Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

DYLEDSWYDD Y CYMRY I DDYSGU…

News
Cite
Share

DYLEDSWYDD Y CYMRY I DDYSGU EtJ HIAITH. GAN EVAN LEWIS, Los ANGELES, CALIF. (Parhad). Gwneir camgymeriadau pwysig gan nifer mawr o Gymry, wrth ddysgu yr iaith Saesneg i'w plant ar yr aelwyd gartref, a hyny ar draul esgeuluso y Gymraeg, a gwreir hyny gan lawer o Gymry nas gallant siarad brawddeg yn gywir o'r iaith bono; y canlyn- iad yw i'r plant gael eu dwyn i fyny heb feddu ond un iaith, a hono wedi ei dysgu yn amher- ffaith iddynt. Pe bae rhieni yn peidio siarad dim ond Cymraeg a'u plant gartref, gan ym- drechu dysgu yr iaith iddynt, ac os yn angen- rheidiol eu gorfodi i'w dysgu, a gadael iddynt i ddysgu yr iaith Saesneg yn yr ysgolion, ac wrth gymdeithasu a phlant ereill oddiallan, deuai eu plant yn fedrus mewn dwy iaith a byddai eu Saesneg yn fwy perphaith, ac ar yr un pryd yn gallu y Gymraeg. Ceir esiampl nodedig o hyn gan yr Ellmyniaid. Sylwir fod plant y Cymry sydd wedi mabwys- iadu y cynllun hwn yn blaenori mewn siarad Cymraeg purach na'r Cymry unieithog, ac fod eu Saesneg yn fwy dilwgr. Yr unig gyf- leustra sydd gan blant Cymreig i ddysgu eu biaith, ydyw gyda'u rhieni, ac yn yr Ysgol Sul, ac os esgeulusir dysgu iddynt, mae y cyfrifoldeb i raddau mawr yn disgyn ar y rhieni. Gofidia llawer wedi cyrhaedd oedran hynach ac addfetach, wedi cael eu hunain yn amddifad o'u hiaith, ac yn yr olwg ar ei gwerth mewn cymdeithas Gymreig, clywir canoedd yn dyweyd, I wish I could speak it." Ceir gweled yn fynych deulu mawr o blant yn cael eu codi yn ddifeddwl am ddysgu eu hiaith, ac wedi tyfu i oedran yn gadael eu cartref gan ymwasgaru i wahanol gyfeiriadau, ac yn gorfod gohebu a'u rhieni mewn iaith hollol ddieithr iddynt ar bapyr, ond o bosibl yn gallu ymddiddan ychydig ynddi; rhaid iddynt o ganlyniad wrth wasanaeth rhyw gyfieithydd i wneyd eu meddyliau yn hysbys iddynt, a rhaid i'r plant drachefn wrth yr un cymorth, pan y mae eu rhieni yn gohebu a hwy yn y Gymraeg. Nid yw yr uchod ond un engraifft o'r sefyllfa chwithig y mae llawer o Gymry yn cael eu hunain trwy esgeuluso eu hiaith. Ceisir ein hargyhoeddi gan rai fod yr iaith Gymraeg yn fwy byw yn awr nag erioed, ac yn lie darfod a marw ei bod yn blodeuo yn ei henaint, a bod mwy o gyhoeddiadau misol ac wythnosol, a llyfrau o wahanol natur, yn dyfod allan o'r wasg Gymreig yn awr nag a fu mewn un cyfnod yn flaenorol. Hefyd, ei bod wedi ,cael mwy o sylw cenedlaethol yng Nghymru yn ddiweddar nag a gafodd mewn un cyfnod arall. Yr ydym bob amser yn barod i dder- byn newyddion fel yr uchod, a hyny yn galon- ogol, ond rhaid i ni addef yng ngwyneb y cyfan mai myned heibio yn raddol y mae yr iaith Gymraeg, fel dull y byd hwn, a hyny bron yn ddiarwybod. Ni raid i'r neb sydd yn sylwi ond gwylio ychydig ar symudiadau ei gydgenedl i gael ei argyhoeddi o hyn. Sylwir fod yr arferiad o bregethu yn Gymraeg ar foreu Sul, ac yn Saesneg yn yr hwyr yn myned ar gynydd parhaus. Weithiau pre- gethir baner pregeth yn Gymraeg a'r haner arall yn Saesneg. Dealler nad oes genyf ddim yn erbyn yr arferiad, os ydyw pawb o'r gwrandawyr yn hyddysg yn y ddwy iaith; ond nid felly y mae-pregethir yn Saesneg am nad ydyw y plant yn deall Cymraeg, ac yn Gymraeg am nad yw y rhieni yn deall Saesneg, neu