Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

al CYMRY LLUNDAIN I'D MESUR…

News
Cite
Share

g-lwydd wedi grosod y gelyn yn ei ddwylaw. Dyna ein cyflwr ninau heddyw. Y mae'r "Toriaid wedi dod allan i'r maes agored yn y Mesur hwn, a hawdd y gallwn ninau waeddi, M Yr Arglwydd a'u rhoddes yn ein dwylaw." Cefnogwyd y penderfyniad gan MR. ASQUITH. ei Pan ofvnodd Mr. William Jones i mi, pwy ddydd, i ddod i'ch anerch," meddai. Dy- wedais nad oeddwn Gymro ond mynai Mr. Jones fod cysylltiad arbenig rhyngwyf a'ch gwlad oddiar pan y bu'm yn ceisio gwneyd rhywbeth yn y Senedd; a gobeithio y parheir y cysylltiad hwnw eto yn y dyfodol agos (cym.). Yr oedd yn dda ganddo weled y fath g-ynulliad o Gymry yn cydgwrdd, ond pa ryf- edd! Nid yn unig yr oedd eu cariad at felodedd cerddorol eu halawon, eithr hefyd at ryddid ac iawnder. Gwn, er mor wael y gweithreda y Mesur arnom ni yn Lloegr, y bydd yn llawer mwy anghyfiawn arnoch chwi Gymry ac oherwydd hyny yr oedd yn sicr o dderbyn gwrth-dystiad cadarnach oddiwrtbym ni na neb. Rheswm arall dros ei ddyfod yno oedd nas gall neb anwybyddu y ddyled oedd- ent, fel plaid, ynddi i'r aelodau Cymreig am eu gwaith rhagorol yn gwrthwynebu y Mesur. Y maent wedi dangos y fath wybodaeth yng nglyn a phob agwedd o'r pwnc sydd yn tiawlio y warogaeth uchaf. Hoffai gyfeirio at ddau beth ynglyn a'r Mesur a hawliai eu condemniad. Yr wythnos hono, fel y gwyddid, ataliwyd dadleuaeth arno yn y Senedd; a rhaid iddynt hwy bellach apelio at y wasg a'r wlad am eu cefnogaeth. Pe baent wedi siarad yn anghyfreithlawn arno, ni fuasai achos cwyno, ond dywedai Mr. Balfour ei hun fod pob adran wedi cael dadleuaeth deg a llesol. Yr oedd haner cyntaf o'r Mesur eisoes wedi ei newid gymaint fel nas gellir ei adnabod 'bron; ond y maent yn awr yn myn'd i wthio yr ail baner drwodd yn ei hagrwch fel y mae. Os parheir y fath gynllun yn y Senedd, nid yw rhyddid y bobl yn ddiogel." Ar ol araeth feistrolgar Mr. Asquith, cod- odd yr aelod poblogaidd dros Gaernafon, MR. LLOYD-GEORGE; a chafodd groesaw di-ail gan ei gydwladwyr edmygoi, Dywedai eu bod wedi ceisio gwella y Mesur a'u bod wedi llwyddo ryw ychydig. Ceisiasant hefyd i adael Cymru allan o hono, ond ni fynai Uoegr hyny. Yr oedd y Llyw- odraeth fel pe wedi credu mai haid o anwar- iaid oeddem ag eisieu ein dysgu allan o'n cyflwr truenus. Credent ein bod ar ol rhoddi ein ffydd yn ol i Harri'r Wythfed ac ereill o Seintiau Lloegr ein bod wedi syrthio yn ol i Dderwyddiaeth gan addoli duwiau fel Daniel Rowlawlands, Howell Harris ac Alfred Thomas (chwerthin mawr), a'u bod yn aberthu personau yn ein huchelwyliau- megis y Sassiwn neu'r gymanfa-ac mai curadiaid o'ent ein hoffrymau os caem o hyd iddynt (chwerthin). Yr oedd ganddo ef rhyw bum' rheswm paham y dylid gwrthod y