Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

PRAWF DIC SION DAFYDD.

News
Cite
Share

PRAWF DIC SION DAFYDD. ALLEGORI DDRAMAYDDOL GAN LLEWELYN WYN. BARNWR. YR ANBHYDEDDUS SYR CARU CYFIAWNDEB. CliEBC Y LLY8. COFEESTRYDD Y BAENWR. Mr. Cryno. | Mr. Digyfiro. GWAS Y BABNWB. Mr. Clir-ei-lais. DADLEUWYR. DBOS YR ERLYNIAD. I DROS Y CABCHAROB. Mr. Gwladgarwr. Mr. Uchelgais, TYSTION. Mr Cymraeg, yr erlynydd. Mr. Masnach. Mr. Lien Cymru. Mr. Codi-yn-y-byd, mab y Mrs. Crefydd Cymru carcharor. (gwraig Mr. Lien). Miss Balchder, merch y MissAddysgCymru,merch carcharor. Mr. Lien. Mr. Ehith-Gwareiddiad. Mr. Gwareiddiad. Dr. Rhagfarn. Dr. Hanes. Heddgeidwad Gor-selog* CARCHAROB. DIe SION DAFYDD. HHEITHWYB. Mr. Cydwybod (blaenor), Mr. Union, Mr. Chwareu-Teg, Mr. Gwel'd-bob-ochr, Mr. Geirwir, Mr. Didderbyn-wyneb, Mr. Gonest, Mr. Diofn, Mr. Tawel, Mr. Synwyrol, Mr. Diwylliant, Mr. Deallgar. (Parhad). TYST 2. MR. LLêN CYMRU. Mr. GWLADGARWR. Mr. Llen|Cymru Mr. CLIR-EI-LAIS. Mr. Lien Cymru I Mr. Lien Cymru [Mr. Lien yn dyfod ymlaen i sedd y tystion.] Mr. G. Mr. Lien Cymru yw eich enw yn Ilawn, 'rwy'n meddwl ? Mr. Lien. Ie: gelwir fi felly i'm gwahan- iaethu oddiwrth fy mrodyr ieuengach, Mr. Lien Ffrainc, Mr. Lien Lloegr, a'r lleill. Mr. G. Chwi, mi gredaf, yw'r henaf o'ch teulu ? Mr. Lien. Fi yw'r henaf sydd yn fyw. *Rwyf yn ieuengach na Mr. Lien Canaan, Mr. Lien Groeg, a Mr. Lien Rhufain, ond y maent hwy wedi myn'd er's llawer dydd. Mr. G. Yr ydych yn adnabod yr er- lynydd ? Mr. Lien. Ydwyf; hen gyfaill anwyl i mi ydyw. Cawsom ein cyd-fagu, ac yr ym wedi bod yn ffryndiau mawr drwy gydol ein hoes. Mr. G. Ac yr ydych yn gwel'd eich gilydd yn fynych ? Mr. Lien. Nid oedd braidd ddiwrnod yn pasio heb i ni weled ein gilydd, ac wedi i mi briodi, gyda ni y mae wedi gwario pob dydd Sul. Mr. G. Mae'r erlynydd a'ch gwraig yn hen ffryndiau, 'rwy'n meddwl. Mr. Lien. Ydynt, er iddynt fod am flyn- yddau bron yn ddieithriaid i'w gilydd. Bu'r erlynydd a finau yn afiach am amser flyn- yddau yn ol, a rhoddodd y meddygon ni i fyny sawl gwaith. Dywed Dr. Hanes y buasem ein dau wedi darfod am danom oni bai am ymroddiad a thynerwch Mrs. Cref- ydd. Mr. G. 'Doech chwi a Mrs. Crefydd ddim yn briod yr adeg hono ? Mr. Lien. Nac oeddem. Nis gwyddwn fawr yn ei chylch cyn fy afiechyd, a theimlwn beth rhagfarn yn ei herbyn. Ond pan oeddwn ar fin darfod am danaf daeth dau wr i ym- weled a mi. Enw y naill oedd Morgan Llwyd, ac enw y llall oedd Stephen Hughes. Pan welsant fy nghyflwr i a Mr. Cymraeg, dy- wedasant fod yn rhaid i ni gael nurse dda. Daethant a Mrs. Crefydd i'r ty, a gweinydd- odd hi arnom gyda'r fath ofal fel y gwellasom yn fuan. Ac wedi fy llwyr adfer, gofynais iddi os gwnelai fy nghymeryd er gwell neu er gwaeth, ac unwyd ni mewn glan briodas gan Williams, Pantycelyn. Mr. G. Ai pan yn yr afiechyd hwn y llew- ygodd Mr. Cymraeg ? Mr. Lien. Ie: yr oedd yn dihoeni am dym- hor hir, ac nid oedd neb yn gofalu am dano. A phan ddaeth Mrs. Crefydd i'w weled yr oedd mewn rhyw fath o lewyg marwol. Mr. G. A ydych yn adnabod y car- charor ? Mr. Lien. Ydwyf, o ran ei weled, ond nid wyf yn cofio i mi siarad ag ef oddiar pan oedd yn blentyn. Mr. G. 