fod yn well ganddynt glywed yr efengyl yn Gymraeg. Yn yr Ysgol Sul drachefn cawn glywed un dosbarth yn myfyrio y Beibl yn yr iaith Saes- neg a'r dosbarth arall yn yr iaith Gymraeg, a diweddir hi drachefn yr un modd, a bydd y gweddiwyr yn ddigon ystyriol fynychaf i gofio am y plant yn eu gweddiau. Clywant hwythau eu llais, ond ni ddeallant. Ceir gweinidogion eglwysi hefyd yn pregethu yn gyson yn Gym- raeg, a'u plant hwy eu hunain heb ddeall nemawr air o'r hyn lefarant. Gall hyn fod yn waeth na tharo Haw ar yr arch pan oedd y fen yn siglo. Beth yw y cwynfanau galarus a glywn o wahanol sefydliadau Cymreig yn feunyddiol, ond fod yr achosion crefyddol yn wan a dilewyrch ? Beth yw yr achos ? O! yr iaith Gymraeg sydd yn cael ei hesgeuluso; gormod o Saesneg yn y gwasanaeth crefyddol, a'r Cymry yn ymddieithrio. Y mae defnyddio yr iaith Seisnig yng ngwasanaeth y cysegr yn oeri ansawdd calon y Cymro sydd wedi teimlo gwres dwyfol yr efengyl mewn iaith sydd yn cydweddu a'i natur, ac y mae ei grefydd yn suro o dan ei dylanwad. Sylwer mai nid yn yr America, neu Llundain a threfi mawr Lloegr yn unig y mae yr iaith Gymraeg yn myn'd o arferiad, ond yng Nghymru hefyd, gyda chyflymder neillduol yn y pentrefydd sydd yn gorwedd ar lanau y mor, a hyny bron yn ddieithriad o'r De i'r Gogledd. Sylwir hefyd ei bod yn arferiad yn y llysoedd gwladol yng Nghymru i drin achosion cyfreithiol yn yr iaith Saesneg, a'r barnwyr yn fynych yn Saeson o waed, a'r Cymro unieithog yn sefyll ei brawf gerfcron y Uys, fel caethwas wedi colli ei ryddid, yn gorfod wrth wasanaeth cyfieithydd i adrodd ei dystiolaeth o flaen barnwyr estronol, a hyny yn ei wlad ei hun. O! beth difrifol a gwarthus! Y mae yr engreifftiau a nodwyd o'r modd y mae ein hiaith yn cael ei hesgeuluso yn fwy cyffredin nag y meddylir eu bod; ac yn eu gwyneb prin y gellir credu fod ein hiaith yn blodeuo, fel y myn rhai ei bod, er y gall ym- ddangos ar ryw ystyr felly, trwy fod y gofyn- iadau am gynyrchion y wasg wedi mwyhau yn ddiweddar, ond y gwir reswm am hyny ydyw fod cymaint bedair gwaith o ddarllen yng Nghymru yn awr ag sydd wedi bod, a'r gofynion am lenyddiaeth yn fwy oherwydd hyny. Hefyd, hyd yn ddiweddar yr oedd teimlad yn bodoli ymhlith llawer o grefyddwyr yn erbyn nwyddau llenyddol, os na fyddent yn seiledig ar y Beibl, ac yn arbenig y newydd- iaduron, am y credent eu bod yn bethau an- wireddus, ac yn niweidiol i achos crefydd, eithr erbyn heddyw y mae y teimlad hwn bron wedi diflanu o'r wlad, y newyddiaduron wedi myned yn bethau ipoblogaidd, a'r bobl yn sychedig am newydd-deb. Cynydd mewn addysg yn ddiau sydd wrth wraidd y cyfnew- idiad. Hyderaf y bydd ychydig o sylwadau amherffaith fel hyn yn foddion i symbylu rhai Cymry i gymeryd mwy o ddyddordeb yn eu hiaith. Y mae y Gymraeg yn iaith rhy rag- orol i'w cholli. Profodd y Cymry eu hunain yn ddoethach cenedl, yn yr amser a basiodd, na'r Gwyddelod a'r Ysgotiaid. Y maent hwy wedi gadael i'w hieithoedd farw a cheir eu blaenoriaid yn awr yn ceisio ail-enyn ysbryd cenedlaethol yn y bobl i adferu eu hiaith. Cymered y Cymry wers oddiwrth hyn, i lynu wrth eu hiaith, gan ymdrechu ei dysgu yn drwyadl. Nid peth newydd ydyw dibnsio yr hyn sydd yn ein meddiant, a hiraethu am dano ar ol ei golli.-O'r Drych.

I BEN CARNEDD LLEWELYN.