Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

al CYMRY LLUNDAIN I'D MESUR…

News
Cite
Share

al CYMRY LLUNDAIN I'D MESUR ADDYSG. CYFARFOD MAWR YN ST. JAMES'S HALL. AREITHIAU GAN MRI. ASQUITH, D. LLOYD-GEORGE AC EREILL, PROTEST UNOL A CHADARN. Cyfarfod i'w hir gofio oedd y cynulliad mawr a gaed yn Neuadd Sant lago nos Wener yr wythnes ddiweddaf. Ni fu, er's blynyddau lawer, y fath nifer o Gymry Rhyddfrydol ynghyd, ac ni chaed erioed fwy o frwdfryd- edd cenedlaethol nag a gaed y tro hwn. Yr oeddent wedi dod o bob cwr o'r ddinas er dangos eu hochr, ac ymhell cyn amser dech- reu yr oedd y neuadd eang wedi ei gorlanw gan wrandawyr astud a chynulleidfa barchus a hawliai edmygedd y neb bynag a'i gwelai. Nid rhyw haid o las-Ianciau gwleidyddol a chywrain oedd yma, eithr Ilond y lie o ddinas- wyr parchus a phersonau cyfrifol yng ngwa- hanol alwedigaethau masnachol prif ddinas y byd, Pan gymerwyd awgrym y CELT dro yn ol i wneyd protest unol yn erbyn y Mesur anghyfiawn sydd o flaen y Senedd ar hyn o bryd, gwelwyd ar unwaith mai nid lie bychan oedd raid gael, eithr mai ychydig oedd nifer y neuaddau cyfaddas at yr amgylchiad. Ond lei ben drefnydd medrus, ac fel un a wyr yn iawn beth yw teimlad Cymry Llundain, anturiodd Mr. Arthur Griffith a'i gyd-swyddogion ynglyn a Chymdeithas Cymru Fydd, i sicrhau Neuadd St. Iago, er y costiai dros ddeugain punt am y noson. Gwyddent yn dda y cawsent gefn- ogaeth unol at yr achos; a phrofodd y cwrdd yn eglur fod ein pobl yn gwbl fyw i'w heg- wyddorion ac yn teimlo yn eithafol ar y cwestiwn presenol. Yr oedd mil o docynau swllt wedi eu gwerthu yn gynar, a gallesid yn hawdd werthu rhagor pe bae angen am hyny, oherwydd 'does neb yn fwy parod na'r Cymro i gefnogi mudiadau Cymreig, a gwyr yn dda bellach yr anfantais o fod heb neuadd Gym- reig ganolog, a'r draul enfawr ynglyn a cyn- ulliadau gwleidyddol o'r tuallan i neuaddau bychain ein capelau. Trefnwyd y cwrdd gan Gymdeithas Cymru Fydd a chydweithrediad unol a chalonog y gwahanol enwadau Ymneullduol. Gweithias- ant oil yn ddiguro, a gwobrwywyd eu llafur a'u hanturiaeth drwy weled un o'r cynulliadau Cymreig goreu a gaed yn ein mysg ac os parha ein pobl i fagu yr undeb a'r ysbryd cenedlaethol hwn, fe fydd Cymry Llundain yn fuan iawn yn allu y rhaid gwneyd sylw o hono yn ein mudiadau dinesig mawr. Yn fuan wedi chwech o'r gloch, dechreu- odd y bobl gynull o gylch y drysau, ac o'r tu fewn daeth torf o swyddogion parod o dan reolaeth Mri. D. R. Hughes ac Arthur Griffith, yr ysgrifenyddion, a threfnwyd pob peth i foddlonrwydd erbyn agor y drysau am saith. Mor gynted ag y gwnaed hyn, wele'r torfeydd yn dylifo i fewn, fel erbyn chwarter i wyth, yr oedd y miloedd seddau o'r bron wedi eu llanw. Ni chaed erioed gyfarfod mwy gweddaidd, a'r teimlad cyffredinol oedd, fod pwysigrwydd yr achos yn hawlio y difrif- oldeb a'r pendantrwydd oedd weddus o'u cymharu a'r canlyniadau dinystriol pe mab- wysiedir y Bil yn ei ddull presenol. Er dyddori y dorf liosog ar y dechreu, caed detholiad rhagorol o alawon Cymreig ar yr organ mawr o dan law gelfydd Mr Merlin Morgan, a'r unig beth a deimlem yn fyr oedd na fuasai rhai o hen ganeuon gwrolfrydig a cheredJgarol y C) mry wedi tu dethcl i'r gynulleidfa eu canu. Buasai hyny yn ysbryd- iaerh o'r newydd iddynt, yn sicr. Pan ddaeth adeg dechreu y cwrdd, wele'r siaradwyr yn esgyn y llwyfan, lie yr oedd eisoes amryw ganoedd o wahoddedigion yn eistedd, a chymerwyd y gadair gan SYR ALFRED THOMAS, A.S., cadeirydd y blaid Gymreig yn Nhy'r Cy- ffredin, a rhoddwyd iddo ef a'i ganlynwyr y derbyniad mwyaf calonog oedd bosibl, Gyda Syr Alfred yr oedd Mr. Asquith y seneddwr poblogaidd; Mr. D. Lloyd-George, Dafydd ddewr yr Israeliaid Cymreig; Mr. Ellis J. Griffith, blaenor y gad ym Mon; a Mr. R. McKenna yr arweinydd deth, ac i gynrychioli Ymneullduaeth pwy oedd yn well na'r Parch. J. Morgan Gibbon o Stamford Hill, y