddiai fod tuagat un dosbarth arall. Y maent wedi rhoddi eu "coel" ar y Llywodraeth Undebot ac wedi haner addoli Arglwydd Salisbury a Mr. Balfour. Y maent yn derbyn eu gwobr yn y Mesur hwn c. Y mae fel pob un o'i ragflaenwyr yn hanes y Weinyddiaeth bresenol-yn hanerog yn yr hyn y mae yn ei roddi, ar sail yr addewidion i Eglwyswyr o dro i dro er pan ddymchwelwyd y Weinyddiaeth Ryddfrydol; ac yn hanerog hefyd gyda golwg ar y Byrdd- au Ysgol: nid yw yn ddigon gwrol i amddiffyn y blaenaf i'r earn, a charai pe gallai ddileu yr olaf. Y mae yn brin ymhob ystyr. Nid oes na gallu y gwiadweinydd, nac egwyddor y cyfaill i'w ganfod ynddo.

HYN A'R LLALL.

Advertising