Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

. PRAWF DIG SION DAFYDD.

News
Cite
Share

PRAWF DIG SION DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YR ANRHYDEDDUS SYR OARU CYFIAWNDER. CLERC Y LLYS. I OOFRESTRYDD Y BARNWR. Mr. Cryno. | Mr. Digyffro. GWAS Y BARNWR. Mr. Olir-ei-lais. DADLEUWYR. DRos YR ERLYNIAD. I DROS Y CARCHAROR. Mr. Gwladgarwr. Mr. Uchelgais. TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Masnach. Mr. Lien Cymru. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Crefydd Cymru carcharor. (gwraig Mr. Lien). Miss Balchder, merch y Miss AddyagCymru,merch carcharor. Mr. Lien. Mr. Rhith-Gwareiddiad. Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog. GARCHAROR. Drc SION DAFYDD. RHEITHWYR. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr. Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr. Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, | Mr. Deallgar. (Parhad). Mr. Gwladgarwr. Mrs. Crefydd Cymru TYST 3. MRS. CREFYDD CYMRU. Mr. Clir-ei-lais. Mrs. Crefydd Cymru Mrs. Crefydd Cymru! Mr. Gwladgarwr. Yr y'ch chwi yn briod a'r tyst diweddaf ? Mrs. Crefydd. Ydwyf, er's blynyddau lawer bellach. Mr. G. Maddeuwch i mi am ofyn i chwi. Yr ydych chwi lawer yn hyn na'ch gwr ? Mrs. C. Ydwyf, gryn lawer yn henach. Mr. G. Chwi yw'r henaf ond dau o'ch teulu, mi gredaf? Mrs. C. Ie: mae fy nwy chwaer-Eglwys Groeg ac Eglwys Rufain-dwy efeilles-yn henach na mi; ond fi fu'n magu fy chwiorydd, Crefydd Gwerddon a Chrefydd Lloegr. Mr. G. Ac yr ydym wedi clywed am eich gwasanaeth da i Mr. Cymraeg a'ch gwr yn eu hafiechyd. Nid yw eich gwaith da wedi ei osod o'r neilldu oddiar pan briodasoch? Mrs. C. Na: mae fy mhriodas wedi fy ngalluogi, drwy fy ngwr, Mr. Lien, i hel- aethu terfynau fy nylanwad yn ddirfawr. Mr. G. Ac yr ydych yn ffryndiau mawr a'r erlynydd ? Mrs. C. (gyda theimlad). Nis gallaf byth anghofio fy nyled iddo ef am ei nodded i mi pan oeddwn yn ddigartref. Mr. G. Byddai yn gymhorth i'r llys pe's dywedech yr hanes, Mrs. Crefydd. Mrs. C. Wel, yr oeddwn yn arfer byw mewn tyddyn bychan digon llwm. Ond wrth dreigliad amser, a chan mai gwael oedd ei furiau ar y cyntaf, dechreuodd ddadfeilio. Cyn i mi gael amser i'w adgyweirio, torodd storm o fellt a tharanau ar ei ben, a thynwyd ef i lawr gan y Llywodraeth am ei fod, medd- ent, yn beryglus. Ond yn He codi bwthyn arall i mi, danfonwyd fi i fyw dan gronglwyd fy chwaer, Crefydd Lloegr. Yno y bu'm yn dyhoeni am ysbaid yn ei phalas gorwych, heb weled neb, braidd, o'm hen gydnabod ond y carcharor a Mr Rhith-Gwareiddiad. Llwydd- odd y carcharor i wenwyno meddwl fy chwaer yn erbyn Mr. Cymraeg fel y gwrthododd