Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

A8C Bgd y Bill.!

News
Cite
Share

A 8 C Bgd y Bill. Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] CERDDORIAETH A CHEDDORION CYMREIG. Ar y testyn dyddorol hwn, bu Mr. David Jones, Commercial Road-yr hwn a adweinir fel arweinydd cor Barrett's Grove-yn darllen papyr nos Iau cyn y diweddaf. o flaen Cym- deithas Lenyddol Capel y "Gohebydd." Yr oedd y cynulliad yn un da iawn, yr hyn a brawf fod y cyfaill Mr. Jones yn boblogaidd yn Barrett's Grove. Yr oedd ganddo destyn dyddorol, ac, fel y gwelir, eang iawn ydoedd y maes. Oherwydd hyn, nid oedd yn bosibl manylu rhyw lawer ar y gwabanol fathau o gerddoriaeth ac ar hanes y cerddorion Cymreig. Dywedai Tanymarian-meddai Mr Jones— fod gan bawb hobbi ond yr un fwyaf ar- uchel ydoedd yr hobbi gyda'r gan. Credai mai Tanymarian roddodd ynddo flas at y gan, canys byddai yn ymweled a'r bobl lle'r oedd Mr Jones yn aros yn fachgen, a mynych iawn y caffai gyfle i wrandaw ar ganu swynol y gwr mawr. Y mae cerddoriaeth o gymorth mawr i'r gwasaeth crefyddol: ac felly i'w gwerthfawr- ogi. Gwneir y raddfa gerddorol i fyny o wyth nodyn-dim ond hyny !—ac eto, yn llaw'r cyfansoddwr, y mae yn gyfrwng i osod allan ystyr barddoniaeth! Y mae gwahanol fathau o gerddoriaeth -ac y mae meddwl yn yr oil. Y mae anian yn llawn o fiwsig; ond dyn all wneyd mwyaf o ddefnydd o'r gan, am mai ganddo ef y mae y gallu i'w sylweddoli yn iawn. Ceir fod cerddoriaeth yn fynych yn cael lie yn hanes digwyddiau pwysig y byd. Sonir fod ser y boreu yn cyd-ganu cyn bod dyn a thrwy y Beibl, yn enwedig yn y Psalmau, ceir cymhellion lluosog i ganu. Clywyd Angylion yn canu adeg genedigaeth lesu Grist; a chanu sydd, ac a geir, yn y nefoedd. Y mae cerddoriaeth yn meddu dylanwad mawr arnom fel cenedl, yn enwedig ynglyn a'r Gymanfa Ganu a'r Eisteddfod a pheth da yw hyn. Ymlonai Esgob Llanelwy yn ddiweddar wrth feddwl ei fod yn perthyn i genedl gerddgarol. Yr oedd newydd ddych- welyd o'r Ysbaen, He yr oedd y bobl yn ym- ddifyru mewn bull fights" -hobbi dra gwa- hanol, a llai gwareiddiedig o lawer, i'r eiddo cenedl y Cymry! Gofod a balla i ni roddi sylwadau Mr Jones yn llawn yr wythnos hon. GWYL GERDDOROL GYMREIG. Dymunir ar i'r pwyllgor cyffredinol gyfar- fod yn King's Cross nos Fawrth nesaf, fel arfer, am 8.30 o'r gloch.

[No title]

---------------IPRYDNAWN YN…

[No title]

Advertising