Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
PRIODAS MISS MATTIE DAVIES…
PRIODAS MISS MATTIE DAVIES A MR. D. J. MORGAN. & Yng Nghapel Cymraeg Holloway, dydd Mawrth diweddaf, unwyd mewn glani briodas, Miss Mattie Davies-merch Mr a Mrs. Thomas Davies, Cottenham Road, a Mr. D. J. Morgan (Civil Engineer, H.M. Dockyard, Devonport), a mab i Mr. a Mrs. Morgan, Chemist, King's Cross. Yr oedd y briodas hon yn un o'r rhai mwyaf dyddorol, yn ddiau, a gymerodd le yng Nghapel Holloway erioed. Daeth y partïon yno yn brydlon i'w hamser, ac yr oedd torf fawr wedi ymgynull i'r addoldy i fod yn dystion o'r uniad cysegredig ac i roddi eu dymuniadau da i'r ddeuddyn hawddgar ar ddechreu bywyd newydd. Anfynych iawn y gwelir nifer mor fawr, ar ddiwrnod gwaith, yn gwylio priodas; ac y mae y ffaith yma yn 9 1 awgrymu fod y par ieuanc hwn yn uchel iawn eu parch ymhlith ein cyd-ddinasyddion. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Llewelyn Edwards, yr hwn a aeth drwy y gorchwyl mewn dull dymunol iawn. Rhodd- wyd y briodferch ymaith gan ei thad, Mr. Thomas Davies; a Mr. R. J. Morgan oedd y dyn goreu." Y rhai canlynol oeddynt y morwynion priodas :—Miss Rosy Davies, Miss Anna Morgan, Miss Florrie Davies, Miss Katie Davies, a Miss Louie Davies. Yr oedd golwg hardd arnynt gyda'u blodeudyrch. Gwnaeth yr organydd-Mr. Gwilym Rowlands—ei waith yn rhagorol. Chwareuwyd ganddo The Bride's March a'r < Wedding March,' a chawsom bleser wrth wrando arno. Ar ol y briodas, cludwyd y par ieuanc hapus i dy rhieni'r briodferch, lie yr ymgym- erwyd o foreufwyd ag oedd wedi ei barotoi. Gwnaed amryw areithiau, &c. Yna ymad- awodd Mr. a Mrs. Morgan am Eastbourne, i dreulio eu mis met. Y mae'r anrhegion a dderbyniasant yn rhy liosog i'w henwi. Dym- unwn iddynt lwydd. Bu cartref newydd fydd 13, Home Park, Saltash, Cornwall. Bywyd o haf boed o hyd Yn hedfan uwchben adfyd." Yn yr hwyr cafwyd gwledd hapus iawn, ac yr oedd y cwmni difyr yn gynwysedig o amryw dalentau cerddorol, megis Madame A. Williams, Mr. Grist, Mr. Dan Davies, Mr. Ivy Jenkins, Mr. H. O. Davies, Mr. Jack Davies, Mr. Gwilym Rowlands, &c. Yr oedd y trefn- iadau o'r dechreu i'r diwedd yn glod i Mr. R. J. Morgan. Terfynwyd y wledd gydag oriau man y boreu.
HYN A'R LLALL.
HYN A'R LLALL. Cynhelir cyfarfod agoriadol Cymdeithas Eglwys Dewi Sant, Paddington, nos Fawrth -Hydref 2 I ain-o dan lywyddiaeth llywydd y gymdeithas. Bydd yno ganu, adrodd ac areithio o'rradd flaenaf,a rhoddirydanteithion yn ystod yr hwyr gan Mrs. Watkins, Earl Street. Dechreuir yn brydlon am 8, a bydd y mynediad i mewn trwy docyn swllt y gym- deithas. Nos Fercher, Hydref yr 8fed, caed cyng- herdd agoriadol ynglyn a Chymdeithas Len- yddol Walham Green, a chafwyd cynulliad rhagorol. Croesawyd pawb i mewn trwy roddi iddynt wledd odea danteithion amryw- iol, y rhai a roddwyd gan Mrs. John Thomas, Warwick Road-yr hon, erbyn hyn, sydd yn enwog am ei haelfrydedd a'i charedigrwydd. Rhwng sirioldeb a gwenau y boneddigesau oedd yn gweini wrth y byrddau ynghyd a'r te blasus a fwynhawyd, braidd yn hwyrfrydig oedd rhai o'r bechgyn ieuainc i godi oddiwrth y ford, yr hyn sydd yn cyfrif na ddechreuwyd mo'r cyfarfod mor brydlon ag y dymunid; ond cafwyd mwy nag ad-daliad Ilawn am yr oediad yma cyn terfynu y noson. Llwyddwyd i sicrhau gwasanaeth "The Cymric Glee Singers." Mawr oedd y mwyn- had a gafwyd wrth wrando arnynt yn canu. Nid buan yr anghofir eu gwasanaeth rhad, ynghyd a'r dadganiad rhagorol a gafwyd ganddynt. Hefyd, cawsom y pleser o wran- draw ar Miss Myfanwy Jones, R.A.M. Yr oedd ei dadganiad o a Myfi sy'n magu'r baban yn hynod swynol ac effeithiol. Cawd, hefyd, adroddiad gan Mr. Carodog Evans, a