Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

I BEN CARNEDD LLEWELYN.

News
Cite
Share

Cader Idris driphig, ac Aran Fowddwy,—a rhyngom a hwy fynyddoedd y Rhinog a Llethr yn Ardudwy. Yn y dwyrain yr oedd y tarth yn gaddug gan guddio Dyffryn Clwyd a Moel Fammau o'r golwg". Wedi maith a chraff syllu o'n cwmpas, daeth yr amser i ddisgyn, ac i lawr a ni ar hyd y llechwedd sydd yn arwain i Gwm Eigiau. Yn mhen y cwm hwn y mae adfeilion hen chwarel lechi, ac yn is i lawr y mae ffermdy Cedryn. Yno rig gwraig garedig, radlon, o'r enw Mrs. Williams, ac yno cafwyd tipyn o luniaeth a sgwrs. Fy mhrofiad i pan yn teithio drwy Gymru yw, fy mod yn cael mwy o barch gan iy nghydwladwyr os cyfarchaf hwynt yn Saes- sieg yn hytrach nag yn eu hiaith eu hunain; end y tro hwn mi dalodd i siarad Cymraeg. Fe gawsom gwpanaid o de a bara 'menyn rhyfeddol o dda, am i ni siarad Cymraeg. Pe buasem wedi siarad Saesneg ni fuasem wedi cael dim Y mae hon yn ffaith mor ihynod yn fy mhrofiad i wrth drampio Gogledd Cymru, fel y mae yn werth ei chofnodi. Y mae Cedryn bum' milldir o'r pentref agosaf; a rhaid anfon y plant i'r ysgol foreu Llun mewn cerbyd, a'u gadael yn y pentref mewn llety hyd ddiwedd yr wythnos. A'r fath bum' mtUdir Ffordd drol arw yw'r ffordd, ac nid yw yn anyddorol ar y cychwyn. Y mae Pen Llithrig yn gostwng ar i waered ar y dde, a Llyn Eigiau ar y chwith yn derbyn anwes ..sarug gan greigiau geirwon Clogwyn Eira. O'r llyn hwn, rhed yr afon Porthlwyd, ac wedi .croesi'r afon, y mae tua thair milldir a haner i'w cerdded drwy ffridd wastad-un dead ..level llethol. Cyfeiria'r ffordd at gwm yr afon Dulyn sy'n cychwyn o lyn yr ochr arall i'r Clogwyn Eira, ac ar ei hyd y mae yn rhaid bellach drampio yn ddygn hyd nes y deuir i ben yr allt uwchben dyffryn Conwy. Y mae'r filldir ddiweddaf yn disgyn ar ei phen ar hyd ffordd serth igamogam i'r dyffryn. Ond ar bob cornel i'r ffordd drofaus y mae yn werth aros i syllu ar gwm prydferth yr afon Dulyn yn ei rhediad afrosgo dros y creigiau a sthrwy'r coed. Sut yr eir a throl i fyny neu i lawr y ffordd yma, ni wn i,-ond fe wneir ihyny rhywfodd. Wedi dyfal dramwy a blin ysgwyd esgeiriau ar y ffordd arw, cyrhaedd- wyd y gwastattir yn y dyffryn yn y man yn ymyl Talybont, honglad o bentre bach di- drefn. Anifyr cerdded ar hyd ffordd bost wedi tramwyo'r mawndir, a chroeswyd gyda "chryn bleser at hen Eglwys Caerhun, heibio i Conovium yr hen Rufeiniaid, ac oddiyno ar hyd glanau'r afon, drwy gaeau yd a choed i orsaf Talycafn. Oddiyno adref-wedi blino yn anferth.