Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

News
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. A ydym ni yn Llundain yn rhoddi'r gefn- ogaeth a ddylem i lenyddiaeth G/mreig ? Y 0 gwyn gyffredin i'n herbyn yw mai llenydd- iaeth Seisnig yw ein hymffrost er mai ychydig a astudir yn wirioneddol ami, ac mai hynod sâl ydym yng ngwybodaeth am ein hawduron ein hunain. Dengys ein cymdeithasau llen- yddol nad gwir i gyd yw'r haeriad hwn, a gwelwn mewn nifer o ragleni am y tymhor fod pynciau llenyddol Cymreig yn cael He amlwg iawn, ac mai y testynau sydd a myn'd arnynt ydynt y rheiny sydd yn ymwneyd a rhyw agwedd arbenig o'n llenydiiaeth. Os mai dyma ein chwaeth yn y dyddiau hyn, mae'n eglur nad ydym ar ol i unrhyw ran o'r wlad yn ein cefnogaeth i gynyrchion y wasg Gymreig. Siarad am gyfrolau newyddion mae pawb llengar y dyddiau hyn, a rhaid addef fod y nifer a ddygir allan bob mis yn pirhau i liosogi. I b'le yr ant, sydd gwestiwn arall; ond y mae'n amlwg fod yna gryn brynu o hyd ar weithiau Cymreig. Yr un fath hefyd yng'lyn a hm lyfrau: mae mwy o alw am dan- ynt y blynyddau hyn nag a welwyd erioed o'r blaen, a'r canlyniad yw fod pob hen lyfr j Cymraeg yn codi yn ei bris fel yr heneiddia yn ei olwg-. Gwelwn fod cyfrol arall ar yr hen Oronwy Owen wedi ei chyhoeddi yng nghyfres ddyddorol Mr. O. M. Edwards o hen adar- graphiadau Cymreig, ac ni ddylai yr un lienor ieuanc esgusoli ei hun bellach rhag ymgydnabyddu a'r clasuron hylaw hyn. Nid oes dim a ellid drefnu yn well ar gyfer pobl ieuainc ein hysgolion a'r masnachdai na'r cyfrolau a ddygir allan gan y Cymro twym- galon o Rydychen, ac nid ydym yn deilwng o gydnabod ein hunain yn Gymry os byddwn bellach heb ddarllen y ceinion a drefnir yn achlysurol fel hyn i'n bwrdd. Y GENINEN. Rhaid galw sylw arbenig at rifyn olaf y cyhoeddiad chwarterol hwn. Dyma gwblhad yr ugeinfed gyfrol, ac y mae y golygydd a'r cyhoeddwyr i'w llongyfarch ar y gyfres ragorol y maent wedi ddwyn ger bron am yr ugain mlynedd diweddaf. Yn y rhifyn olaf hwn, ceir arlwy ragorol eto i'r neb a hoffa amrywiaeth ein lIen yddiaeth, ac mae rhai o'r ysgrifau yn hawlio darlleniad ac as- tudiaeth manwL Buasai ein bywyd bellach yn bur wag heb gael y chwarterolyn hwn i'r bwrdd yn ei dro, a hyderwn y gwna Cymry ieuainc y ddinas ymdrech arbenig i'w feddianu yn y flwyddyn newydd. Mae pobl enwocaf ein cenedl wedi addaw eu cefnogaeth iddo eto am y dyfodol, a thra ei cefnogir fel hyn gan ein llenorion blaenaf, ni ddylid anwybyddu ei safle na gwrthod iddo ein cefnogaeth. Swllt y rhifyn yw y pris, a chyhoeddir ef yn Swyddfa'r Geninen, Caernarfon." Anfoner am y manylion. THE CELTIC CHURCH. Tra y mae llawer o'n cydwladwyr yn anwybyddu ein hanes a'n Ilenyddiaeth, y mae'n galondid mawr i weled dysgedigion y Cyfandir yn treiddio i fewn i drysorau hynafol ein bywyd fel cenedl. Dyma gyfrol a ddengys fod ami un tuallan i gylch ein bywyd Cymreig yn hoffi clywed am danom, a bydd yn agoriad llygaid i lawer Die Sion Dafydd a'i darileno i ddeall fod y fath beth a gwir hanes i genedl y Cymry. Yn yr Ellmynaeg yr ysgrifenwyd y gyfrol gyntaf gan y Proffeswr Heinrich Zimner o Berlin, a chyfieithiad i'r Saesneg o hono yw y gyfrol sydd ger brcn. Y cyfieithydd yw Mr. A. Meyer, brawd i'r enwog Kuno Meyer, yr hwn sydd eisoes wedi