Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Bgd g Ban.

UNDEBWYR A CHEIDWAD-WYR CYMREIG…

News
Cite
Share

UNDEBWYR A CHEIDWAD- WYR CYMREIG LLUNDAIN. Er nad oes ond haner dwsin o aelodau Seneddol Ceidwadol tros Gymru yn y Senedd, bydd yn newydd i rai ddeall fod cymdeithas bur weitbgar gan y blaid yn gweithio ymysg Toriaid Cymreig y lie, ac yn gofalu am fuddianau y blaid ymysg eu cefnogwyr ar hyd a lied Cymru. Sefydlwyd y gymdeithas yn fuan ar ol etholiad 1900, a deallwn ei bod eisoes wedi gwneyd liawer er uno ygwahanol adranau o'r blaid, a dwyn achosion Cymreig yn fwy i sylw blaenoriaid y parti a'r mawrion arianog sy'n byw yn Llundain a chanddynt gysylltiadau tirol neu fasnachol a Chymru. Syr David Evans, K.C.M.G., yw trysorydd y mudiad, ac y maent wedi bod yn ffodus i gael ysgrifenydd medrus a gweithgar ym mherson Mr. David Williams, 181, Queen Victoria Street, E.C. Beth yw nerth y Gymdeithas eto nis gwyddom, ond y mae urddasolion ein cenedl ar raglen ei llywyddion a'i is-lywyddion. Yn eu mysg, gellir enwi Iarllod Dinbych, Cawdor, Dunraven a Powis. Yr Arglwyddi Emlyn, Dynefwr, Glanusk, Kenyon, Llangattock, Mostyn, Raglan, Tredegar, Windsor, a Vane- Tempest. At y rhai'n gellid ychwanegu Barwniaid a Syrodamryw, tra y gwnai enwau M.P-od a'r J.P-od restr rhy faith i'n col- ofnau. Nos Iau cyn y diweddaf cynhaliwyd cyfar- fod dyddorol ganddynt yn yr Holborn Res- taurant, fel math o agoriad y rhaglen am y flwyddyn, a rhaid dyweyd fod yno gynulliad rhagorol ac urddasol wedi dod ynghyd. Math o gyngherdd ysmygol oedd natur y cwrdd ynghyd ag ychydig nifer o .areithiau Ceid- wadol wedi eu gwthio rhwng y darnau cerdd- orol, a phob yn ail a'r mygyn o'r cigar. Trefnwyd y cyngherdd gan Dr Rutherfoord Harris, ond methodd ef ei hun a bod yn bresenol, a'r canlyniad oedd i'r boneddwr hynaws a charedig, Syr John Puleston, ddod i'r adwy a chadeirio yn ddifyr a deheuig am y noson. Gofalwyd am raglen gampus o gerddorion, ym mhersonau Miss Katie Thomas, Margaret Thomas, Irer e Greenleaf a'r Mri Dyfed Lewis, Emlyn Davies, a Will Preston. Cyfeiliwyd gan Mr Merlin Morgan, a rhaid dyweyd fod y canu yn dda odiaeth. Ond er mor dda oedd y canu, caed fod mwy o sylw yn cael ei dalu gan y dorf i areithiau y gwyr mawr fu'n siarad yno; ac, wrth gwrs, baich y genadwri oedd mai gwein- yddiaeth ragorol oedd y Weinyddiaeth hon, ac mai Mesur bendithfawr i'r wlad oedd y Bil Addysg. ø Y siaradwr mawr ar y Bil Addysg oedd Mr C H Cripps, A.S.; a gwr hyddysg yw efe fel dadleuydd yn y prif lysoedd cyfreithiol. Y noson hon, er hyny, nid oedd ei ffeithiau yn afaelgar na'i frawddegau yn ddigon dylan- wadol. Er hyny, cafodd wrandawiad astud, a gwnaeth sylwadau meithion ar werth y Mesur a'i degwch. Yn ychwanegol, caed byr sylwadau gan y Parch Hartwell Jones, M A.; ac yna gan y Cadben Ernald Richardson ac ereill. Cyn gorphen a'r wyl caed araeth edmygol ar Syr John Puleston a'i waith, gan y Cyng- horwr D Davies, Duke's Road ac ar ei gais, rhoddwyd pleidlais unol o ddiolchgarwch iddo am lywyddu. Caed cwrdd hwyliog o'r dechreu i'r terfyn, ac mae Ceidwadaeth yn y ddinas yn argoeli bod yn ddylanwad yn ein mysg.

Y Oyfodol.

Advertising