Mesur, a rhoddai y pum' pwnc hyny iddynt. Yn un peth, yr oedd ysgolion y cyhoedd yn dysgu daliadau y sect a'u perchenogent. Yr ydym yn protestio yn groyw yn erbyn hyn. Dylai ysgolion a gynhelir ag arian y cyhoedd fod yn rhydd i bawb heb unrhyw lyffetheiriau sectol. Nid yn unig rhoddir arian iddynt i gynhal yr ysgolion, eithr rhoddir cynorthwy iddynt hefyd i ddodrefnu y lleoedd hyn. Peth arall, dylai gweision y cyhoedd, gael eu pen- odi gan y cyhoedd. Yn yr ysgolion hyn, nid y dyn goreu ga'i ei ethol. 'Roedd yn rhaid iddynt, fel rheol, fod yn gerddorion gwych ac yn fath o Padrewsky Ileol [Rhoddodd Mr. George ddarluniad hapus o ddewisiad yr offerynwr yn hytrach na'r ysgolfeistr.] Yn ychwanegol at yr ysgolion yr oeddem yn gwaddoli y colegau ymarferol. Ychydig oedd y gefnogaeth a ga'i y rhai'n gan Eglwyswyr, eithr caent y rhan fwyaf o'u harian oddiwrth y Llywodraeth. Er hyn oil, nid oedd dim Ilais gan neb o'r tuallan yn eu rheolaeth. Fe ellir dan y Mesur presenol hyd yn oed wadd- oli curadiaid. Yr oedd meddwl am waddoli organvdd yn ddigon gwael, ond rhaid i ni'n wir dynu'r llinell gyda'r ciwrat (chwerthin). Nid grawn yr efengyl a geid gan y rhai'n eithr eisin sil yr esgobion Gyna'u cynffon- iaeth i fawrion a chyfoeth, y mae'r offeiriaid eisoes wedi gwneyd y Creawdwr yn fath o Denant esgymunedig yn ein tir. Pa hyd y goddefir y fath drais Ar derfyn ei araeth alluog" cafodd Mr. George fanlief o gymeradwyaeth, a bu raid aros am ychydig fynudau cyn y gellid galw am y nesaf, sef MR. ELLIS J. GRIFFITH, A.S. Ar ol y fath areithiau, nid oedd disgwyl ar ddim, meddai, oddiwrtho. Gofynai o ble y cafodd y Llywodraeth awdurdod i ddwyn y fath Fesur i fewn. Credai mai oddiwrth rai o'r esgobion yn unig. Ni ddylai ysgolion y cyhoedd fod ym meddiant neb, a dylid cyn y diwedd eu prynu oil yn eiddo y wlad. Pan ddaw tro'r Rhyddfrydwyr i fod mewn awdur- dod, gobeithiai y gosodid y cam hwn i lawr ac y caiff addysg Cymru, beth bynag, nid ei rheoli gan sect, eithr yn unol a gofynion goreu y wladwriaeth. MR. McKENNA, A.S., a ddywedai ein bod wedi cael brwydr galed, ond gwell oedd ganddo ymladd a cholli na chilio o'r gad yn waradwyddus. Beth am yr 80 hyny a ddeisebasant Balfour ac a lwfrasant yn y diwedd ? Onid ofni myn'd o flaen eu hetholwyr oeddent ? Y mae y Mesur hwn yn anheg iawn, ac fe wnaf fy ngoreu tra fo anadl ynof i'w wneyd yn ddirym. Diweddwyd gydag araeth danllyd gan y Parch. J. M. Gibbon, Stamford Hill, a phan roddwyd y penderfyniad i'r cyfarfod, pasiwyd ef ynunfrydol, ac ar gynygiad y Parch J Mach- reth Rees ac eiliad Mr. J. T. Lewis, Chancery Lane, pasiwyd pleidlais unol o ddiolchgarwch i Syr Alfred Thomas ac ereill am eu presen- oldeb. Diweddwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau," Mr. David Evans yn arwain yr alaw.