Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Byd y --.--A n r,Gan.

News
Cite
Share

Byd y -A n r, Gan. Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] CERDDORIAETH a LLUNIAETH. Fel y gwyr y mwyafrif o'n darllenwyr Llundeinig, ceir y cyfryw gerddoriaeth mewn llawer o leoedd yma; ac y mae seiniau melus, os nad yn sauce, yn beth pur gymeradwy yn ystod ciniaw—ac yn enwedig ar ol pryd, pan y bydd yr anifail (dyn) yn edrych gyda boddlonrwydd ar bobpeth o'i amgylch ae -1 mewn heddwch a'r byd." Gwyddom am leoedd yn Llundain a rhai o drefi mawrion y wlad, lie y ceir cerddoriaeth offerynol gyda chwpanaid o de neu goffi; ac y mae bron yn ogystal a hufen-ac yn dy- gymod yn well o lawer a'r corph na hwnw, i rai fel ni o leiaf Wei, gellir myned yn rhy bell gyda cherdd- oriaeth a the a choffi yn 01 ustusiaid Lerpwl. Y maent yno wedi penderfynu mai nid da temtio dynion a merched ieuainc a cheddor- iaeth yn ystod yr awr giniaw! Ofnant y bydd yr offis yn debyg o fod ar ei cholled; ond paham y rhaid iddynt hwy farnu dros yr offis? Os eir ymlaen yn y cyfeiriad hwn, bydd gan yr heddgeidwaid yn fuan hawl i atal pob cerddoriaeth yn yr heolydd a fyddo yn debyg o aflonyddu ar fecbgyn a merched yr offis U NDEB YMHLITH Y CERDDORION. Y mae Paris yn cael prawf o Undeb ymhlith y chwareuwyr perthynol i'r Music Halls a'r Cafes. Beth bynag ellir ei ddyweyd am undebau yn gyffredinol, credwn fod yr undeb hwn yn un gwir deilwng. Y mae llawer iawn o'r cerdd- orion hyn nad ydynt yn enill mwy na thair punt yn y mis, ac nid yw'r goreuon yn derbyn wyth punt-a hyny am chwareu mewn lleoedd sydd yn rhoddi Hog ardderchog i'w perchen- ogion. Ein hyder yw y bydd i'r chwareuwyr Iwyddo i orfodi eu cyflogwyr i dalu iddynt yn well am eu gwaith, modd y gallant fyw dipyn yn frasach yn y dyfodol nag yn y gor- phenol. Miss TEIFI DAVIES. Bydd y gantores hon yn rhoddi recital yn y Bechstein Hall ar y sed o Ragfyr. Haedda gefnogaeth, a diau y caiff hyny ar ol y stwr a wnaeth ym Mangor! MR. PHILIP LEWIS. Y mae y crythor wedi derbyn medal y Brenin Iorwerth, er cof am y Coroniad, pryd y gwasanaethai Mr. Lewis yn Westminster Abbey yn y gerddorfa. MR. D. JENKINS A'R GWYLIAU CERDDOROL. Yn v Cerddor am y mis hwn, ysgrifena Mr. Jen- kins fel a ganlyn am Wyl Sheffield: u Un o'r arwyddion cryfaf fod cerddoriaeth yn enill tir yn Lloegr ydyw, fod y Cylchwyliau Cerddorol yn amlhau, a'u bod yn cynyddu mewn per- ffeithrwydd y naill dro ar ol y Ilall. Yna el ymlaen i sylwi ar y gwahanol weith- iau a ganwyd yn yr wyl hon. Ymhell ymlaen dywed:— Ni raid dyweyd i ni gael perfformiadau goreu gafwyd erioed o'r prif weithiau mewn unrhyw wyl. Ystyriwn hon a'r wyl a gawsom yn Leeds flynyddau yn ol, yr oreu ydym wedi gael. Maent yn anrhaethol uwch na Gwyl Birmingham, ac ystyriwn Mr. H. J. Wood yr arweinydd goreu, a chymeryd cor a cherdd- orfa, o unrhyw un ydym wedi weled eto. Yr oedd yn gwybod yr holl weithiau yn drwyadl, ac yn medru arwain y cor, ac nid y gerddorfa yn unig, fel y mae arfer y rhan fwyaf o'r arweinyddion sydd yn cael eu dewis ar gyfer y gwyliau yn Lloegr. Nid oedd un pwynt yn cael ei golli ganddo, ac yr oedd y cantorion yn gorfod teimlo fod un o'u blaen yn gwybod beth oedd eisieu, a pheth oedd raid gael. Rhaid cofio hefyd fod y cor wedi ei ddisgyblu yn rhagorol gan Dr. Coward, ac fe ofalodd Mr Wood yn ystod yr wyl fwy nag nnwaith, alw Dr. Coward ymlaen i gael rhan yn yr anrhyd- edd." Y mae y sylwadau canlynol o eiddo Mr. Jenkins yn dangos yn eglur pa ryw argraph a gaiff y gwyliau arno: "Mae meddwl am gymharu ambell i ar- weinydd a chor yng Nghymru ag un fel Sheffield neu Leeds, lie y dysgir tua dwsin o weithiau mewn llai na blwyddyn, a chor sydd yn cael gwaith dysgu dau neu dri o gydganau mewn blwyddyn, yn ffol a phlentynaidd i'r pen. Credwn mai goreu gyd po gyntaf y chwythir yr hunanoldeb hwn allan o'r cylch- oedd Cymreig, ac y dysgir edrych ar y gwaith ardderchog sydd yn:cael ei wneyd yn Lloegr. Y gwir yw, cystadleuaeth sydd wedi ein codi yn y gorphenol, ac y mae mor wir a hyny, mai cystadleuaeth sydd yn myn'd i'n difetha, os nad yw wedi gwneyd hyny eisoss i raddau pell iawn. Yr oedd ymweled a Sheffield yn ysbryd- iaeth i ni cyn cychwyn yno ond ar ol mwyn- hau y wleid, argyhoeddwyd ni yn llwyr nad oes genym hawl i alw ein hunain yn 4 Wlad y gan,' hyd nes y gallwn wneyd rhywbeth yn debyg i'r hyn a wnaed yno ac mewn Ueoedd ereill yn Lloegr." GWYL GERDDOROL GYMREIG LUNDEINIG. Daeth nifer o'r cantorion ynghyd i King's Cross, nos Fawrth, a phenderfynwyd ein bod yn myned ymlaen gyda'r symudiad hwn. Enwyd nifer o bersonau cymhwys, yn y gwa- hanol gapeli ac eglwysi, i weithredu ar bwyllgor cyffredinol, ac anogwyd y swyddog- ion i ddewis ereill atynt. Y mae'r pwyllgor cyffredinol i gyfarfod yn y Tabernacl, King's Cross, nos Fawrth nesaf, am 8.30 o'r gloch, a hyderwn y ceir cyfarfod mawr. Yno dewisir y pwyllgor cerddorol ac arweinydd. Mr. Tudor Rhys a ddewiswyd yn ysgrifen- ydd, ac hapus iawn ydyw y dewisiad.

Bwrddy " Goti-

Gohebiaethau.

r Dyfodolm