chanwyd hen alawon Cymreig yn effeithiol gan Messrs. David Jones, J. Evans. Chwar- euwyd yn fedrus a meistrolgar ar y crwth gan Mr. Craft. Cafwyd anerchiad byr a phwrpasol gan y llywydd, y Parch. J. Tudno Williams, M.A. Dywedai fod y gymdeithas wedi dechreu yn addawol iawn; a gwnaeth apel at yr ieuenc- tyd am beidio mynychu cyfarfodydd y te yma ar draul esgeuluso rhai mwy sylweddol, sef y rhai hyny sydd yn cael eu nodweddu gan ffrwyth llafur, dysg, a thalentau, pa rai sydd gymwys ac addas i ddiwyllio meddyliau ein pobl ieuainc. Y mae llwyddiant y cyfarfod hwn, ynghyd a threfnusrwydd y rhaglen, i'w briodoli i Mri. Teify Lloyd a John Pughe, ysgrifenyddion y gymdeithas, y rhai ydynt wedi bod yn hynod ddiwyd ac ymdrechgar yn y lie. Cynhaliwyd y Cyfarfodydd Diolchgarwch yn Eglwys Dewi Sant, Paddington, ddydd Sul a nos Lun diweddaf, pryd y pregethwyd gan y Parch. Ebenezer Lloyd, B.A., ficer Llan- sadwrn a Llanwrda, sir Gaerfyrddin. Dyma y tro cyntaf i Mr. Lloyd ymweled ag un o Eglwysi Cymreig y Brifddinas fel pregethwr, ond credwn yn hyderus mai nid dyma y tro olaf, ac y ceir ei glywed ef eto yn y dyfodol. Traddodwyd pregeth Seisnig yn y prydnawn am 3.30 gan y Parch, a'r Anrhyd. James Adderley, M.A., ficer St. Marc, Marylebone Road. Canwyd unawd yn yr un gwasanaeth gan Miss Gordon, sef Ave Maria." Yn yr hwyr, canwyd yr unawd, (i A dream of Paradise" gan Miss Mary Pierce, Dudley Road; ac hefyd yr unawd" Thou'rt gone from hence gan Mr. J. Harris, Brixton, nos Lun. Llafarganwyd y gwasanaeth gan y Parch. Mr. Davies, Kilburn, a phregethodd Mr. Lloyd drachefn. Cafwyd cynulliadau lluosog trwy y cyfarfodydd, ac arweiniwyd y canu gan Mr. David Jones, organydd Dewi Sant. —— Cafwyd cynulliadau mawr yng Nghapel Wilton Square, y Sul diweddaf, ar achlysur eu cyfarfod pregethu blynyddol. Yr oedd yr Achos Mawr yn cael ei bregethu gyda grym anarferol. Y Parchn. John Williams, Princes Road, a William Jenkins, Ty Ddewi, oedd yn gweinidogoethu. Rhwng y canu gwresog a'r pregethu hwyliog yr oedd yr oedfaon yn fanteisiol iawn i'r bobl.
Advertising
CAPEL CYMRAEG MILE END ROAD (Yn ymyl Stepney Green Station). CYNHELIR CYFARFODYDD BLYNYDDOL Y LLE UCHOD HYDREF 18fed, 19eg, a'r 20fed, 1902. Pregethir gan y Parchedigion, JOHN HUGHES, M.A. LIVERPOOL; A H. ELFED LEWIS, HARECOURT CHAPEL. TREFN TR OEDFAON— Nos Sadwrn, am 7.30. Parch. JOHN HUGHES Boreu Sul am 10.44. „ JOHN HUGHES Prydnawn Sul am 2.45 „ ELFED LEWIS Nos Sul „ 6.30 „ JOHN HUGHES Nos Lun 7 f » ELPED LEWIS ijUn » I „ JOHN HUGHES Casgliad ym mhob oedd at y Gronfa. Adeiladu. CYNGHERDD ER BUDD YR HEN FARDD "CWGWLL" I GYMERYD LLE NOS WENER. Ta-ch,wedd 2,1. iga% YN YR HOLBORN TOWN HALL. CADEIR YDD- Timothy Davies, Ysw., C.S.LI. (Maer Fulham). Bydd y cantorion a'r cantoresau enwog can- lynol yn gwasanaethu Miss Gertrude Hughes (Soprano) Madame Juanita Jones (Contralto) Mr. Thomas Thomas (Tenor) Mr. Meurig James (Baritone) a'r byd-enwog GOR MERCHED Y KYMRIC (0 danarweiniad Miss FRANCES REES) Hefyd y crythor Cymreig poblogaidd Mr. Philip Lewis Cyfeilir gan Miss Jennie Jones A Mr. Merlin Morgan CYSTADLEUAETH I FARITONE. AM Y DADGANIAD GOREU O'R GAN "The Bugler," RHODDIR Cwpan Arian Hardd. Enwau yr ymgeiswyr ar yr Unawd Baritone* i fod yn Haw yr Ysgrifenyddion erbyn y dydd Sadwrn blaenorol i'r Cyngherdd, set Tachwedd 15fed. Cadeirydd y Pwyllgor: R. T. OWEN, Ysw., Capel Holloway. Trys. ac Ymddiriedolwyr: W. J. LEWIS, Ysw., Tabernacl, a L. H. ROBERTS, Ysw., Wilton Square. Gellir cael tocynau i'r cyngherdd oddiwrth yr ysgrifenyddion ac aelodau y pwyllgor. Ysgrifenyddion:— I. DAVIES, 65, Wynyatt Street, Goswell Road, E.G. E. THOMAS, 3, Warburton Street, Mare Street, Hackney.