Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
'PREPAID WANTS. Every Advertisement must be accompanied with remittance in full. initials count as one word, and names and address Charged for. Replies may be sent to the Office of this paper and will be duly forwarded to Advertiser. Remittances should be made by P. Order or Halfpenny Stamps. 12 words; Once 6d. Three times 1/- ,20 „ ,,9d, „ „ 1/3 28" „ t/- » » 1/6 36" ,• i/3 » 1/9 44 „ 1/6 „ „ 2/- Every additional 8 words 3d. DYN Parchus yn eisieu i werthu Llyfrau Cymreig. Tal da. Cyfeirier, Box 4, 24, High Street. Carnarvon. YOUNG Lady (Welsh) wants Situation in Dairy, JL look after house and shop, experienced.-A., 95, Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. BED-SITTING Room and Partial Board required B by Young Man in Kensington. Terms must be moderate.-Apply, "Dyffrynwr," Celt Officce, 211, ,Gray's Inn Road, W.C. AN experienced Welsh-speaking Nursemaid wanted, Wages £ 18.—Apply Mrs. John, 18, Fitzroy Street, London, W. FURNISHED Bedroom for One or Two Gentlemen. Convenient for railway and 'bus.—Apply, West End, Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.O. End," Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. DAIRy.-Young Lady wanted for Housework and assist in the Shop.—" J. H. Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. COMFORTABLE Home offered Lady in return C for small sum weekly and assistance in light ■ duties.—J., 3, Rosslyn Crescent, Wealdstone, Harrow. DAIRY.—Wanted respectable Young Woman as General and assist in Shop.—Apply N.B., Kelt SDffice, 211, Gray's Inn Road, W.C. ACCOUNTS.—TO DRAPERS, DAIRYMEN, &c.— Professional Accountant is prepared to write up and audit Books, prepare Balance Sheets and Profit and Loss Accounts. Terms moderate.-Apply Audit," Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. EGGS! WELSH EGGS! Finest quality, delivered FA fresh from best Firm in Wales. "Gwledd Gymreig Oddicartref.Apply, Ceredigion," Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. T ESSONS IN WELSH by an experienced Teacher. Jj Pupils visited at their own homes or received in Teacher's residence. Evening lessons at moderate charges, and a thorough course of the language given on the most approved modern method.-Write to 4' Athraw," Celt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C.
Y Dymsioim
Y Dymsioim [c;¡r Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynhal, er mwyn ahoddi hysbysrwydd amserol yn y golofn hon.] 1902. ———— Hydref „ 18. Castle Street. Cyfarfod Agoriadol yr Undeb. „ 18,19, a'r 20. Mile End Road. Cyfarfodydd Pregethu Blynyddol. 19 a'r 20. Capel City Road. Cyfarfod Blynyddol. .„ 21. Eglwys Dewi Sant. Cyfarfod Agoriadol y Gymdeithas Lenyddol. „ 29. Cyngherdd Blynyddol Clapham Junction. .„ 30. Cyngherdd Blynyddol Eglwys St. Padarn yn y Queen's Hall. „ 30. Shirland Road. Grand Concert and Tea. „ 30. Wilton Square. Cyfarfod Ordeinio'r Parch. G. Havard, B.D. „ 30. City Road. "Coffee Supper." 'Taohwedd 6. Cyngherdd yn y Queen's Hall, People's Palace, Mile End Road. „ 9-10. Gothic Hall. Cyfarfod Pregethu Blynyddol. „ 11. Cyngherdd Blynyddol St. Benet. 33. New Jewin. Cyfarfod Cystadleuol. „ 20. Gothic Hall. Darlith gan Mrs. John Evans (Eglwysbach). „ 20. Cyfarfod Te Blynyddol Radnor Street, Chelsea. „ 20. Cyngherdd Blynyddol Capel Stratford. „ 20. Capel Sussex Road, Holloway. Cyngherdd a The Blynyddol. „ 21. Cyngherdd Cwcwll, yn yr Holborn Town Hall. „ 27. Queen's Hall, Cyngherdd Dewi Sant. Rhagfyr „ 4. Cyngherdd Barrett's Grove yn Shoreditch Town Hall. „ 25 (Nos Nadolig). Cartref oddi Cartref" yn Jewin. 1903 Ionawr. „ 21. Holborn Town Hall. Cyngherdd Cor Meibion Gwalia." Chwef. 18. Eisteddfod Queen's Hall. Mawrth „ 11. Falmouth Road. Eisteddfod y Plant. „ 26. Cymdeithas Jewin, Cyfarfod Terfynol y Gymdeithas Ebrill „ 23. Cymanfa y Methodistiad yn Jewin Newydd. ———————
