Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Y Dymsioim

ADDYSG AC IAWNDER. j

News
Cite
Share

ADDYSG AC IAWNDER. Er fod y Senedd wedi dod ynghyd, na foed i neb gredu fod helynt y Mesur Addysg i gael ei gyfyngu i furiau St. Stephan o hyn allan. Y mae'r wlad wedi ei chynhyrfu drwodd, ac unwaith y dihunir cydwybod gwlad nid yw yn myn'd i hepian mwyach nes bo'r camwri wedi ei glirio yn llwyr. Mae'r adeg yn un a hawlia bob ymdrech ar ran Ymneullduwyr a charwyr rhyddid er dinystrio a llethu y Bil presenol. Dyna'r unig ffordd i sicrhau cyf- iawnder gwlado!, a dyna'r unig ffordd hefyd i osod addysg y wlad yn addysg deilwng o honom fel pobl rydd a phobl sydd yn dyheu am y goreu ymhob peth er ein lies. Yn ei areithiau diweddar, hona Mr. Balfour mai ffug i gyd yw'r cynwrf presenol, ac mai dim ond culni enwadol sydd gyfrifol am dano. Wrth ei glywed yn siarad, gallesid meddwl mai efe yw pen-gynghorwr y byd ysbrydol, ac yn ei ddull Cecilaidd heria bob gwrthwyneb- iad ar ran Ymneullduwyr y wlad. Wel, boed felly, ond cofier mai nid efe yw'r cyntaf o linach y teulu sydd wedi ceisio herio Ym- neuduaeth yn flaenorol; ond y mae'r gallu hwnw a heria, erbyn hyn, yn ddigon cryf i wynebu pobl o safle Mr. Balfour, er ei fod yn arwain plaid gref; a hwyr neu hwyrach bydd raid i Balfour lyfu y llwch oherwydd nid peth i chwareu ag ef yw rhyddid cydwybod ac iawnder gwladol. Y mae'r Ymneillduwyr mor selog dros addysg a neb. Ar hyd y canrifoedd y maent wedi gwneyd eu rhan yn deilwng, ochr yn ochr ac ysgwydd wrth ysgwydd a'r Eglwys- wyr. Haerllugrwydd o'r mwyaf yw honi mai Eglwyswyr Cymru sydd wedi adeiladu yr holl ysgolion cenedlaethol. Mae'n wir mai hwynt-hwy oeddent gychwynwyr y mudiad, ond gan yr Ymneillduwyr y cawsant y gyfran fwyaf o'r arian tuagat eu hadeiladu. Gwyddom am ddegau o ysgolion yn ein gwlad a ffurfid ynglyn a'r Eglwysi i ddechreu, ac a adeilad- wyd drwy apel at, a chymhorth hael oddiwrth, Ymneullduwyr y cylch; eto i gyd, gelwir yr ysgolion heddyw yn ysgolion yr Eglwys, a gwneir yr oil a ellir i bardduo ymdrechion y rhai a gyd-weithiasant a hwy. Amcan mawr y pleidiau gynt oedd cyfranu addysg i blant y cylch, a phe baem ninau yn yr oes hon a'n golwg ar wella addysg yn unig, ni chawsid mo'r Mesur anghynawn hwn o flaen y Senedd. Hawlia iawnder gwladol arnom i wneyd yr oil a allom i'w ddifetha, am mai un o gredoau mwyaf cysegredig yr oes yw, na ddylid talu treth ond at achosion a reolir gan y cyhoedd. Hawlia Mr. Balfour a Chamberlain fod genym gyfleusderau i reoli arian y cyhoedd ynglyn a'r Mesur hwn. Mae'n wir y caniateir i un gwr allan o chwech ar bwyllgor lleol fod yn gynrychiolydd y cyhoedd, ond rhaid i'r pump ereill fod yn bleidiol i glerigaeth; a ffolineb, os nad, yn wir, twyll hollol, yw dyweyd fod cael un gwr cyhoedd allan o chwech yr hyn a gyfrifir yn reolaeth gy- hoeddus. Dyma ddrwg penaf y Bil, a chyn byth y dylai Ymneillduwyr Prydain ddistewi yn eu gwrthwynebiad iddo dylid yn anad dim hawlio yr iawnder sylfaenol hyn.

CYMRY LLUNDAIN A'R MESUR ADDYSG.

[No title]

Advertising