Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinas.

News
Cite
Share

Oddeutu'r Ddinas. Heno (nos Sadwrn), cynhelir cyfarfod dir- westol yn y Tabernacl Cymraeg, King's Cross. » Yfory (Sul) a nos Lun cynhelir cyfarfodydd blynyddol EgI wys St. Padarn, pan y pregethir gan y Parch. Timothy Davies, ficer Gartheli, Ceredigion. » Nos Iau nesaf. cynhelir cyfarfod sefydlu y Parch. Peter Hughes Griffiths yn eglwys Charing Cross Road, am 7.30. Yr un noson-sef nos Iau-y cynhelir cyng- herdd Mile End Road, yn y Queen's Hall, People's Palace. Hefyd, swper goffi yn City Road. Caed cyrddau llwyddianus iawn yn Castle Street, y Sul diweddaf. Yr oedd dau o gewri yr enwad yno yn pregethu'r gwirionedd. m *• Talodd ein heglwysi deyrnged i'r Brenin lorwerth gan ddiolch am ei adferiad, ddydd Snl diweddaf. Aeth un eglwys i ganu God Save the King" yn Saesneg gan mor fawr eu parch o hono. Perfformwyd "Coronation Ode ein bardd Lewis Morris, yn Norwich, yr wythnos ddi- weddaf. Dr. Cowen, awdwr y gerddoriaeth, oedd yn arwain. <t Gwelsom enw y crythor Cymreig—Mr. Philip Lewis-ymysg enwau y rhai oeddynt yn gwasanaethu. Y mae Mr. Lewis wedi bod yn Hawn gwaith ynglyn a'r prif wyliau cerddorol Seisnig eleni. Caiff ein cydwlad- wyr yn Llundain gyfle i glywed y crythor Cymreig hwn yn chwareu unawdau ar yr 21 o'r mis hwn yng nghyngherdd Cwcwll yn yr Holborn Town Hall. » » Da iawn genym ddeall fod cor meibion Mr. Merlin Morgan yn rhagolygu yn dda ac y mae nifer yr aelodau ar y llyfr eisoes dros haner cant. Dymunwn bob llwyddiant i'r mudiad. Deallwn hefyd, fod Mr. Morgan wedi agor maes newydd gyda chor yr eglwys yn Charing Cross Road, drwy ymgymeryd ag ymarfer a, gweithiau safonol. Y maent eisoes wedi dech- reu ar Samson." » Deallwn fod Mr Madoc Davies, wedi rhoddi i fyny arweinyddiaeth Cor Meibion Gwalia. Gwnaeth Mr. Davies waith da ynglyn a'r cor hwn, ac fel cydnabyddiaeth o hyny y mae aelodau'r cor yn trefnu cyngherdd iddo. e Un peth 0 ddyddordeb newydd yng nghyng- herdd yr hen Gymro Cwcwll fydd cael ad- roddiad o un o'i gynyrchion ef ei hun, sef," A stray white butterfly in London," a hyny gan neb llai na Mrs. Annie Bradshaw-yr ad- roddes a'r llenores adnabyddus. < Y mae cor chwarelwyr y Penrhyn wrthi'n galed yn ein mysg y dyddiau yma. Buont yn cynhal cyngherdd yn Woolwich nos Sadwrn diweddaf, yr hwn a fu yn llwyddiant mawr. Ar ol talu'r costau, yr oedd zcioo yn aros i'r gronfa. Maer y rhanbarth oedd yn y gadair. » » Hyfryd yw gweled Cymdeithas Cymru Fydd yn symud yn hyn o beth. Wrth gwrs, nid yw ond dyledswydd arnynt droi eu gwynebau tua'r fan helbulus yn ardal y chwarel am enyd, a gofyn, beth allant hwy wneyd er r mwyn lleihau tipyn ar effaith yr ormes ? I Y maent yn hwylio am gyngherdd mawr- eddog yng Nghapel Jewin. Canwyd emyn y Parch. Benjamin