Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

PROTESTIO.

News
Cite
Share

PROTESTIO. A oes rhyw ddylanwad gan lais y wlad heddyw ? Os oes, mae'n sicr fed tynged y Bil Addysg wedi ei benderfynu er's talm. Y mee'r wlad wedi ei chynhyrfu drwcdd ar y mater, a'r dystiolaeth gjffredinol yw na wel- wyd yng ngbof neb y fath vnoliaeth a'r fath frwdfr)deddyn erbyn unrhyw veithredSen- eddcl ag yn eibyn eu bymedygiad ynglyn a'r Mesur snghyfiawn presenol. Nos Wener nesaf, ceiff Cymry Llundain gyfleustra i osod eu protest yn erbyn y Bil, ac y mae nifer fawr o'r aelodau Seneddol yn cael eu blaenori gan Mr. Asquitb, wedi addaw eu presenoldeb. a hyderwn nas arghofia neb am y cynulliad, eithr y tyra pav. b yno yn brydlon a gwneyd yr oil a allont er gwneyd y cyfarfod yn unfarn ac yn effeithiol yn ei ddylanwadau. Ynglyn a'r cyfarfodydd sydd eisoes wedi eu cynhal, y rr ae un ffaith yn eglur mai nid "r mneullduwyr yn unig sydd yn gwrthdystio yn erbyn y Mesur. Mae pawb sydd yn caru llwyddiant Addysg yn codi eu Ilef yn groyw, ac ychydig iawn yw nifer y clerigwyr-ar wahan i rai a chysylltiau ag ysgolion sect- yddol-sydd yn pleidio ochr Balfour ar hyn o bryd. Mewn gair, nid yw ei dylwyth ei hunan yn ei hoffi yn ei gyflawnder; ac os am hedd- wch a llwyddiant goreu oil po gyntat yr ym- edy y Senedd ag ymyryd ag Addysg y bobl yn y dull anghyfiawn hwn. Er nad yw'r Mesur yn ymyryd â Llundain, eto, fe wyddis fod yr awdurdodau yn bwriadu troi eu golygon at Fwrdd Ysgol Llundain cyn diwedd y flwyddyn nesaf, ac ad-drefnu holl gynllun addysg y lie. Gan fod y Llundeiniwr, bellacb, yn falch o'i gyfundrefn a'r modd y gweithredir ar y Bwrdd presenol, ac y teimla mai ychwanegiad at y trethoedd fydd ffrwyth cyntaf unrhyw ymyriad o eiddo y Llywodraeth ar yr eg- wyddor bresenol, nid yw yn syndod felly ei fod yn ofni y canlyniadau ac yn barod i godi ei lais yn erbyn y cynllun sydd gerbron y wlad ar hyn o bryd, a dydd Sadwrn diweddaf caed engraifft deg o deimlad Llundain ar y Mesur Addysg. PROTEST RHYDDFRYDWYR LLUNDAIN. Yr Alexandra Palace, fel y gwyddis, yw Palas Grisial y gogleddbartb, ac yn y lIe hwnw y trefnwyd 1 gynhal cyfarfod. Mae yno neuadd eang ganolog, digon o faint i gynwys pymtheng mil o bobl yn hawdd. Yr beddid yn hyderu y gallesid cael haner y neuadd yn llawn beth bynag; ond, hawyr, erbyn adeg dechreu y cyfarfod yr oedd y lie wedi ei or- lanw, a miloedd o'r tuallan ar y glasdir yn methu cael cip ar y cynulliad oedd o'r tu fewn. Ni fu erioed y fath dorf yn y lie, ac yr oedd meddwl am siarad wrthynt oil yn beth am- hosibl. Yr oedd mawrion y blaid Ryddfrydol a chynrychiolwyr o bob cwr o'r ddinas yno. Y prif siaradwyr oeddynt, Arglwydd Carring- ton yn y gadair, Syr Henry Campbel- Barnerman, Mr. H. H. Asquith, a'r hyglod Ddr. Parker. Hwynthwy oeddent arwyr y cwrdd, a mawr oedd y brwdfrydedd yn y lie. Talai y bobl eu sylltau a'u coronau yn rhwydd am seddau, a thyrent i bob cwr o'r adeilad eang er cael clywed rhywbeth o'r areithiau a draddodid wrtbynt. O'r dechreu i'r diwedd, ni chaed na llaw na llais i wrthwynebu yr areithwyr a'u polisi. Yr oedd y miloedd yn unfryd unfarn, a phasiwyd penderfyniad condemniol cadarn nad oedd angen ei gliriach, a sicr yw y bydd raid i'r awdurdodau arafu eu camrau ar ol hyn. Nid yn y cwrdd o'r tufewn i'r neuadd yn unig yr oedd y brwdfrydedd, eithr hefyd o'r tuallan wedi gorphen a'r dorf o'r tufewn aeth y tri chedyrn atynt gan eu hanerch yn yr awyr agored, a chymaint oedd y pybyrwch fel yr oedd lleni'r nos wedi dod dros y lie cyn y gadawyd iddynt orphen eu pregethau am- serol. Nid oedd yr ugain mil hyn ond arddang- ose g fechan o'r teimlad cyffredinol o fcdola yn Llundain ar hyn o bryd, ac er mai cyn- ryc hiolwyr Toriaidd sydd gan y ddinas yn awr yn St. Stephan, y mae'n sicr na feiddiant oil fod yn fyddar i lais eu hetholwyr ar y pwnc hwn. Yr un yw'r hanes ymhob cwr o'r wlad, ac yr oedd Arglwydd Rosebery ei hun-pe bae rhyw dda yn hyny—yn siarad yn groyw yn ei erbyn ddydd Sadwrn, yn Edinburgh, a chym- aint yw cri pob rhanbarth fel y mae'n ambeus genym y ceid un adran o'r boblogaeth ar hyn o bryd i roddi pleidlais o'i blaid pe yn ym- wybodol o anhegwch ei wahanol adranau. Cafodd yr wythfed adran o'r Mesur ei wthio drwy y Ty ddiwedd yr wythnos ddi- weddaf, ac mae adranau ereill wedi pasio) r wythnos hon. Yn ystod yr wythnosau dilynol, rhoddwn amlinelliad o'r Mesur a'i amcanion. Yn ol pob argoel, ni orphenir ymdrin ag ef hyd ddechreu y flwyddyn newydd, os na ddefnyddir y cloadur yn lied ami fel y bygythia rhai o gefnogwyr Mr. Balfour.

CRONFA AT GYNORTHWYO TEULU…

Advertising

TONAU CYNULLEIDFAOL