'Rwy'n meddwl ei fod yn fwy cyf- eillgar a'ch brawd ieuanc, Mr. Lien Lloegr, nag yw a chwi ? Mr. Hen. Clywais ddyweyd ei fod yn ym- ffrostio ei fod yn gyfarwydd iawn a'm brawd, ond gwada fy mrawd ei fod wedi cael ad- nabyddiaeth o hono erioed. Mr. G. A welsoch chwi'r carcharor erioed yng nghwmni Mr. Cymraeg ? Mr. Lien. Do: gwelais hwy yn cyfatfod weithiau, ond ni fyddent ond ambell waith yn siarad a'u gilydd. Yn wir, y mynud y gwelai Die Sion Dafydd yr erlynydd, un ai croesai i'r ochr arall i'w osgoi, neu pasiai ef gan edrych yn wgus a digllawn arno, neu canlynai ef a bygythion a chelanedd. Mr. G. Beth oedd y bygythion, Mr. Lien? Mr. Lien. Clywais ef unwaith yn bygwth Mr. Cymraeg os elai yn agos i dy fy merch, Miss Addysg dro arall tyngodd na chelai Mr. Cymraeg byth ond hyny groesi trothwy Mr. Cyfraith. Y Barnwr. Pa hawl, tybed, oedd ganddo ef i wahardd tai pobl ereill i'r erlynydd ? Mr. Lien. Arferai ddyweyd fod hen gyf- raith eto mewn grym yn atal Mr. Cym- raeg. Mr. Uchelgais. Pasiwyd y fath gyfraith, fy arglwydd, yn y flwyddyn 1536 yn nheyrn- asiad Harri'r Wythfed, ac erys hyd y dydd heddyw ar ddeddf-lyfrau'r wlad. Mr. Gwladgarwr. Eto, fy arglwydd, ystyrir y gyfraith yn llythyren farw erbyn hyn. Y Barnwr. 'Rwy'n synu nad yw'r gyfraith farbaraidd ffol ac anheg wedi cael ei llwyr ddiddymu yn yr oes oleu hon gan Senedd ein gwlad. [Cymeradwyaeth yn y Hys.] Mr. Clir-ei-lais. Gosteg gosteg! Y Barnwr. Nis gallaf oddef arddangosiad o deimlad fel hyn yn y llys! Nid ty chwareu, ond llys cyfraith, ydyw hwn Os digwydd y fath beth eto, gorch'mynaf i'r llys gael ei glirio. Mr. G. A wyddoch chwi beth oedd teim- lad Mr. Cymraeg tuagat y carcharor ? Mr. Lien. Clywais ef yn dyweyd lawer gwaith y dylid ymddwyn yn dyner tuagato, fod mwy o fai ar ei ben nag ar ei galon, ac fod ereill wedi ei arwain ar gyfeiliorn, megis Mr. Rhith-Gwareiddiad. Mr. G. Un gofyniad arall, Mr. Lien. Pa bryd clywsoch chwi'r carcharor yn bygwth Mr. Cymraeg y tro diweddaf ? Mr. Lien. Yr wythnos olaf yn mis Awst diweddaf clywais ef yn bygwth llindagu Mr. Cymraeg os meiddiai ddangos ei big yn Eis- teddfod Bangor. fMr. Gwladgarwr yn eistedd.] [Mr. Lien yn haner troi ymaith.] Mr. Uchelgais. Aroswch fynud, Mr. Lien, peidiwch bod mor frysiog. Mi hoffwn inau gael gair neu ddau gyda chwi. Yr ydych chwi a Mr. Cymraeg yn gyfeillion mawr ? Mr. Lien. Ydym. Mr. U. Ac yr ych yn elyn i'r car- charor ? Mr. Lien. Nac ydwyf nid ydwyf yn elyn i neb. Mr. U. Ddim yn elyn i neb, syr Ateb- wch fy nghwestiwn. A ych chi ddim yn elyn i'r carcharor ? Mr. Lien. Nac ydwyf. Mr. U. Ai nid ydych wedi ei wawdio droion ar goedd gwlad mewn gwatwargerdd