Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Oei&esifei'r Ddinas.

News
Cite
Share

Oei&esifei'r Ddinas. Y prif gynulliad Cymreig am yr wythnos ddyfodol fydd cyngherdd Eglwys Dewi Sant, 0 yr hwn a gynhelir nos Iau nesaf yn y Queen's Hall. < < Deallwn fod y tocynau wedi gwerthu yn dda eisoes, ac er mwyn sicrhau lleoedd man- teisiol, dylid anfon ar unwaith at yr ysgrifen- ydd cyn y gwerthir yr oil allan. Caed cynulliadau mawrion yng nghyfarfod- ydd blynyddol Charing Cross yn ystod y Sul diweddaf, a phregethau grymus gan y ddau ddiwygiwr oeddent wedi dod yno o Gymru. Mae'r Parch. H. Elfet Lewis ar fin cy- hoeddi cyfrol o emynau a darnau cysegredig ereill o dan y teitl Telyn y Cristion." Bydd allan cyn y Nadolig. Araeth odidog a draddodwyd gan y Parch. Richard Roberts, Willesden Green, yng nghyfarfod y protestio yn St. James's Hall. Mawr ganmolid hi gan Mr. Asquith a Mr. Lloyd George. Xt <t Bu Dr. Gomer Lewis, Abertawe, ar ym- weliad a'r ddinas yr wythnos ddiweddaf, a chaed darlith ganddo yn Castle Street nos lau cyn iy diweddaf ar u Ogoniant amryw- iaeth." Mae y ddarlith y tuhwnt i ddesgrif- iad, ac yn boblogaidd iawn. Pan geir derlith u boblogaidd gan y Dr., nid oes derfyn ami. Dyna hanes ei Ffair y byd." Mae wedi traethu hono tua mil o weithiau, a bob tro yn wahanol. Dyna ogoniant amrywiaeth i chwi! < Yr oedd y Dr. yng nghymanfa flynyddol awdurdodau y gwarcheidwaid yma, ac y mae yn boblogaidd iawn gan ei gyd-gynrychiol- wyr o bob rhan o'r deyrnas. Codai yn ystod y gynhadledd i siarad ar ryw welliant, a dywedai Nid wyf yn myn'd i siarad yn hir, ond pe bae angen, cofiwch, fe all Gomer Lewis wneyd hyny cyn hwyed a neb o honoch hefyd Mae Mr. Alfred Davies, A.S., wedi enill enw bydenwog fel un i ddyddori Ty'r Cy- ffredin a'i holiadau doniol a phlentynaidd, ond pan aeth i siarad yn ddifrifol ar bwnc yr wythnos ddiweddaf, chwarddodd pawb ar ei ben' Rhaid i Alfred roddi'r goreu i'r difrifol ar ol hyn, a cheisio llanw yr un cymeriad yn llawn. » < Cwrdd Cymreig ddylasai cwrdd protest St. James's Hall fod. Y mae digon o gyfar- fodydd Seisnig wedi eu cynhal ar y mater, a'r hyn a ddisgwyliem i Gymry wneyd oedd gwrthdystio o safbwynt y Cymro. Dargos pa le yr oedd yn ein taro ni drymaf. Ni wnaed hyn o gwbl, ac o ran dim yn y cwrdd gwnaethai yr un tro i gynulliad o Saeson. Dylai Cymru Fydd osgoi y Seisnigaeth yma. Dyna sydd wedi bod yn rhwystr iddi hyd yn awr. < <t < Ychydig amser yn ol cafodd Mr W Llew- elyn Williams o hyd i hen lythyr Cymraeg yn llyfrgell Arglwydd Salisbury yn Hatfield. Ysgrifenwyd ef gan un Dr. Morus, Clynock, yn 1567, at Syr William Cecil—Ysgrifenydd Cartrefol i Bess y Frenhines. Mae'r llythyr o werth hanesyddol, ac argreffir ef, trwy ganiatad, yng nghyfrol nesaf o weithiau Cym- deithas y Cymmrodorion. w Gwyddid o'r blaen fod teulu Salisbury yn banu o linach Gymreig; ond nid oeddid yn sicr hyd yn hyn fod Syr William yn deall yr iaith. Yn ol y llythyr, y mae hyn yn eglur. Mae cael ambell i ffaith fel hyn o flaen y cy- hoedd yn gymorth mawr i ni gael Hanes cyflawn am Gymru a'i mheibion maes o law. Da genym ddeall fod y boneddwr caredig, Mr. Lewis H. Roberts, Canonbury, yn graddol wella o'i anhwyldeb blin. Nid yw eto yn abl i ddilyn ei orchwylion arferol, ond gydag ychydig seibiant hyderir y daw i'w gynefin hoywder ym mhen ychydig ddyddiau. Un o'r gweithwyr caletaf yn ein mysg fel Cymry ¡ yw Mr. Roberts, a chwith fuasai gweled ei le yn wag yn ein amrywiol gynulliadau cenedl- aethol a chrefyddol. 0 dan lywyddiaeth Mr. D. Rees, M.A., caed dadl fywiog yn Nghymdeithas Lenyddol y Tabernacl nos Sadwrn diweddaf. Pwnc yr ymdrafodaeth oedd, A ddadblygir cymeriad gan addysg fel ei cyfrenir heddyw ?" Cym- erwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. S. E. Thomas o Dreforris, a'r nacaol gan Mr. W. H. Lewis, Llanarth. Ar derfyn dadl frwd, yr ochr gadarnhaol a orfu. » Cyfarfod amrywiaethol oedd gan Gym- deithas Ddiwylliadol Shirland Road nos Iau cyn y diweddaf, o drefniad Miss James, John Street a Miss Williams, Devonshire Street; a phan mae y chwiorydd yn ymgymeryd a rhyw- beth, nid yn rhyw haner ei wneyd y maent; ac felly hefyd y profodd y tro hwn. Nid yn unig yr oeddent wedi parotoi rhaglen ar- dderchog ond yr oeddent hefyd wedi gofalu am y dyn oddifewn, trwy ddarparu digon o de a danteithion i bawb oedd yn bresenol, ac yr oedd tyrfa anarferol wedi dod ynghyd, Ar ol y tê, aed trwy raglen ragorol o ganu ac adrodd, a mawr fwynhawyd yr oil. Bydd y Parch J Machreth Rees yn traddodi ei ddarlith ar "GwiIym Hiraethog," o flaen y gymdeithas uchod nos Wener yr 28ain o'r mis hwn. Cofied ein darllenwyr. Cyfarfu Cymdeithas Walham Green nos Fercher, Tachwedd y 12fed, dan lywyddiaeth Mr. Isaac T. Lloyd, Chelsea, pryd y cafwyd papyr rhagorol gan Mr. John Hughes ar y "Parch. John Jones, Talsarn." Rhoddwyd ei hanes yn fanwl o'i gryd i'w fedd. Dywed- wyd ei fod wedi ei feddianu gan ysbryd pre- gethu er yn ieuanc iawn, ac iddo ymroddi o ddifrif i'r gwaith hwn gyda sel a brwdfrydedd mawr tra y bu ar y ddaear. Cafwyd ym- drafodaeth fuddiol iawn ar y diwedd pryd y gwnaed sylwadau pellach ar rai o'i nodwedd- ion fel dyn ac fel pregethwr. Cymerwyd rhan ynddi gan y Parch J Tudno Williams, M.A., Mri. David Jones, Gomer Jones a Robert Jones, J.P.

MARWOLAJETH MR. TOM LLOYD,…

Advertising