Cymro ieuanc a ystyrir heddyw fel un o'r tri blaenaf ym mhwlpud Prydain ? ac i'r cewri hyn yr ydym ddyledus am areithiau na chaed eu gwell eto mewn unrhyw gyfarfod ynglyn a'r Mesur Addysg. Afraid yw ceisio enwi yr arweinwyr ereill a welsom yno, oherwydd cynrychiolid pob dos- barth bron. Ymysgy gweinidog gwelsom y Parchn. Elfet Lewis, Eynon Davies, Evan Thomas, Richard Roberts, Dr. Gomer Lewis, Wilson Roberts, J. Lloyd Jones, Machreth Rees, Tudno Williams, F. Knoyle, D. Oliver, y Cynghorwyr Sirol Mr. Timothy Davies a Mr. Howell J. Williams, a'r Mri. W. Llewelyn Williams, J. Hinds, Edward Jenkins, Evan Griffiths, Vincent Evans, J. T. Lewis, &c. Dechreuwyd y gwaith drwy i Mr. D. R. Hughes ddarllen amryw lythyrau oddiwrth arweinwyr y gadgyrch yn erbyn y Mesur yn gofidio am eu habsenoldeb. Wele rai o honynt yn yr iaith eu hysgrifenwyd :— MB. H. CAMPBELL-BANNERMAN o Dy'r Cyffredin a ysgrifenai, I feel sure your Welsh demonstration against the Education Bill will be an overwhelming success, and I regret I cannot be there to witness it." SYR WILLIAM V. HARCOURT. "It is with much regret that I find myself unable personally to attend the Welsh demonstration on the 14th. I am sure that you and my Welsh friends are aware of how certainly I am with them in their efforts to resist this unwise and unjust Bill which violates all the principles on which a measure for National Educa- tion should be founded." ARGLWYDD ABERDARE. I regret that I shall not be in town on Friday— or I would have attended your meeting with pleasure." ARGLWYDD HENDEL cyn-arweinydd y blaid Gym- reig. Public appearances have ended for me, but my grateful devotion to Welsh causes cannot end. This Bill is as uncalled for in Wales as it is unjust and dangerous. Nowhere are the interests of re- ligion and education in safer keeping with the people: and, but for the Anglican Establishment, on better terms with one another. The present league of Lambeth with the Vatican is not only for the general promotion of clerical ascendancy, but for the special rivetting upon Wales of the loosened claims of Anglican supremacy. It is the Tory retort to Welsh Disestablishment. No wonder Welshmen have been foremost in the fight and have lifted the Parliamentary and Party influence of Wales to a height worthy of Welsh genius. I see now the Welsh David with sling in hand and I foresee the ultimate downfall of Goliath. The Welshman also who does not throw heart and soul into the struggle I cannot but regard as disloyal to both his race and religion." DR. JOHN CLIFFORD, Westbourne Park. "I re- joice in your gathering and heartily wish I could be with you. Yours will be a great rally of patriots against a Bill which is 'the sum of all injusties.' If Welshmen were to hold their peace at a crisis like this, the stones would cry out. The fight is for our liberties, for our children and for our country. And our battle cries are:- (1) Citizens must control the money citizens provide. (2) No priest in politics least of all in State- Education. (3) No theological or ecclesiastical tests for teach- ers, but an open way for capacity and character to the service of the State in the teaching pro- fession. (4) A system of National Education, universal, un- sectarian efficient and sufficient. With these aims let us march on as those who are sure of ultimate victory." MR. WILLIAM JONES, A.S., a ysgrifenai at Syr Alfred Thomas i egluro ei anallu i fod yn bresenol, a dywedai, Will you please tell our fellow-countrymen how infinitely sorry I am at being strictly forbidden to attend this evening's meeting and join in their great Demonstration. Although temporarily dis- abled in body, I am wholly with you in heart, mind, and spirit, to protest as Welshman who have dis- played so much zeal and sacrifice for education have a right to protest, against the reactionary provisions of the