Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

6yd y law.

News
Cite
Share

6yd y law. Gan PEDR ALAW. [« PENDENNIS," LOUGHTON.] CERDDORIAETH A CHERDDORION CYMREIG. Fel y sylwasom yr wythnos ddiweddaf, ar y testyn dyddorol hwn bu Mr. David Jones, Com- mercial Road, yn darllen papyr y noson o'r blaen. Oherwydd prinder gofod yn ein rhifyn diweddaf, methasom a chyhoeddi sylwadau Mr. Jones yn llawn; gan hyny, wele'r gweddill:— "Ceir gyda ni fath o gerddoriaeth nas ceir gyda chenedloedd ereill, sef y math a genir i I Benillion,l a buasai 'Llewelyn' yn bresenol i ddangos ei allu diamheuol mewn canu Penillion, ond fod amgylchiadau yn anffafriol. Mewn canu digrifol nid yw ein cenedl wedi ymenwogi o gwbl; ond y mae ein hystor o alawon cenedlaethol yn gyfryw ag y gallwn ymfalchio ynddi." (Yma canodd Mr. Jones yr alaw, Yn uwch yr eled Cymru Wen,' a'r gwrandawyr yn ymuno yn y cydgan). Dywedai mai mewn cerddoriaeth gysegr- redig yr oeddym yn rhagori, ac y mae y math hwn wedi bod yn foddion o ras i ni filwaith. (Yma canwyd y don gynulleidfaol Burford,' Pursell, fel engraifft ragorol o don o'r math hwn). Y mae canu cynulleidfaol wedi gwella yn fawr yn y blynyddoedd diweddaf hyn. Cofiai Mr. Jones am yr adeg pan yr arferid cau neu agor y ffenestri a'r drysau yn ystod y canu.' Yn awr, caiff y canu well chwareu teg ond eto y mae lie i'w wella: rhaid wrth fwy o 4 ddarpariaeth' er gwneyd y gan mor at-dyn- iadol i fynychwyr y capel ag yw y comic opera i fynychwyr y chwareudy. Fel engraifft o'r don gynulleidfaol ar ei goreu, crybwyllai Mr. Jones 'Sandon.' Y mae canu tonau fel hon yn sicr o fod yn ddyrchafiad i chwaeth dyn, a chafwyd bias ar y dadganiad o honi yn y cyfarfod, Am y chant, gofidiau Mr. Jones nad oeddym yn ymwneyd mwy a'r math hwn. Credai na ddylem ei hanwybyddu oherwydd fod Eglwysi Rhufain a Lloegr yn ei ymarfer. Y mae y chant yn gyfrwng i addoli, ac, fel y cyfryw, dylai gael lie amlwg yng ngwasanaeth y jcysegr. Ystyriai Mr. Jones mai Tanymarian ydoedd y genius naturiol cerddorol mwyaf a anwyd i'r Cymry. Cyhoeddwyd ei oratorio Ystorm Tiberias' pan oedd yn Hencyn; ac y mae yn y gwaith hwn gydganau nad oes genym eu gwell yn awr. Yr hwn oedd yn ddyn mawr fel cerddor, fel arweinydd, fel darlithydd, fel pregethwr. (Canwyd un darn o'i waith gan Mrs. Nellie Jones, sef y gan Hen gadair freichiau fy mam'—can effeithiol iawn yn wir. Adnabu Mr. Jones gerddor pwysig arall— sef John Ambrose Lloyd; a llawer gwaith y treuliodd Mr. Lloyd Sul yn y Drefnewydd, ac y ceid ganddo i arwain y gan. Pan ymddang- osodd yr anfarwol Y Blodeuyn Olaf gyntaf byddent yn ei chanu yn y Drefnewydd bob nos Sul. Byddai un hen wreigan yn daer am y darn hwn-" glee neu beidio I derfynu'r cyfarfod hwn, danganwyd y bedwarawd glasurol, "God is a Spirit," gan Mrs. Williams, Mrs. Price, Mr. Bowen a Mr. Humphreys. Fel y gellir casglu oddiwrth y sylwadau uchod, yr oedd papyr Mr. Jones yn dderbyn- iol iawn, a threuliwyd noson ddifyr iawn yn Barrett's Grove-y waith gyntaf i ni fod yno, ni gredwn. CYNGHERDD CAPEL ROMFORD ROAD. Cynhal- iwyd hwn ncs lau, yr 2ofed cyfisol, ac yr oedd yn llwyddiant mawr. Yr unawdwyr oeddynt Miss Gwladys Roberts, Mr. Seth Hughes a Mr. David Evans. Mrs. Marion Williams yn cyfeilio. Am Mr. Seth Hughes, ni raid iddo wrth ganmoliaeth gwyr pawb fel y gall ganu ac yr oedd ar ei oreu y noson hon. Dyma'r tro cyntaf i ni glywed Miss Roberts, ac y mae yn canu mor dda fel y gallwn ei chymhell yn galonog i'r cyfryw sydd yn edrych allan am ddadgeiniaid newyddion da. Hoffem gael ychydig o'i hanes' Mr. David Evans hefyd sydd yn ganwr wedi ei fwriadu i'r alwedigaeth. Mr. Maengwyn Davies fu yn ei hyfforddi, ac y mae yn gredyd mawr i'w athraw. Dymunwn i'r baritone hwn bob llwyddiant. Deallwn ddarfod i Mr. Evans ddechreu ei yrfa gyda chor Mr. Richards, Pontycymer. Pryd hyny canai denor. Ni chafodd lawer o lwyddiant fel cystadleuydd pan yn denor; ond wedi dod i'r maes cystadleuol fel baritone, enillodd lawer o wobrwyon. Mewn Eisteddfod bwysig yn Barry Dock, yr oedd yn ail allan o 40. Yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr, 1901, efe enillodd y wobr am ganu unawd i faritone, yr hyn sydd ddigon o brawf o'i allu a'i deilyngdod. Dechreuodd enill ei fara drwy weithio mewn pwll glo, ond credwn na raid iddo droi at y gorchwyl hwnw byth mwyach: y mae cloddio am seiniau melus yn waith mwy aruchel a mwy enillgar. Wedi'r cyfan, ni cheir o wres y glo ond cynhesrwydd i'r corph, tra y rhydd gwres y nodau a genir londer i enaid dyd! Yn y cyngherdd hwn yr oedd tair cystad- leuaeth. Yr enillwyr oeddynt: Tenor, Mr. Dan Davies, Barnsbury soprano, Miss Jennie Lewis, Stratford; baritone, Mr. John Evans, Jewin. Cafwyd hefyd ddau unawd ar y crwth gan Mr. Rudling. Y cadeirydd ydoedd D. W. Morgans, Ysw., a'r ysgrifenydd Mr. W. Morgans, Ilford-i'r hwn yr ydym yn ddyledus am wledd gerdd- orol dda.

CYNGHERDD " CWCWLL."

Advertising