ymgydnabyddu a goreuon ein llenyddiaeth. Dengys y gyfrol fechan hon 01 astudiaeth manwl a chryn lawer o ymgyd- nabyddiaeth a'r awdwyr Celtaidd goreu. Nid oes dim wedi ei anwybyddu ganddo, ac mae'r traethawd drwyddo yn ddarllenadwy iawn. Olrheinia hanes yr hen Eglwys Brydeinig o'r amser boreuaf. Rhydd yr hen draddodiadau 1 7 I am dani a'r cofnodion cyntaf am ei I bodolaeth yn ei ran gyntaf. Yn yr ail ran, I ceir cipdrem arni o'r burned hyd yr wythfed ganrif: ac yn v rhan olaf dilyna ei chyflwr o'r wythfed hyd derfyn y ddeunawfed ganrif. Byddai ymgydnabyddu a chynwys y gyfrol fechan hon yn help i ni sylweddoti mor gyf- oethog ydym fel cenedl mewn defnydd hanes. Nid yw'r oris ond 2s 6s, a chyhoeddir y gyf- rol gan Mr. Divid Nutt. HANES EGLWTS GLANDWR. GINClwydwanfro. Merthyr: Jossph Williams, pris 25 6: (llia'i). Carwr ei genedl yw'r neb a el ati i chwilio a chyhoeddi hen gofion plwyf neu eglwys. Y mae ffiniau plwyf ac Eglwys yn gyfyng-, ac felly nis gellir disgwyl fawr o wobr arianot, os yn wir y gellir clirio'r draul. Ond mie gwobr gwell na hyny, a chreiwn foi awdwr y llyfr hwn yn ei haeddu. Ceir yml olwg glir ar grefydd Cymru, o'i dadleuon duwinyddol a'i hymdrechioi cenhadol yn y ddeunawfed gan- rif hyd ddiwedd y ganrif ddiweddaf, a llawer darlun byw o hen gymer- iadau. Ceir yma hefvd gasgliad o emynau y Parch. W. Griffiths-Gyfieithydd deheuig yn ei ddydd, fel y prawf yr hyn a genir o'i waith eto,- Henffych i enw'r Iesu gwiw," &c. Iesu, Cyfaill pechaduriaid," &c. Dm Dy fendith wrth ymadael," &c. Cod, fy enaid, cais yn awr," &c. Er mai yrn March, swydd Caergrawnt, y mae Mr. James yn gweinidogaethu er's hir flyn- yddau, y mae yn ddiweddar wedi cyhoeddi mwy nag un chwedl Gymreig; a dyma eto rodd yr alltud i'w frodyr gartref. Gobeithio | y myn llawer ei chael heblaw pobl sir Benfro. I j ANGEL Y Nos A PHREGETHAU EREILL. Gan y Parch. T. Talwyn Phillips, B.D. Bala: H. Evans, pris 3s 6c. Nid yw Uenyddiaeth Cymru yn brin o gyf- rolau o bregethau nac ychwaith o gyfrolau o bregethau da. Ac yn ddi-os, yn y dosbarth olaf hwn y mae lie y gyfrol hon, Y mae yn j gyfrol i'r darllenydd cyffredin yn ogystal ag i bregethwr. Y mae yn newydd, yn iachus, yn effro o'r ddalen gyntaf i'r ddiweddaf. Y mae yma farddoniaeth gyda duwinyddiaeth: nid geiriau barddonol yn gymaint a drychfeddyl- iau y gwir fardd. Ac os yw'r dychymyg un- waith neu ddwy yn debyg i feirch Jehu, hawdd goddef hyny wrth fwynhau'r olwg ar yr yrfa. Meddylier am rai o'r pynciau, heblaw yr un a ddyry enw i'r gyfrol: I lesu Diolchgar,' Oddiwrth y Ffigysbren at Iesu,' Angau yn ol yr Efengyl,' Prinder Dynion Da,' Y Ser- aph a'r Orseddonid ydynt ynddynt eu hunain yn awgrymiadol o bethau da ? 0 flaen pob pregeth y mae detholiad o ddywed- iadau gloywon gan awdwyr ereill a'r gan- moliatth uchaf allwn nodi yw fod yn y bre- geth sydd yn canlyn ddywediadau yn fynych mor loywed a hwythau. Lie tawel yw y Bila a thybiwn mai gwein- idogaeth dawel sydd yn ardaloedd Llyn Fegid 1 Ond tra byddo meusydd tawel y weinidog- aeth yng Nghymru yn cynyrchu y fath gyn- hauaf a hwn, rhaid cerdded ymhell cyn gweled maes cyfoethocach. A theimlwn mai cam a'r argraffiad fyddai peidio dyweyd fod gwisg a ¡ gwedd y gyfrol yn deilwng o'i chynhwysiad. Ardderchog, yn ddi-os

SWYNOL FEDD Y BARDD.

Advertising