Thomas gyda gwres yn Eglwys Dewi Sant y Sul di- weddaf. Canwyd y trydydd penill, fel un- awd, gan Miss Mary Pierce. Gofidus gan luaws o'n cydwladwyr fydd clywed fod Mr. Lewis H. Roberts, Wilton Square, wedi cael ei gymeryd yn wael iawn. Yr ydym yn mawr obeithio y caiff ef wellhad buan. Nos Fawrth nesaf, cynhelir cyfarfod blyn- yddol Canghen Ysgol Sabothol Shirland Road yng Nghapel Paddington (capel y Parch. Ossian Davies). Bydd te ar y byrddau am 5.30, a darlith am 8 o'r gloch gan y Parch. Eynon Davies, Beckenham, ar y testyn, "Hen Wlad y menyg gwynion." » Agorodd Cymdeithas Lenyddol Lewisham ei thymhor, nos Iau, pythefnos i'r diweddaf, gyda chwrdd te, a darlith odidog ar a Feirdd a barddoniaeth y cyfnod o Lewelyn Fawr hyd Lewelyn ein Llyw Olaf, 1194-1282 gan y Parch. R. Silyn Roberts, llywydd y Gym- deithas. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. D. LI. Hughes, Crofton Park, Brockley. Addawa y tymhor fod yn un rhagorol yn ol y rhaglen a fabwysiadir. Bydd Gweithiau Ceiriog (0. M. Edwards) dan ymdriniaeth y rhan gyntaf o'r tymhor, a cheir amryw bapyrau ar athrylith y bardd awengar. # Yn ystod y rhan olaf o'r tymhor, bydd Gweithiau Goronwy Owen fel llaw-lyfr i ddysgu gramadeg a chynghanedd; a chyn hir o bosibl y cyfyd ysgol o feirdd i gystadlu ar lwyfan y cyfarfodydd llenyddol ac eistedd- fadol. Hefyd, bwriedir rhoddi lluniaeth i'r dosbarth ieuengaf trwy ffurfio urdd a elwir Urdd y Delyn a sefydlir i blant Cymru gan y Proff. O. M. Edwards, i ddysgu iaith a Ilen- yddiaeth y genedl Gymreig. <t < Nos Wener, Hydref 24ain, bu Mr. T. J. Anthony-un o flaenoriaid hynaf Shirland Road-yn darllen papyr o flaen y Gymdeithas Ddiwylliadol ar Hanes yr Achos yn y lie o'r cychwyniad hyd y presenol," ac, afraid ydyw dyweyd i gyfeillion ieuainc y lie gael gwledd o'r fath oreu gan fod y rhan fwyaf o honynt yn ddieithr i hanes boreuol yr eglwys. Cafwyd papyr maith a dyddorol-yn rhoddi ei hanes yn cychwyn (yn ddim ond saith o nifer) uwchben ystabl yn Chichester Road, hyd nes y daeth yn eglwys gref; a hyfryd ydoedd deall fod un o'r saith-yr hwn oedd prif foddion y cychwyniad, sef Mr. W. Hughes, 4, Woodfield Road-heddyw yn fyw ac yn iach, ac o hyd yn dal y swydd bwysig o flaenor yr eglwys. # Cafwyd hefyd, hanes amryw o'r rhai a fu yn brif golofnau yr achos drwy'r blynyddau, ac nid y lleiaf o honynt yw yr hen frawd anwyl, Mr. Hugh Edwards-yr hwn, er fod pwysau blynyddau ar ei ysgwyddau, sydd eto a'i ysbryd mor ieuanc ag erioed, ac a'i holl egni yn cydweithio gyda'r bobl ieuainc. Hir oes iddo. Cafwyd gair byr hefyd gan amryw o ael- odau, a'r oil yn datgan eu diolchgarwch i Mr. Anthony am ei bapyr llafurfawr. Y mae rhyw ddyddordeb anghyffredin yn perthyn i bapyr o'r natur yma. Llywyddwyd, fel arfer, gan Mr. Humphrey Hughes.

Advertising