Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GWADDOLI ENWADAETH.

News
Cite
Share

GWADDOLI ENWADAETH. Gwaddoli enwadaeth yw gweithred olaf y Weinyddiaeth bresenol. Yr oedd eisoes, yn y blynyddau diweddaf hyn, wedi gwaddoli y iirfeddianwyr a'r clerigwyr ond yn ei gwaith yn pasio adranau y gfed a'r iofed o'r Mesur Addysg, y mae wedi gwaddoli Eglwysyddiaeth ac Enwadaeth mewn modd digywilydd dros ben. Cri mawr y Toriaid ar ddechreu yr ym- drafodaeth bresenol oedd fod genym ysgolion enwadol yn y wlad, ac nis gellid eu halltudio o'r tir. Addefent yn rhwydd eu gwedid fel cyfryngau i gyfranu addysg ond yr oeddent yn well na dim. Dtrmygent y syniad o bar- hau ysgolion o'r natur yma, ac mewn gair, yr oeddent am eu hysgubo ymaith yn hollol o fod dan bawenau yr offeiriaid. Pan gododd yr Ymneillduwyr i ddangos eu gwegi, hawyr codasant eu dwylaw mewn rhith syndod, gan ddywyd mai anwybodaeth a rhagfard oedd gyfrifol am eiriau Dr Clifford ac ereill. Ond beth a wneir ganddynt yn awr. Y maent wedi rhoddi hwylusdod i bob enwad, ,i'r Eglwyswyr a phawb ereill, i godi ysgolioz ym mha ardal y mynont, ac wedi codi'r ,adeilad y mae'r Llywodraeth yn addaw eu cynhal o arian y cyhoedd. Gan mai Eglwys- wyr yw perchenogion y nifer luosocaf o ys- golion heddyw, gwelir ar unwaith mai er eu llles hwy y gwnaed y 4waddol hwn. Mae'n wir fod yna fath o ryddid i'r holl enwadau, ond gan mai gwan a thylawd ydyw y rheini ni -fanteisir arno i'r graddau ag y gellid eu .g-wneyd yn effeithiol i wrthwynebu daliadau •Uchel-Eglwysyddol yn y wiad. Paham nas gwnaed rheol fod holl ysgoldai mewyddion i fod yn eiddo y werin, nid oes ond gweinyddiaeth Doriaidd yn unig a all ateb, ac mae'r syniad o roddi cefnogaeth o'r natur yma er parhau anghyfiawnder ac anghyson- "deb yn dirmygus i'r eithaf. Hyderwn y gwna em Cynghorau Sirol pan y defnyddir yr adran bon, weled rhyw ffordd y glir a sicrhau fod yr holl arian a gyfrenir gan y cyhoedd yn cael eu treulio yn llwyr ac yn hollol at wasan- aeth ac er budd i'r cyhoedd.

CYNGHERDD CLAPHAM JUNCTION.

CYNGHERDD CAPEL WOOLWICH.

MAGGIE JANE.

Advertising