Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

DYLEDSWYDD Y CYMRY I DDYSGU…

I BEN CARNEDD LLEWELYN.

News
Cite
Share

I BEN CARNEDD LLEWELYN. Awst 4,1902. A fyno ddringo i ben Carnedd Llewelyn, coded yn gynar. Nid oes tren i gludo'r dringwr at ei throed, ac nid oes neb eto wedi ei anharddu drwy anfon "puffing billy bach gwirioni'wphen. Mellditharynebwnelo hyny Ac y mae o blaid y Garnedd, nad mynych y gwelir arni haid o Saeson trwstfawr sy'n siarad fel pe baent yn argiwyddi'r holl greadigaeth. Mae mwy nag un ffordd i ben y Garnedd, a mwy fyth o fifyrdd o'i phen-a rhai o honynt yn rhy fyr i fod yn gysurus ac esmwyth. Y tro hwn cychwynodd dau o honom o'r Aber- gydag" Ordnance Map i'n harwain. Y mae y ffordd yn arwain trwy'r cwm coediog pryd- ferth y mae'r rhaiadr uwchaf yng Nghymru yn ei ben. Dyna i chwi raiadr I 'Rwyf wedi gweled Niagara, ond yr oedd darluniau o Niagaras wedi fy mharotoi, a phan y'i gwelais, teimlwrr fy mod wedi ei weled ganwaith o'r blaen. Ond y mae'r olwg gyntaf ar Raiadr Aber yn awgrymu fod rhyw gawr rhywle o'r tu cefn i'r creigiau yn codi llyn mawr ar ei ymylon, ac yn tywallt ei gynwys yn ffrwd-wyilt ferw dros ymyl y graig. Disgyna'r dwfr trochiog 0" gwm cul, cyfyng, drwy hafn fechan ar ben y dibyn i'r dyfnder islaw. Y mae'r llwybr a dramwyem yn croesi marian mawr ac o'r pellder yn edrych fel pe bae'n diweddu ynop. cyn cyrhaedd y creigiau ysgythrog a orwedd- ent ar ein ffordd. Ond erbyn cyrhaedd ynO" gwelem fod y llwybr yn myn'd ymlaen i ganol y rhyferthwy. Ambell dro, v mae ar lethr cul, craig noeth yn codi'n syth ar y naill law, a dibyn gan sythed a hithau ar y llaw arall. Dro arall, croesa welltglas llithrig-druan o'r bugail sy'n gorfod tramwyo'r llwybr hwn,. ddryccin a hindda, gauaf a haf! Anadleim yn rhwyddach wedi cael eu hunain yn ddiogei yn y cwm cyfyng uwchlaw'r rhaiadr; a rhedav, ias o ddychryn drwyddom wrth weled y dyff- ryn islaw yn y dyfnder pell, lie disgynai, yn y man, ddwfr y ffrwd a redai'n wyllt dan ein traed. Cwm yr Afon Goch yw enw'r cwm cul,-ond o gochni yr afon ni welais ddim"- Ar y chwith i ni, codai Craig Dolwen ei phen balch ddwy fil a chwarter o droedfeddi uwch- law'r mor draw. Tucefn iddi ymgodai Llwyd- mor bum' can' troedfedd yn uwch ond nid drostynt hwy yr eir i ben y Garnedd. Yr oeddi* ein taith ni yn arwain i fyny dros lechwedd gwelltog, syth, caled i'w ddringo; ac nid heb- fynych orphwys arno y daethwyd o hyd i'w gefn llydan. Oddiyno codai ffridd eang yn esmwyth-yn fawndir tra llaith ar brydiau, yn goed llys a grug dro arall ac fel rhyw wylwyr distaw o'r ddeutu iddo codai o ganol ei wyrddlesni garneddau o greigiau geirwors llwydion, a'r gwynt a'r gwlaw a'r rhew wedi gadael 61 eu bysedd yn drwm arnynt. Dyma'r Bera Bach a'r Bera Mawr-a rhyngddynt gorweddai ein llwybr. O'r tu cefn i ni, dros ben Moel Wnion yr oedd afon Menai a sir Fon yn edrych yn y tes fel cornel o wlad hud, Bellach, yr oeddem ddwy fil a haner o droed- feddi uwchlaw'r mor; a rhwng y llafur dringo a gwynt y mynydd, yr oedd natur yn galw yn lied groyw am gael gweini arni. Bu'r alwad yn effeithiol; ychydig fara 'menyn a the oer allan o botel phisig, a dyna'r cyfan, ond yr oedd yn dda odiaeth. Cychwyn drachefn gan! dybio mai'r mynydd uwchaf o'n blaen oedd y Garnedd, a dringo yn aiddgar gan feddwl fod y lludded bron ar ben ond ow! fel y cyr- haeddem ben y bryn, draw tuhwnt iddo ym- godai mynydd arall llawer uwch; ac erbyn ail-astudio y map, gwelem nad oeddym etc- ond ar ben yr Aryg, a mynydd arall drachefn o'n blaen cyn bod wrth droed codiad uwchaf y Garnedd. Nid oedd dim am dani bellach, ond myn'd a myn'd yn ddygn ac yn ddyfaL. dros ben y Foel Grach ac i lawr ei llechwedA llyfn, at droed bryncyn uwchaf y Garnedd. Yna, dyma grymu cefn a gwasgu'r fin b ddringo i ben y mynydd. Y mae'r Garnedd, fel y gweddill o fynyddoedd Arfon,-ei phen yn grynhoad o feini mawr a man mewn,, anhrefn aruthrol. Drwy'r meini hyn y try'r llwybr hyd at dwmpath cerig yr a Ordnance Survey." Eisteddasom i lawr drachefn yma i weini ar natur, ac yna edrych o'n cwmpas, Yn ein hymyl, yr oedd brodyr a chwiorydd y Garnedd: yr Elen a Braich y Brysgyll yn gostwng yn raddol yng nghyfeiriad Bethesdap Carnedd Dafydd yn gwylio dros Nant Ffrangcon a Llyn Ogwen,—Pen Helig, a Phenllithrig-y-wrach wrth ben Cwm Eigiau. Tuhwnt i Garnedd Dafydd, yr oedd y ddwy Clyder gyda'r Tryfaen o'r tu yma iddynt yn anamlwg yn v tes. Tuhwnt iddynt hwythau. drachefn, y Wyddfa gyda'i theulu hithau, y Crib Coch a'r Lliwedd, ac Elidyr Fawr i'r gogledd iddi-a draw, draw, ymhell outposts unig yr Eryri, yr Eifl. Drwy fwlch yn y mynyddoedd, dacw gip ar Lleyn a glanau'r mor yn Eifionydd; ac yn is i'r de, arfordir Meirion-rhywle islaw'r Bermo, mi dybiwn. Oddiyno yn ymestyn i'r dwyrain, yr oeddk