ei ollwng i ymddiddan a mi o gwbl. Pan ddes i wybod hyny, eis allan o'i phalas er fod yr hin yn wlyb ac oer, a minau heb le i fyned iddo. Yna clywais gan Mr. Morgan Llwyd a Mr. Stephen Hughes, dau o'm caredigion penaf, fod Mr. Cymraeg yn gorwedd yn glaf mewn caban bychan ar ochr y mynydd moel, ac ar eu cais eis yno i'w nyrsio ef a'i gyfaill. A phan wellhaodd Mr. Cymraeg o'i afiechyd cododd gartref newydd i mi yn yr hwn yr wyf yn byw hyd heddyw. Mr. G. A ydych yn adwaen y car- charor? Mrs. C. Adwaenwn ef pan yn fachgen, ond ni fu'm yn siarad ond ychydig ag ef wedi ei ddychweliad o Lundain. Mr. G. A welsoch chwi ef yn yr adeg yr ych newydd gyfeirio ati ? Mrs. C. Mae genyf bob lie i gofio ei wel'd. Un diwrnod gwelodd Mr. Cymraeg a finau yn edrych ar y ty newydd oedd yn cael ei godi i mi drwy haelioni Mr. Cymraeg. Collodd y carcharor, gallwn feddwl, ei synwyrau am beth amser, syrthiodd ar Mr. Cymraeg gan ei guro yn ddidrugaredd a phastwn onen wyllt, nes iddo lewygu. Yna cyhuddodd fi o flaen yr ynadon o drossddu yn erbyn cyfraith y tir, a thaflwyd fi i garchar, am dymhor, ac nis gollyngwyd fi yn rhydd hyd nes y pasiwyd y Ddeddf Goddefiad. [Mr. Gwladgarwr yn eistedd.] Mr. Uchelgais. Mrs. Crefydd, mae blyn- yddau lawer oddiar pan daflwyd chwi i gar- char? Mrs. C. Oes. Mr. U. Ac nid ych chwi a'r carcharor byth wedi siarad a'ch gilydd wedi hyny ? Mrs. C. Nac ydym. [Mr. Uchelgais yn eistedd, a Mrs C. yn ymadaw.] Mr. Gwladgarwr. Miss Addysg Cymru Mr. Clir-ei-lais. Miss Addysg Cymru TYST IV. Miss ADDYSG CYMRU. Mr. G. Un o ferched Lien a Chrefydd I Cymru ydych chwi? Miss A. Ie'n siwr, yr wyf yn un o'u plant. Mr. G. Ac yn sicr yn un o'r rhai harddaf! A ydych yn byw dan yr un gronglwyd a hwynt hwy? Miss A. Na; nid wyf yn byw yn yr un ty, er fy mod yn gwario oriau bob dydd yn eu cwmni. Yr oeddwn yn awyddus i gael ty i mi fy hun, lie gallwn weled fy nghyfeillion heb flino dim ar fy rhieni, a thrwy garedig- rwydd Mr. Cymraeg llwyddais i godi'r fath dy. Mr. G. Yr ych chwi a Mr. Cymraeg felly yn gyfeillion? Miss A. Ydym, mae'n dda genym ddyweyd, ar hyn o bryd. Mr. G. Ai ni fuoch bob amser, ynte? Miss A. Pan oeddwn yn fychan, a'm rhieni yn dylawd iawn, bu Mr. Cymraeg yn gyfaill ac yn gymwynaswr mawr i mi, a pharhaodd ein cyfeillgarwch yn ddifwlch hyd nes i mi fyn'd i fyw i dy fy hun. Mr. G. Beth ddigwyddodd wedn ? Miss A. Pan eis i fyw i fy nghartref new- ydd, un o'r rhai cyntaf ddaeth i'm gwel'd oedd y carcharor. Mr. G. Un cwestiwn yn y man hyn. A oeddech yn ei adnabod o'r blaen? Miss A. Yr oeddwn wedi clywed son am dano, ac wedi ei wel'd weithiau. Ond ni wnai edrych arnaf y pryd hwnw, am fod fy