Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

6yd y Iplllll Ban. c/

News
Cite
Share

6yd y Iplllll Ban. c/ Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] "DINYSTR POMPEII." Dyma enw y darn, am ganu pa un y bydd y corau meibion yn ymgeisio am wobr yn Eisteddfod bwysig y Queen's Hall, hefyd yn Eisteddfod Genedl- aethol Llanelli. Bu y pwyllgor yn ddoeth i gael yr un darn i gystadlu arno ag a geir yn yr Wyl yn Llundain, a thebyg y bydd y mwy- afrif o'r corau fyddant yn canu yn y naiil Wyl yn canu yn y llall. Gan ei fod yn ddernyn gwobrwyol yn Eisteddfod Merthyr, y mae hyny ynddo ei hun yn ddigon obrawf o'i deilyngdod, heb i ni fanylu ar ei wahanol ranau. Hwyrach y bydd yn fwy buddiol i'n darllenwyr yn gyffredinol pe dodem yma eiriau y darn: gwelant felly y fath gyfle sydd ynddynt i ddesgrifio ar gan —o ba gyfle y mae'r cyfansoddwr wedi man- eisio i'r eithaf eisio i'r eithaf Symudiad laf. Y mynydd oedd yn oysgu, Ac yn breuddwydio'n drwm A natur yn mwynhau ei hun Ar hyd y creigiau llwm. Diddial oedd ei fynwes, A siriol oedd ei nen A chanai'r awel hyd yr hwyr Ei salmau ar ei ben. Ail symudiad. Y ddinas gynhyrfus i lawr wrth ei odreu Ymlonai yn ddifyr heb galon yn nin Llawenydd a glywid 0 fewn y palasau, A'i moethus benaethiaid yn feddw gan win Gweryrai y meirch ar heolydd o f armor, A'u ffroenau yn mygu, eu llygaid yn dan Gogoniant Italia, ei balchder a'i thrysor, Lie dawnsia ysbrydion gorfoledd a chan. 3ydd Symudiad. 0 gyndyn ddinas! dy anuwioldeb mawr Seliodd dy dynged, a daw dy rwysg i lawr. Prysuso mae'th ddiwedd, a chyn toriad dydd, Vesuvia ffiamia I a, Pompeii mwy ni fydd. 4ydd Symudiad. Ust! mae cynhwrf yn y mynydd, Crynu mae ei galon gref: Y mae angeu ar y creigydd, Ac mae difrod yn y nef. 5ed Symudiad. Mae'r storm yn curo'n gynt yn gynt Fel oawod danllyd ar ei hynt. Ffown! rhag y tan a'r distryw, Ffown rhag y marwol ddiluw. 6ed Symudiad. Rhy hwyr y tan sy'n trechu, Rhy hwyr! ein nerth sy'n pallu. EPILOGUE Mae soriant yr lor tuhwnt i bob dirnadaeth, Ofnadwy Ei lid, a'i farnau yn farwolaeth Mae'r ddinas yn fud, yn lludw aath ei choron, Ei balchder a'i chlod orweddant yn adfeilion! 0 dynged ddu I Ofnadwy Farn Y mae egluro y geiriau rhagorol hyn o eiddo Dyfed, ar gan, yn orchestwaith, fel y cydnebydd y darllenydd ac i'n tyb ni, y mae'r gerddoriaeth yn ddeongliad byw o'r farddoniaeth. Edrychwn ymlaen at yr adeg pan y cawn wrandaw ar ddadganiad o'r darn hwn yn y Queen's Hall, a chynghorwn bawb, ag a allant, fanteisio ar yr un cyfle. RUSKIN FEL CERDDOR. I lawer, bydd yn syndod clywed fod y beirniad celfyddydol coeth hwn yn gerddor; ond, yn ol yr hyn a ddarllenwn yn Good Words, yr oedd Ruskin yn un o ddilynwyr cywir Duwies y gan. Pan yn Oxford, byddai yn cymeryd gwersi mewn cerddoriaeth; ac ni roddodd hwynt i fyny ar ol gadael y Brifysgol. Yr oedd yn meddu llais soniarus, yr hwn oedd o dan reolaeth dda. Hoffai donau digrifol. Unwaith mynai i Syr Edward Burne-Jones fyned gydag ef i wrandaw ar y Christy Minstrels, a rhaid oedd aros hyd y diwedd, gan fel y mwynheid antics a chanu y gwyr ducn ———— Ar ol difyrwch cerddorol, gofynai am ryw- beth mwy sylweddol mewn cerddoriaeth. Hoffai hen alawon Seisnig, Ffrengig ac Ys- gotaidd; hefyd, gerddoriaeth llillrnynaidd. Haydn a Mozart a ddosberthid ganddo gyda'r Italiaid: a Handel gyda'r hen standards oedd- ynt i'w hedmygu. Mendelssohn nis gallai ei oddef. Nis hoffai chwareuad di-deimlad; ec ni chaffai y brilliant young lady pianist" groes- awiad ganddo. Am y cyfansoddwr Corelli meddyliai yn uchel, a phrynai yr oil a allai gael o'i gerddoriaeth ef; ond druan o Corelli, y mae bron wedi ei anghofio, er cymaint ydoedd hoffder Ruskin o hono I Oddeutu'r flwyddyn 1880, ac am ysbaid o ddeng mlynedd ar ol hyny, byddai Ruskin yn cyfansoddi man ddarnau; ond er ei holl ymgais, ac er ei fawr hoffder o gerddoriaeth, nid oedd yn y gwr mawr hwn ronyn o dalent y cyfansoddwr.

YMWELIAD CYMRO A'R AMERICA.

[No title]

Advertising