Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Byd y --.--A n r,Gan.

Bwrddy " Goti-

News
Cite
Share

Bwrddy Goti- Pan wnaeth y Gol. ei ymddangosiad yng I- nghyn- tedd y cenhedloedd," hyny yw ystafell allanol y CELT, yr wythnos hon, yr oedd yno dorf enfawr yn ei ddis- gwyl. Credodd y gwr diniwed mai dod yno 'roeddent i brotestio yn erbyn y Bil Addysg neu rywbeth felly, ond buan iawn yr agorwyd ei lygaid druan. "Plemae'm barddoniaeth i ?" gwaeddai'r Llinos nerth ei ben. A phle mae'm herthygl inau ?" ebe Gerallt.' A beth am y nodion cerddorol anfonais inau yr wythnos ddiweddaf" taranai Pedr Alaw. A'm heiddo inau ar ebe dau neu dri ereill; a rhedodd y Gol., yn llechwraidd, drwy ddrws o'r naill ochr ac i fewn ag ef yn wrol i'r cylch cyfrin, ac wedi cael y Maowy, Bardd yr Offis, Wat y Stymper a dau neu dri ereill o gewri'r achos, agorwyd y drws a daeth torf enfawr 0 gylch y bwrdd. Drwg genyf gyfeillion ebe'r gwr hynaws yn ei ddull tyner a charedig, fy mod wedi gorfod gadael cynifer o bethau dyddorol allan yr wythnos o'r blaen, ond prinder lie, a diweddarwch rhai o'r cynyrchion yn dod i law oedd gyfrifol am hyny." Falle wir ebe Dafydd Tomos yn amheus," ai nid arnoch chwi yr oedd y bai ? Oni fuoch yn cin- iawa gyda Balfour a Pryce-Jones, yr hen lane, ac yn herwydd hyny wedi methu gofalu am waith yr wyth- nos. Ffei o honoch hen wr fel y chwi I" Taw ebe'r Macwy yn sarug, ond oedd yn rhaid i bobl fawr y wlad fyn'd yno i gyd I" Pobl fawr wir ochneidiau Dafydd cdi e'n rhy fawr wys i edrych ar ol y nodiadau wythnosol a anfonaf fi iddo ?" Tawelwch frodyr ebe'r Gol. Yr oedd y lie yn rhy gyfyng, felly nis gallwn osod ond ychydig bethau i fewn yr wythnos ddiweddaf; ond addawaf y caiff yr oil eu lie yn brydlon 0 hyn allan. A chyda'r addewid yna am ddiwygiad daeth y cwrdd yn ol i'w hwyl arferol. D. J. Diolch am y gwahoddiai, a gwnawa ein goreu i fod yn bresanol. Cyfaill. Peidiwch a» anfon hen ohwedlau felly o gwmpas. Pa les sydd i chwi drwy ddiraddio pobl oreill. Nid dyna'r flordd onest i ddyrchafu eioh hun. Fencerddes Teify. Da genym glywed am eich cyngherdd ar y 5ed o Ragfyr. Bydd boys y sir yno'n llu. Llewelyn Ddu. Nis gwyddom ddim yn ei gylch. Anfonwoh ato yn bersonol. Awelfryn. Dawch ag ambell i benill yn awr ao yn y man. Ca'nt Ie. M. J. Methwyd yn lan a chael y llith i fewa fel yr oeddem wedi obaithio; ond dymlo hi, ballach. J. D. (Boro). Yr ydych yn eithaf iawn. Buasai yn drueni i fedd yr hen Wilym gael ei adael i ebar- gofiant. Deallwn fod Llinos Wyre ac ereill wrth y gwaith o dcefnu rhywbeth ynglyn a'r fan. H. T. Dawch yn fyr ac yn flasus bob wythnos. Os bydd ein gofod weithiau yn gyfyng peidiwch grwgnach 03 bydd raid cwtogi. Nid ydym byth yn gwneyd hyny o'n bodd cofiwch. W. A. W. Diolch, a maddeuweh am na chawsoch nodyn yn gynt. Yr oaddam wedi trefnu i wneyd nodiad yr wythnos o'r blaen, ond bu raid ei adael allan. J. Jones. Gwalwch ran o'r adroddiad y tro hwn. Carem glywed oddiwrthych yn fwy ami. Gwcwll. Beth I a wyt tithau hefyd wedi dotio ar y bencerddes ? Gwylia dy droed oherwydd mae Trebor a'r Llinos, ac ereill, ar y miLes o dy flaen D. C. DêLvies. Dauwch yn galonog. Mae digon o le bob amser i'r rhai sydd am hysbysebu Fe gilia'c Bairdd, hyd yn oed, i fobl o fusnes fel ohwi. Diolch.

Gohebiaethau.

r Dyfodolm