ADDYSG AC IAWNDER. j
ADDYSG AC IAWNDER. Er fod y Senedd wedi dod ynghyd, na foed i neb gredu fod helynt y Mesur Addysg i gael ei gyfyngu i furiau St. Stephan o hyn allan. Y mae'r wlad wedi ei chynhyrfu drwodd, ac unwaith y dihunir cydwybod gwlad nid yw yn myn'd i hepian mwyach nes bo'r camwri wedi ei glirio yn llwyr. Mae'r adeg yn un a hawlia bob ymdrech ar ran Ymneullduwyr a charwyr rhyddid er dinystrio a llethu y Bil presenol. Dyna'r unig ffordd i sicrhau cyf- iawnder gwlado!, a dyna'r unig ffordd hefyd i osod addysg y wlad yn addysg deilwng o honom fel pobl rydd a phobl sydd yn dyheu am y goreu ymhob peth er ein lies. Yn ei areithiau diweddar, hona Mr. Balfour mai ffug i gyd yw'r cynwrf presenol, ac mai dim ond culni enwadol sydd gyfrifol am dano. Wrth ei glywed yn siarad, gallesid meddwl mai efe yw pen-gynghorwr y byd ysbrydol, ac yn ei ddull Cecilaidd heria bob gwrthwyneb- iad ar ran Ymneullduwyr y wlad. Wel, boed felly, ond cofier mai nid efe yw'r cyntaf o linach y teulu sydd wedi ceisio herio Ym- neuduaeth yn flaenorol; ond y mae'r gallu hwnw a heria, erbyn hyn, yn ddigon cryf i wynebu pobl o safle Mr. Balfour, er ei fod yn arwain plaid gref; a hwyr neu hwyrach bydd raid i Balfour lyfu y llwch oherwydd nid peth i chwareu ag ef yw rhyddid cydwybod ac iawnder gwladol. Y mae'r Ymneillduwyr mor selog dros addysg a neb. Ar hyd y canrifoedd y maent wedi gwneyd eu rhan yn deilwng, ochr yn ochr ac ysgwydd wrth ysgwydd a'r Eglwys- wyr. Haerllugrwydd o'r mwyaf yw honi mai Eglwyswyr Cymru sydd wedi adeiladu yr holl ysgolion cenedlaethol. Mae'n wir mai hwynt-hwy oeddent gychwynwyr y mudiad, ond gan yr Ymneillduwyr y cawsant y gyfran fwyaf o'r arian tuagat eu hadeiladu. Gwyddom am ddegau o ysgolion yn ein gwlad a ffurfid ynglyn a'r Eglwysi i ddechreu, ac a adeilad- wyd drwy apel at, a chymhorth hael oddiwrth, Ymneullduwyr y cylch; eto i gyd, gelwir yr ysgolion heddyw yn ysgolion yr Eglwys, a gwneir yr oil a ellir i bardduo ymdrechion y rhai a gyd-weithiasant a hwy. Amcan mawr y pleidiau gynt oedd cyfranu addysg i blant y cylch, a phe baem ninau yn yr oes hon a'n golwg ar wella addysg yn unig, ni chawsid mo'r Mesur anghynawn hwn o flaen y Senedd. Hawlia iawnder gwladol arnom i wneyd yr oil a allom i'w ddifetha, am mai un o gredoau mwyaf cysegredig yr oes yw, na ddylid talu treth ond at achosion a reolir gan y cyhoedd. Hawlia Mr. Balfour a Chamberlain fod genym gyfleusderau i reoli arian y cyhoedd ynglyn a'r Mesur hwn. Mae'n wir y caniateir i un gwr allan o chwech ar bwyllgor lleol fod yn gynrychiolydd y cyhoedd, ond rhaid i'r pump ereill fod yn bleidiol i glerigaeth; a ffolineb, os nad, yn wir, twyll hollol, yw dyweyd fod cael un gwr cyhoedd allan o chwech yr hyn a gyfrifir yn reolaeth gy- hoeddus. Dyma ddrwg penaf y Bil, a chyn byth y dylai Ymneillduwyr Prydain ddistewi yn eu gwrthwynebiad iddo dylid yn anad dim hawlio yr iawnder sylfaenol hyn.