rhieni yn bobl dlawd. Mr. G. Felly, y tro cyntaf i chwi siarad ag ef oedd pan alwodd yn eich ty newydd? Miss A. Ie daeth ef a chyfaill iddo i'm gwel'd gyda'n gilydd. Dywedodd wrthyf mai Mr. Gwareiddiad oedd enw ei gyfaill, a chan fod fy rhieni wedi'm dysgu i barchu Mr. Gwareiddiad, yr oeddwn yn falch iawn i'w wel'd. Ym mhen ychydig cynghorodd Mr. Gwareiddiad fi i gau fy nrws yng ngwyneb Mr. Cymraeg, gan ei fod yn ddyn anwybodus, digyrr eriad, ac anwaraidd. Dywedodd wrthyf iddo gael ei gospi gan sawl Barnwr am dros- eddau anfad, ac nad oedd yn deilwng i eistedd mewn cornel ty gwraig na geneth barchus. Yr oeddwn yn ieuanc iawn ar y pryd, ac wedi fy syfrdanu gan fy nhy a'm bywyd newydd. Mae yn gywilydd genyf orfod cyfaddef i mi wrando ar y carcharor a'i gyfaill, ac i mi gau drws fy nhy yn erbyn Mr. Cymraeg, yr hwn a'i rhoddodd i mi. [Miss A. yn tori allan i wylo.] Mr. G. Dewch chwi, Miss Addysg, treiwch 1 feddianu eich hun, er y gwn mor galed yw f chwi roddi eich tystiolaeth. Beth ddigwyddodd wedyn ? Miss A. Fel y des i adnabod y carcharor a'i gyfaill yn well, ac y cynyddwn mewn prof- iad a gwybadaeth o'r byd, deuais i wybod mai nid Mr. Gwareiddiad, ond Mr. Rhith-Gwar- eiddiad, oedd ffrynd y carcharor. Un diwrnod cefais adnabyddiaeth o Mr. Gwar- eiddiad ei hun, a gofynais iddo beth oedd ei farn am Mr. Cymraeg. Ar ei gynghor taer, gofynais faddeuant Mr CymRaeg, a chroesaw- ais ef drachefn i'm ty. Ac yno y mae ac y bydd byth yn un o'r gwahoddedigion uchaf ei fri a'i anrhydedd. Mr. G. A wyddoch chwi rywbeth am berthynas Mr. Cymraeg a'r carcharor ? Miss A. Nis gwn ond yr hyn a ddywedais, a hyn yma ymhellach. Pan ddanfonais am Mr. Cymraeg ar gyngor Mr. Gwareiddiad, aeth y si ar led, a daeth y carcharor i'm gwel'd yn llawn Hid a digofaint. Dywedai* wrtho na wrandawn mwyach arno, ac yna trodd yn ddigllawn allan o'r ty. Ar drothw/r drws cyferfu a Mr. Cymraeg, a rhoddodd hergwd iddo a phastwn, gan waeddi y byddai'n rhaid iddo ddefnyddio moddion ereill yn y man i gadw Mr. Cymraeg yn ei le. Mr. G. Faint o amser sydd oddiar hyn ? Miss A. Y chydig cyn helynt Gorphenaf oedd. [Mr. Gwladgarwr yn eisfedd.] Mr. Uchelgais. 'Dych chwi a'r carcharor ddim yn ffryndiau, Miss Addysg? Miss A. Nac ydym, wedi iddo fy nhwyllo. Mr. U. Ac yr ydych yn ei ddirmygit a'i ffieiddio ? Miss A. Nid oes salach creadur nag ef ar wyneb daear las heddyw! Mr. U. Aroswch fynud, Miss Addysg J Mr. Cymraeg gododd y ty i chwi, ynte ? Miss A. Ie. Mr. U. Ac yn fuan ar ol i chwi ei gael, cauasoch eich drws yn erbyn aw iwr y rhodd 'Rych chwi, Miss, yn gwybod rhywbeth am salwch cymeriad [Mr. Uchelgais yn eistedd.J (I'w barhau.)

Advertising