Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

HUGH PRICE HUGHES WEDI MARW.

[No title]

News
Cite
Share

Anafodd Mr. W. Jones, A.S., ben ei lin beth amser yn ol, ac nid yw eto yn abl i ddilyn ei ddyledswyddau Seneddol. Dyma a'i rhwystrodd i ddod i gwrdd protest y Cymry Fyddion yn Neuadd St. lago y noson o'r blaen. Gobeithio y daw iddo wellhad buan yw dymuniad ei liaws cyfeillion edmygol. Ychydig ddyddiau yn ol cyhoeddwyd ad- argraffiad o "Ddrych y Prif Oesoedd dan nawdd Urdd y Graddolion Cymreig ac o dan olygiaeth Mr S J Evans, M.A. Pris argraff- iad y bobl yw 4s 6c, ac yn wir y mae'n gyfrol hardd a rhad iawn. Ceir adolygiad ar y gwaith yn un o'n rhifynau dyfodol gan ddysg- awdwr o fri, a dylai'n darllenwyr brynu y gyfrol rhaglaen gan ei bod mor rhagorol. O'r diwedd mae'r gauaf wedi dod, a chaed profiad o oerfel yr hin yn Llundain yr wyth- nos hon. Gwnaed cais gan ryw Anarchiad yr wyth- nos ddiweddaf i ladd Brenin Belgium, ond ni lwyddodd yr adyn yn ei waith. Mae y gwr yn awr mewn dalfa, a diau y caiff ei haedd- iant. Myned ar gynydd mae Eglwys Rydd y Cymry, a'r wythnos ddiweddaf rhoed careg sylfaen i gapel newydd a fwriedir adeiladu yn Birkenhead. Yn sicr mae'r Parch W 0 Jones yn ymladdwr diail, ac er ei fod wedi ei es- gymuno o blith yr Hen Gorffl nid yw yn bwr- iadu rhoddi'r goreu i bregethu.

Bwrdd yf Celt. P