CYMRY LLUNDAIN A'R MESUR ADDYSG.
CYMRY LLUNDAIN A'R MESUR ADDYSG. Da genym weled fod Ymneullduwyr Cym- reig y Brifddinas wedi dihuno i'w cyfrifoldeb ac wedi datgan o'r diwedd eu protest yn erbyn y Mesur Addysg presenol. Nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf, bu cynrychiolwyr yr Anibynwyr yn cynhal cyfar- fod yn Chelsea o dan lywyddiaeth y Parch. R. Rowlands, Barrett's Grove ac ar gynyg- iad y Parch. J. Machreth Rees, pasiwyd y penderfyniad cadarn a ganlyn:- Fod y cyfarfod hwn o weinidogion a chynrychiolwyr eglwysi Anibynol Cym- reig Llundain yn datgan ei wrthwynebiad pendant i'r Mesur Addysg sydd yn awr ger bron y Senedd, am ei fod yn darparu i ddefnyddio arian y cyhoedd i gynhal ysgolion na bydd gan y cyhoedd reolaeth gyflawn drostynt, ac hefyd am ei fod yn hollol groes i egwyddorion rhyddid a chydraddoldeb crefyddol. Ymhellach, yr ydym yn datgan ein penderfyniad diysgog a difrifol i beidio talu treth addysg os mynir basio y Mesur hwn yn ddeddf." Eiliwyd y cynygiad gan y cadeirydd ei hunan, a phasiwyd ef mewn distawrwydd; ond gobeithio fod ysbryd digon pendant yn yr Anibynwyr ar y pwnc fel y gwnant eto lynu wrth yr hyn a gymeradwywyd ganddynt yng ngeiriad y penderfyniad. Anfonir copi o'r uchod i Mr. Balfour ac ereill o fawrion y Weinyddiaeth, a diau y gwna protest fechan Chelsea ei rhan tuagat ddwyn y Mesur yn uuol a daliadau yr Ym- neullduwyr. Yr wythnos nesaf eto, y mle'r Methodistiaid yn eu Cyfarfod Misol hwythau yn bwriadu trin &'r Mesur, a diau y byddant yn llawn mor gondemniol arno ag y bu yr Anibynwyr eu hunain. Er hyn oil, y mae Cymry unedig Llundain heb gael cyfle i ddatgan eu barn arno, a chredwn pe trefnai un o'r cymdeithasau an- enwadol yma gyfarfod, a chael rhai o'r aelodau Seneddol yno, y ceid fod y teimlad mor gryf yn ei erbyn yn Llundain ag mewre unrhyw adran o'r Hen Wlad ei hunan. Yr hyn sydd ei angen yn awr yw, prawf eglur fod yr holl wlad yn ei erbyn ac yn barod i wneyd pob peth o fewn eu gallu er cynal ysgwyddau- yr aelodau sydd yn ymladd mor rhagorol yn ei erbyn ar lawr y Senedd.
[No title]
Son am dalu cynrychiolwyr Seneddol mae rhai pobl, ond beth a ddeuai o Gymru druan pe cerid y cynllun hwnw allan? Yn ein gwlad fach ni, yr ydym wedi ein llyncu gymaint gan yr hen arferion fel y mae galw mawr am danysgrifiad blynyddol oddiar yr aelod ei hun er cadw y Gymdeithas Ryddfrydol leol rhag myned i ddyled. Mae eisieu diwygiad yn hyn o beth yn sicr.
Advertising
I GRELLIER A'l FAB, I ARGRAFFWYR, 211, GRAY'S INN ROAD.