Government Bill; and to resolve that we will not rest till we secure a National System of Educa- tion free from all sectarian tests and under absolute public control." Y PRIFATHRAW JOHN RHYS, Rhydychen, Caraswn yn fawr fod yn y cyfarfod nos Wener, ond nid tebyg y gallaf. Dechreuais gael anwyd trwm yng nghyng- herdd merched y chwarelwyr yma nos Fercher o'r blaen, ac nid wyf eto wedi ei orfod o lawer. Gobeithic' y bydd i'r hyawdledd yr ydych i'w fwynhau brofi yn foddion i gael gwelliantau eto yn y Mesur Addysg, ond peidiwch gwneyd dim i gynorthwyo'r Defodwyx i gael eu ffordd eu hunain, a darbwyllo'r Llywodraeth i daflu'r Mesur dros y bwrdd. Hwyrach mai gwell ganddynt hyny pan welont na chant bobpeth fel yr ewylliasant." PARCH. HUGH PRICE HUGHES hefyd, a ddatganaei ofid nas gallai fod yn bresenol, oherwydd ymrwym- iad arall. Rhoddwyd derbyniad cynes i ddatganiadau y llythyrau hyn, ac ar ol eu darllen cododd SYR ALFRED THOMAS i anerch y cyfarfod, Dywedai fod yn dda ganddo fod y fath gyn- ulliad wedi dod ynghyd ac fod y cwrdd yn ei adgofio am gynulliad gwleidyddol arall a gaed flynyddau yn ol pan gyhoeddodd John Morley y dywediad hir-gofiadwy hwnw, "mend it or end it," a dyna oedd eu teimlad hwythau y noson hon ar y Mesur hwn; ac er fod Mr. Lloyd-George ac ereill wedi gwneyd llawer er gwella y Mesur eisoes, eto gwell fuasai ganddynt pe gellid ei ddifodi yn llwyr. Yr oedd yn lion ganddo weled fod y Mesur eisoes wedi dangos pwy yw'r ymladdwyr yn y Ty, a theimlai yn falch am y rhan ardderchogi oedd yr aelodau Cymreig wedi gymeryd yn yr ornest. Yr oedd Mr. Lloyd-George eisoes wedi gwneyd enw iddo ei hun oedd yn hynod hyd yn oed yn hanes y Senedd (cym). Y PARCH. RICHARD ROBERTS, Willesden. Green, a gynygiodd y penderfyniad a ganlyrr-i yn Saesneg That this meeting of London Welshmen and Welshwomen protests against the Government Education Bill which abolishes School Boards, throws on the publio the en- tire cost of maintenance of the sectarian schools without placing them under public control, and legalises the imposition of theological tests on the appointment of teachers that this meeting further protests against the prevention by wholesale closure of legitimate and necessary debate on the Bill in the House of Commons and declares its firm support of a national system of efficient free and unsectarian education." A dywedai ein bod yn gwrth-dystio am dri: rheswm, Ynghyntaf am ei fod yn lladd yr Ysgolion Byrddol, y rhai oedd wedi gweithic mor rhagorol yn y blynyddoedd a aeth heibio, Hefyd yr oedd ynddo egwyddor a ddangosai ein bod am droi awrlais rhyddid yn ol. Beth oedd yn cyfrif am hyn nis gwyddai, ond 'roedd yn eglur fod y Weinyddiaeth wedi colli eu > penau. Nid rhyfedd hyny, chwaith, oher- wydd fe gollodd Siarl I ei ben ei hun wrth geisio gwneyd yr un peth mewn egwyddor. Peth arall, y mae dros wyth mil o blwyfi heddyw y bydd raid i bob plentyn werthu ei enedigaeth fraint am phiolaid o gawl Eglwys- yddol os am enill ei fywioliaeth yn yr ysgol- ion. Yr ydym yn protestio hefyd am eu bod yn defnyddio arian y cyhoedd i waddoli eiddo yr Eglwys; ac os na wna y Llywodraeth wrando ar ein cais, bydd yn well genyf ddioddef eithafion y gyfraith cyn byth y byddaf yn anffyddlon i fy Nuw. MR. W. LLEWELYN WILLIAMS, M.A., a eil-- iodd. a llongyfarchai y Weinyddiaeth am y Mesur. Yr oeddem wedi bod yn yr aniai yn rhy hir, ond bellach yr oedd pethau wedi newid. Bu raid i ni fod yn ddistaw iawn hefy<i; er's tro, ac ni feiddiai y dewraf o honom ond hyd yn oed sisial enw Mr Gladstone. Gelwid y Mesur yn Fesur Addysg, oedd, ac yr oedd y wlad wedi cael y fath addysg drwyddo yn fwy effeithiol nas dysgwyd hi erioed o'r blaen, Yr oedd yrymgyrch hwn fel yr eiddo Cromwell yn Dunbar. Bu raid i'r hen wron hwnw aros yn hir cyn i'r gelynion ddod allan o'u hym- guddfanau; ond ar ol iddynt ddod un diwrnod wele'r hen Biwritan yn gwaeddi fod yr Ar--