a thuchangerdd ? Mr. Lien. Wei, do, mi wnes hyny. Mr. U. Ai ni fuoch yn ei wawdio mewn 'Steddfod Genedlaethol ? Mr. Lien. Gaton pawb, feiddiwn i ddim Fe sydd yn y gadair yno bob amser (chwerthin). Mr. Clir-ei-lais. Gosteg I gosteg! Mr. U. Dewch, dewch, Mr. Lien, peidiwelp a chwareu a'r cwestiynau fel yna. Cofiwch,, syr, os gallwch, fod rhyddid a chymeriad dyn yn crogi ar bob gair I 'Rwy'n hyderu y gwnewch chwi bwyso o hyn allan eich geiriau, yn fwy manwl. A fuoch chwi yn adrodd gwatwargerdd ar y carcharor yng Ngorsedd y Beirdd ? Mr. Lien. Do, syr, cyn iddo roddi oriawr newydd i'r Archdderwydd. Mr. U. 'Rown i'n meddwl y daethem ni o hyd i'r gwir cyn y diwedd A ydyw Mr. Cym- raeg o dymher wyllt ? Mr. Lien. Mae mor addfwyn a'r oen, syr. Mr. U. Pwy sy'n siarad am wyn, syr Gofyn wnes i os yw Mr. Cymraeg o dymher wyllt? Mr. Lien. Nac ydyw, syr. Mr. U. Ydych chwi'ch cofio Brad y Llyfrau Gleision ? Mr Lien. Ydwyf, a llawer heblaw fi. Mr. U. Peidiweh hidio am y lleill, syr. Ai ni fu yr erlynydd mewn tymher gynddeiriog." yr amser hyny ? Mr. Lien. Do, fe fu yn sefyll i fyny dros eb hawliau. Mr. U. O'r goreu; ac wrth sefyll i fyny dros ei hawliau, bu'n dyweyd pethau caledi am y carcharor ? Mr. Lien. Do. Mr. U. Ac fe ddywedodd na chelai Cymru., lonydd cyn cael gwared ar dylwyth Die Sion. Dafydd? Mr. Lien. Do: fe ddywedodd rhyw eiriaui tebyg. Mr. U. Ac fe ddywed'soch chwithau ryw- beth cyffelyb ? Mr. Lien. 'Rwy'n meddwl i fi wneyd. Mr. U. 'Rych yn meddwl, syr! A ddy- wed'soch chwi, neu naddo ? Mr. Lien, Do, syr. Mr. U. Atebwch yn onest, ynte, a pheid- iwch ceisio cam-arwain y llys I Rych yn cofio* helynt y Barnwr Cox ? Mr. Lien. Ydwyf. Mr. U. Ai ni ymosododd Mr. Cymraeg ar y Barnwr nes ei yru ar ffo ? Mr. LIen. Do. Mr. U. Ydych chwi'n cofio i'r Barnwr Ridley nacau gadaw i Mr. Cymraeg agor efe ben yn y llys ? Mr. Lien. Ydwyf, yn dda. Mr. U. Ai ni ddwrdiodd Mr. Cymraeg- ef gyda'r fath hyawdledd o Gaergybi i Gaerdyddb fel y darfu i'r Barnwr dynu ei eiriau yn ol ? Mr. Lien. Clywais felly. Mr. U. "Clywais eto I Pam nas ateb- wch ofyniad eglur mewn uiodd diamwys ? Do neu naddo ? Mr. Lien. Do. Mr. U. A glywsoch chwi'r carcharor yn galw'r erlynydd yn falldod gwlad, ac yw rwystr ar ffordd llwyddiant ei gyfeillion aB ddeiladon ? Mr. Lien. Do, lawer gwaith. [Mr. Uchelgais yn eistedd.J Mr. Gwladgarwr. Gyda golwg ar helynt y Barnwr Ridley, a oedd gan Mr. Cymraeg; hawl gyfreithlon i siarad yn y llys ? Mr. Lien. Oedd. Mr. G. Ac y mae'r Barnwr dysgedig yn cyfaddef erbyn hyn iddo ymddwyn yn fyr- bwyll ? Mr. Lien. Ydyw. [Mr. Gwladgarwr yn eistedd.] Y Barnwr. Dywed'soch ychydig yn ol fod Mr. Cymraeg o'r farn fod mwy o fai ar bero, nac ar galon y carcharor ? Mr. Lien. Dyna oedd ei farn, fy ar- glwydd. Y Barnwr. Beth yw eich barn chwi eich hun ? Mr. Lien. Mai eiddilyn ydyw o ran corff a. meddwl. Y Barnwr. Dyna i gyd, Mr. Lien. [Mr. Lien yn eistedd i fawr.} (I'w barhau.)