Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Bgd g Ban.

News
Cite
Share

Bgd g Ban. Gan PEDR ALAW. ["PENDENNIS," LOUGHTON.] CYNGHERDD CAPEL MILE END. Cynnaliwyd hwn ar y 6ed cyfisol yn y People's Palace, ac yr oedd yn un poblogaidd-yr hyn a olyga ei fod yn llwyddiant arianol, ar wahan i haelioni y cadeirydd, Mr Horatio Bottomley, yr hwn a gyfranodd bum' gini ar ugain i'r gronfa. Dyma gadeirydd gwerth ei gael-am ei haelioni a'i allu cadeiriol. Yn wir, ni welsom erioed gadeirydd callach. Yr oedd ei sylwadau yn fyr a tharawiadol. Hawdd gweled y dyn o fusness ynddo, ac y mae eisieu liawer iawn o byny yn ein cadeirwyr. Doniol iawn ydoedd cyfarchiad barddonol Mr Morris, yr ysgrifenydd, i'r cadeirydd. Dywedai am dano He keeps an open mind and open door." Nis gwyddom at ba beth y cyfeiria y drws agored "-pa un ai at ei olygiadau politicaidd, ynte ei garedigrwydd i bawb ddeuant at eidy am gardod! Am y canu, nid oes rhyw lawer a le i gan- mol; ac ni ddylid disgwyl liawer pan yr ys- tyrir fod yr unawdau yn cael eu canu gan aelodau y cor a wasanaethai—sef cor o dan arweiniad Mrs Emlyn Jones. Yn -ein byw, ni theimlem fod angen am yr encores gafwyd yn y cyngherdd. Nid oeddynt ond yn gwastraffu yr amser i'n tyb ni; ac nid doeth trethu y cantorion yn ormodol. 0 berthynas i'r gystadleuaeth ar yr unawd "Brad Dynrafcn." Os cedd y ''chwynu" ymhlith y baritones yn waith mawr, nis gallent feddu lleisiau neullduol, canys yn y gystad- leuaeth gyhceddus, nid cedd fawr o lewyrch ar y canu. Daeth pedwar i'r llwyfan; a chan na chawsom feirniadaeth ar y pedwar gan Mr Emlyn Jones, dodwn yma y sylwadau wnaetbom arnynt, gan obeithio y bydd o ryw fudd i'r cystadleuwyr (1) "Bronant." Meddai hwn lais pur iawn, hyncd felly i faritore ac yr oedd yn canu yn ofalus a deallgar. Ond collai yn hytrach mewn nerth. (2) "Idrislwyn." Llais mwy disglaer a mwy o'r gallu desgrifiadol, eto nid cymaint o crphenedd jny dadganiad drwyddo. (3) W. J. E. Ei ailu yn I hy fach i gan mor ddesgrifiadol a hen, eto yn meddu llais dym- unol. (4) tl Tudur." Geiriad rhagorol gallu des- grifiadol mawr; llais da. Cafwyd gan hwn fwy 0 wir deiroted, yn y manfu gofynol, na chan yr un o'r lleill: er engraifft, yn yrolygfa lie yr adnabu y tad ei fab marw. Dyfarnwyd y wobr-sef cwpan arian—i (I) "Bronant," stf Mr. Tom Jones, New Jewin; a'r ail wcbr-sef 10s 6c i (4) Tudur," sef Mr John Evans o'r un lie. A rhanodd y cadeirydd hael 10s 6c cydrhwng 2 a 3. Am y cor merched, yr oedd yn canu yn dda, er nad oedd yr aelodau bob amser yn cydsymud yn berffaith. Dangosid liawer o feddylgarwch yma a thraw—megis yng Nghlychau Aberdyfi lie y ceid tarawiadau hapus iawn. Da hefyd ydcedd Llwyn Onn a'r "Village BlacksmIth," ac yn enwedig A Scotch Rhapsody (er na ddeallem y geiriau yn yr olaf). Anhawdd meddwl am ddernyn mwy cyfoethog, o ran cynghanedd, na'r olaf hwn. Er hyny, darn pruddaidd yw. Ystvriwn mai y dadganiad lleiaf boddhaol gan y cor ydoedd «Yr Haf." Yr oedd y symudiad cyntaf yn rhy gyflym a phur ddi- enaid; ac i'n tyb ni, yr oedd y rhan olaf hefyd yn rhy gyflym-yn enwedig tua'r diwedd. Nid dyma'r waith gyntaf i ni glywed y darn hwn yn cael ei ganu yn rhy gyflym. Miss JENNIE JONES. Y mae y foneddiges hon yn dymno hysbysu ei bod yn rhoddi gwersi ar y berdoneg, ac yn barod i chwareu mewn cyngherddau ac At Homes." Ei chy- feiriad ydyw 98, Old Kent Road. Wedi'r hysbysiad hwn, hyderwn y bydd iddi hysbysu yn rheolaidd yn ein colofnau, modd y caiff faint a fyno o waith Y mae y CELT yn bur foddlawn i helpu'r cerddorion, ond dylent hwythau helpu'r CELT. GWYL GERDDOROL GYMREIG. Cy farfu y pwyllgor nos Fawrth, a chan nas gallai Mr. Tudor Rhys ymgymeryd a'r swydd o ysgrif- enydd, pasiwyd ein bod yn gofyn i Mr. Maengwyn Davies weithredu,gyda Mr I Jones, ieu., Commercial Road, fel un o'r is-ysgrifen- yddion-Mr. Davies i ddewis y llall. Mr. Davies, Woolwich, ddetholwyd yn drysorydd. Penodwyd pwyllgor cerddorol i ddewis gweithiau, gan roddi y flaenoriaeth i rai Cym- reig. Hefyd, dewiswyd arweinyddion Mr. Harry Evans, Dowlais, yn brif arweinydd a Mr D Evans, Jewin, Mr Madoc Davies a Mr John Jones, South London, yn arweinyddion lleol. Cyfeilwyr, Mr Merlin Morgan (y prif un), hefyd Mr Gwilym Rowlands a Miss Maggie Ellis.

UNDEBWYR A CHEIDWAD-WYR CYMREIG…

Y Oyfodol.

Advertising