Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

DEDDFU TRWY DRAIS.

Y PWLPUD METHODISTAIDD.

[No title]

News
Cite
Share

Er fod amryw Gymry ar Gynghorau lleol Llundain, nid oes un maer Cymreig y flwyddyn hon yn y ddinas. "Cochfarf" sydd wedi ei ddewis yn faer Caerdydd, a da genym weled prif dref y deheudir yn dod yn ol i'w hen arferion gan anrhydeddu Cymro byw am dro yn ei hanes eto. Eisieu rhagor o fath "Cochfarf" sydd arnom. Rhydd Madam Patti gyngherdd arbenig yn Llundain ar yr 20fed o'r mis hwn, a dywedir y bydd yn un o brif atdyniadau y tymhor. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi pasio penderfyniad cryf yn eu cyfarfod diweddaf, yn condemnio y Mesur Addysg yn llym iawn. Ofnant nas gellir ei osod mewn grym yng nglwad y Cardis. Ar ol bod yn wael yn hir, y mae'r Cymro pybyr Mr. Tobit Evans, Y.H., wedi gwella yn rhagoroL Yr oedd ar ymweliad a Llundain yr wythnosau diweddaf, a da oedd genym. ei weled mor fywiog eto.