Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

EGLWYSYDDUETH AC OFFEIRIADAETH.

CYMRY LLUNDAIN A'R BIL ADDYSG.…

News
Cite
Share

,I T CYMRY LLUNDAIN A'R BIL ADDYSG. Hyd yn hyn, y mae Cymry Llundain wedi boddloni ar ymuno a'r cri cyffredin i gon- demnio y Mesur anghyfiawn presenol sydd o flaen y Senedd yn hytrach na gwneyd un ymdrech arbenig drostynt eu hunain i ddangos ei atgasrwydd i'n cenedl a'i anhegwch i Gymru. Rywfodd neu gilydd nid ydynt wedi canfod ei beryglon o'r hyn leiaf, ddim yn ddigon tan- baid i'w cynhyrfu i gynhal yr un cwrdd mawr i brotestio yn ei erbyn. w < A'i gymeryd fel Mesur gwleidyddol yn unig y mae yn syndod genym fod aelodau Cym- deithas Cymru Fydd wedi gadael i'r holl dwrw fyned heibio cyn iddynt hwy agor eu llygaid i ganfod y peryglon mawr sy' wrth ein- drysau, ond hwyrach mai prif genhadaeth y gymdeithas hono yn y blynyddoedd diweddaf hyn yw cynhal cyfarfodydd i seboneiddio eu gilydd am ryw fan weithredoedd personol nad oes a fynont nag a'n cenedl na'n cymeriad. Beth bynag yw'r achos, y maent wedi bod yn haid o edrychwyr di-daro yn y g-adgyrch bresenol. I O'r ochr arall, fel mater sydd yn dal perth- ynas agos ag egwyddorion Ymneullduaeth, I yr oeddem yn hyderu gweled yr enwadau I Cymreig yma yn ymuno i gynhal cwrdd mawr undebol i brotestio i'w erbyn gyda dylanwad anorchfygol; ond gwell ganddynt hwy wastraffu eu hamser a'u hadnoddau i gael cwrdd amhenodol ar ddydd Gwyl Dewi, lie nad oes yr un lies yn deilliaw, ond chwerwi yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr. Gadewch i ni gael deffroad o'n dyledswyddau a chodi ein llais yn unol ar fyrder yn erbyn y gorthrwm presenol a fygythir arnom gan Senedd sydd wedi anghofio pob traddodiad, a sathru dan draed bob egwyddor ynglyn a rhyddid ac iawnder.

[No title]